Hwyl fawr, a diolch am yr holl…

…heriau, awgrymiadau, a dealltwriaeth o nifer wahanol adrannau yn y brifysgol! Rwyf wedi cael amser wrth fy modd dros yr 11 mis diwethaf yn gweithio gyda’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein.

Ar ôl dechrau gyda Chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol 2020, roedd hi’n hyfryd bod yn rhan o’r un digwyddiad yn 2021  tuag at ddiwedd fy nghyfnod yn y swydd hon. Y tro hwn, fe wnes i gyflwyniad (er bod hynny yn fy rôl fel Darlithydd Theatr a Senograffeg gyda ThFfTh) – cewch hyd i recordiad o’r papur hwnnw yma (dim ond Saesneg). Mae’r ddau ddigwyddiad yn cyplysu amser prysur o ddysgu ac addysgu i mi: ar y cyd â’m cydweithwyr hyfryd, fe wnes i gynllunio, datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar bopeth o Blackboard i Vevox. Fe wnes i gefnogi staff o sawl adran wahanol i addasu o ddysgu cymysg wyneb yn wyneb, i ddysgu ar-lein yn unig, ac yn ôl. Nid gor-ddweud yw dweud fy mod wedi fy syfrdanu gan yr ymroddiad, y penderfyniad a’r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan ein cydweithwyr ledled y brifysgol. Rwy’n siŵr y bydd yr adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn parhau i gefnogi staff wrth i ni wynebu blwyddyn academaidd arall a fydd o bosibl yn llawn addasiadau angenrheidiol. Cadwch lygaid ar y tudalennau Hyfforddiant Staff – byddaf fi’n sicr yn eu defnyddio.

Wrth i mi a’m cydweithwyr, sy’n arbenigo ym maes Dysgu Ar-lein, symud ymlaen i heriau eraill, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth, ac yn arbennig i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, am fod mor groesawgar a chaniatáu i mi feithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r gwaith amlochrog y mae’r adran yn ei wneud. Diolch o galon i gyd!

Egluro Meini Prawf Asesu

Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio’n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy’n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o’r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o ystyriaethau ar waith:

  1. Mae gan staff reolaeth uwch neu is ar y meini prawf asesu y gofynnir iddynt eu defnyddio wrth farcio gwaith myfyrwyr a gall dehongliadau o’r meini prawf amrywio rhwng gwahanol aelodau o staff sy’n marcio’r un asesiad.
  2. Mae’r meini prawf asesu’n wahanol i safonau a rhaid cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y ddau yn glir i fyfyrwyr (h.y. yr hyn sy’n cael ei asesu yn erbyn pa mor dda mae maen prawf wedi’i fodloni).
  3. Yn aml asesu sy’n cymell y myfyrwyr (cf. Worth, 2014) a gall gorbwyslais ar feini prawf neu feini prawf gorfanwl arwain at ymagwedd ticio blychau’n unig.
  4. Ar y llaw arall, gall meini prawf sy’n rhy amwys neu sy’n dibynnu’n ormodol ar wybodaeth ddealledig o’r pwnc fod yn ddryslyd ac yn anhygyrch i fyfyrwyr, yn enwedig ar ddechrau eu gradd.

Dyw’r blog hwn ddim yn honni y gall ddatrys holl broblemau meini prawf asesu ond bydd yn cynnig nifer o strategaethau posibl y gallai staff ac adrannau’n ehangach eu defnyddio i egluro’r meini prawf asesu, a’r prosesau marcio, i fyfyrwyr. Drwy hyn, daw myfyrwyr yn rhan o gymuned o ymarfer, yn hytrach na chael eu trin fel defnyddwyr (cf. Worth, 2014; Molesworth, Scullion & Nixon, 2011). Gellir grwpio gweithgareddau o’r fath yn fras yn gronolegol o ran y rhai sy’n digwydd cyn, yn ystod, neu ar ôl asesiad.

Cyn yr asesiad

  • Defnyddiwch feini prawf asesu i egluro nodau a chanlyniadau ar ddechrau modiwl, gyda phwyntiau gwirio wrth agosáu at ddyddiad cau.
  • Nodwch yr anhawster wrth ddeall meini prawf marcio. Yn aml mae myfyrwyr wedi arfer â diffiniadau cul iawn o lwyddiant gyda datganiadau clir sy’n ‘ennill’ pwyntiau iddynt. O gyfuno hyn ag ofn methu, sy’n gyffredin, gall danseilio eu dealltwriaeth o’r meini prawf. Yn ogystal, mae’n bosibl eu bod yn teimlo na allant farnu eu galluoedd eu hunain yn dda yn y cyd-destun newydd hwn (prifysgol). Gall trafodaethau grŵp, nid ar ystyr meini prawf, ond ar yr hyn mae myfyrwyr yn credu yw eu hystyr, helpu i nodi jargon sydd angen eglurhad, gadael i staff egluro eu dealltwriaeth bersonol (os mai nhw sy’n marcio) a gadael i fyfyrwyr ofyn am eglurhad cyn dechrau ar asesiad.
  • Tynnwch sylw’r myfyrwyr at y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau (y beth a’r pa mor dda – a sut y caiff hyn ei amlygu yn eich disgyblaeth chi).
  • Bydd neilltuo amser i ymarfer marcio cymheiriaid yn defnyddio’r meini prawf perthnasol gyda thrafodaeth grŵp ddilynol yn helpu myfyrwyr i ddeall y broses yn well.
  • Bydd annog myfyrwyr i farcio eu gwaith eu hunain cyn cyflwyno gan ddefnyddio’r meini prawf priodol hefyd yn eu helpu i ddeall y broses yn well.
  • Gall fod yn ddefnyddiol iawn defnyddio enghreifftiau patrymol i ddangos y meini prawf a’r safonau gydag enghreifftiau penodol. Gall hyn gynnwys myfyrwyr yn marcio enghraifft yn ystod y sesiwn, gyda thrafodaeth ddilynol; enghreifftiau wedi’u hanodi sy’n rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio; neu sesiynau adborth byw lle mae myfyrwyr yn cyflwyno detholiadau o waith sydd ar y gweill a ddefnyddir (yn ddienw) i ddangos y broses farcio i’r grŵp cyfan. Yna mae hyn yn caniatáu ar gyfer cwestiynau ac eglurder ar y penderfyniadau mae marciwr yn eu gwneud wrth weithio drwy gyflwyniad. Efallai y bydd staff yn poeni bod myfyrwyr yn ystyried yr enghreifftiau fel “yr unig ffordd gywir” i ymateb i gyfarwyddyd asesiad – gall darparu amrywiaeth o enghreifftiau, yn enwedig rhai da, wrthweithio’r duedd hon. Gellir defnyddio mathau gwahanol o enghreifftiau:
    • Efallai mai ‘gwir’ aseiniadau yw’r gorau oherwydd eu cymhlethdod cynhenid (cyhyd â bod myfyrwyr y defnyddir eu gwaith yn cydsynio a bod y gwaith yn ddienw).
    • Gall enghreifftiau sydd wedi’u llunio wneud y nodweddion asesu’n fwy gweladwy.
    • Gallai detholiadau (yn hytrach na darnau llawn) fod yn fwy priodol pan fydd myfyrwyr yn dechrau edrych am y meini prawf a sut i’w trosi i’r gwaith yn ogystal â lleddfu pryderon staff am lên-ladrad.

Yn ystod yr asesiad

  • Defnyddiwch yr un iaith: gwneud y cysylltiad rhwng meini prawf asesu, safonau pwnc, a safonau’r brifysgol yn glir drwy ddefnyddio’r un derminoleg mewn adborth ag sy’n ymddangos yn y meini prawf asesu a’r datganiadau meincnodi pwnc.
  • Os bydd marcwyr lluosog yn ymwneud â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ar yr un asesiad, gall cael enghreifftiau i gyfeirio atynt helpu i sicrhau safonau clir ar draws carfannau mwy o faint.

Ar ôl yr asesiad

  • Cyfeiriwch y myfyrwyr yn ôl at y meini prawf asesu a’r trafodaethau blaenorol pan fyddant yn cael adborth a marciau.
  • Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau.

Dyw cyflwyno’r meini prawf asesu i’r myfyrwyr ddim yn ddigon. Mae’n hanfodol fod staff yn nodi ac yn egluro’r gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau ac yn egluro iaith y meini prawf asesu drwy archwilio’r wybodaeth ddealledig sydd gan staff yn sgil eu profiad. Bydd defnyddio enghreifftiau a thrafodaethau grŵp ar y rhain i bwysleisio sut mae meini prawf a safonau’n trosi i gyflwyniad yn cynnig cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio sy’n eu galluogi i ddeall yn well yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn olaf, dylai staff annog myfyrwyr yn barhaus i wneud defnydd o argaeledd y meini prawf asesu wrth weithio ar eu hasesiadau, a dylai hyn alluogi’r myfyrwyr i deimlo eu bod wedi cael paratoad gwell a bod ganddynt well ffocws yn eu hymatebion.

Cyfeiriadau

References:

Molesworth, M., Scullion, R., and Nixon, E. (eds.) (2011) The Marketisation of Higher Education and the Student as Consumer, London: Routledge

Worth, N. (2014) ‘Student-focused Assessment Criteria: Thinking Through Best Practice’, Journal of Geography in Higher Education, 38:3, pp. 361-372; DOI: 10.1080/03098265.2014.919441

Vevox i Fyfyrwyr

Yn ystod y mis diwethaf, mae’r brifysgol wedi rhoi Vevox ar waith ac wedi dechrau hyfforddi staff i’w ddefnyddio. Mae Vevox yn cyfuno polau, arolygon a Chwestiwn ac Ateb mewn un meddalwedd rhyngweithiol a gellir ei integreiddio i Microsoft Teams a PowerPoint. Rydym yn falch o weld bod y staff eisoes yn defnyddio’r meddalwedd newydd wrth addysgu a hoffem eich annog fel myfyrwyr i wneud yr un fath.
Mae tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Vevox yn dod gyda Mewngofnodi Sengl, sy’n golygu y gall myfyrwyr fewngofnodi’n ddiogel gyda’u henw defnyddiwr a chyfrinair PA. Yn yr un modd ag y mae sawl ffordd y gall staff ddefnyddio Vevox, gallai fod yn declyn defnyddiol i fyfyrwyr hefyd.
Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio polau Vevox a’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb wrth gyflwyno mewn seminarau neu weithdai, yn arbennig mewn asesiadau sy’n cynnwys ymgysylltu â’r gynulleidfa fel maen prawf. Yn yr un modd, mae Vevox yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil myfyrwyr, o ran dadansoddi a chwestiynu cynllun arolwg (e.e. drwy ddefnyddio arolygon sampl presennol Vevox), ac ar gyfer creu a chynnal eu harolygon eu hunain. Ymhellach, gellir defnyddio Vevox mewn gwaith grŵp, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gasglu syniadau ac annog mewnbwn amrywiol gan aelodau mwy tawel o’r grŵp. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar hyn o bryd, ble gall grwpiau o fyfyrwyr gynnwys aelodau o wahanol gartrefi.
Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut y gall myfyrwyr ddefnyddio Vevox wrth ddysgu ac rydym yn annog staff i hysbysu myfyrwyr y gallant hwy hefyd ddefnyddio’r feddalwedd yn rhad ac am ddim. Mae ein canllawiau Vevox yma (Cymraeg a Saesneg) a’n fideos Canllaw yma (Cymraeg a Saesneg). Mae’r Uned Dysgu ac Addysgu ar gael ynghyd â’r Tîm Vevox i’ch helpu ag unrhyw ymholiadau technegol a allai godi, gan roi cymorth i fyfyrwyr, cymorth nad yw ar gael wrth ddefnyddio meddalwedd eraill rhad ac am ddim.

Myfyrdodau ar Gynhadledd Fer mis Mawrth 2021

Ddydd Iau 25 Mawrth, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu eu hail gynhadledd fer o’r flwyddyn academaidd. Gan ganolbwyntio ar y thema o ymgorffori lles yn y cwricwlwm, daeth y gynhadledd â siaradwyr mewnol ac allanol ynghyd i drafod: adnabod rhwystrau i les myfyrwyr, meithrin gwytnwch mewn myfyrwyr, ac annog myfyrwyr i ffynnu.

Roedd gan y gynhadledd amrywiaeth o siaradwyr o Brifysgol Aberystwyth, yn ogystal â siaradwr allanol o Goleg Cambria. Roedd y pynciau’n amrywio o’r gwaith parhaus ar les gan y tîm Cymorth i Fyfyrwyr, lles mewn rhaglenni blwyddyn sylfaen, a meithrin gwytnwch y myfyrwyr i ail-lunio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu, a phersonoli dulliau o ymgysylltu â myfyrwyr a’u gwaith. Gwnaeth y siaradwyr gwadd, Frederica Roberts a Kate Lister ganolbwyntio ar addysg gadarnhaol a chymunedau ar-lein yn y drefn honno. Yn ysbryd y gynhadledd, gwnaeth yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu hefyd drefnu dau weithgaredd yn ystod yr egwyl yn y bore a’r prynhawn: ioga desg a myfyrdod dan arweiniad gyda’r athrawes ioga leol, Regina Hellmich, a dywedodd nifer o fynychwyr y gynhadledd mai hwn oedd un o uchafbwyntiau’r gynhadledd. Daeth y gynhadledd i ben gyda sesiwn lawn ble’r oedd pawb yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu dirnadaeth ac adnabod ffyrdd o gymhwyso arferion da i’r dyfodol.

Os gwnaethoch chi fethu’r gynhadledd fer neu rannau ohoni, gallwch gael mynediad i recordiadau o’r rhan fwyaf o’r cyflwyniadau yma. Mewngofnodwch gyda’ch cyfeirnod a chyfrinair Aberystwyth. Hefyd, rydym yn eich annog yn gryf i gofrestru ar gyfer ein Fforwm Academi nesaf ar 20 Ebrill, “Sut alla i ymgorffori lles i’r cwricwlwm?” – edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Sut i sicrhau bod recordiadau anghydamserol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol

Mae cynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw wedi dod yn ffactor allweddol wrth gyflwyno cyrsiau a galluogi’r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae sawl strategaeth y gall darlithwyr eu defnyddio i sicrhau bod y recordiadau hyn yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol.

Mae sawl mantais i ddarlithoedd anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw, ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr – y genhedlaeth YouTube – yn adnabod y dull hwn o ddysgu yn dda iawn (Scagnoli, Choo a Tian, 2019). Rhai manteision yw y gall myfyrwyr reoli eu hymgysylltiad â’r cynnwys a’u bod yn gwerthfawrogi’r cyfleustra a’r hyblygrwydd y mae recordiadau anghydamserol yn ei roi iddynt, yn arbennig o ran cyflymdra’r dysgu a bod modd iddynt wylio drosodd a throsodd (Dale a Pymm, 2009; Ramlogan et al., 2014; Scagnoli, Choo a Tian, 2019).

Mae hi’n hanfodol felly bod staff yn amlinellu beth maent yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr o ran ymgysylltu â’r deunyddiau dysgu, a hynny yn y fideos a recordiwyd yn ogystal â’r sesiynau wyneb yn wyneb.

Darganfu Scagnoli, Choo a Tian (2019) bod dros hanner myfyrwyr israddedig yn llai tebygol o ymgysylltu â chynnwys anghydamserol a recordiwyd o flaen llaw os oeddent yn teimlo nad oedd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gweithgareddau yn y sesiynau neu ag aseiniadau. Mae gwneud cyswllt eglur rhwng elfennau gwahanol o fodiwl, yn y cynnwys a recordiwyd eisoes a’r sesiynau wyneb yn wyneb, felly yn eithriadol o bwysig.

Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi cymdeithas a phresenoldeb wrth addysgu, ac yn fwy tebygol o fod yn wybyddol bresennol eu hunain (h.y. gwneud penderfyniad ymwybodol i ymgysylltu â’r ddarlith sydd wedi’i recordio yn unig, yn hytrach na cheisio amldasgio), os ydynt yn teimlo’n gysylltiedig â’r gymuned ddysgu. Yn syml: mae eich presenoldeb yn y deunyddiau wedi’u recordio yn hanfodol. Os yw’n bosibl, dangoswch eich wyneb, edrychwch ar y camera, a byddwch yn bresennol yn y recordiad . Yn enwedig gan fod y myfyrwyr, o bosibl, ond yn adnabod hanner uchaf eich wyneb, os o gwbl, mae gallu ymgysylltu â darlithwyr fel pobl yn ffordd allweddol o sicrhau bod eich cynnwys a recordiwyd yn ennyn mwy o frwdfrydedd.

Ystyriwch fod y myfyrwyr yn debygol iawn o ymgysylltu â darlithoedd a recordiwyd ar eu pennau eu hunain. Mae’r fideos felly’n sgwrs uniongyrchol, un i un. Addaswch eich cyflwyniad i fod yn fwy uniongyrchol, yn hytrach na’r modd y byddech chi’n traddodi darlith i ddarlithfa gyda 100 o fyfyrwyr.

Wrth ymgysylltu â’r fideos, mae talpio yn hanfodol. Nid yw’n ddigon recordio darlith a’i rhannu’n ddwy. Mae cynnwys tasg bob 5 i 10 munud yn torri’r ddarlith i fyny, yn gosod cyfrifoldeb am y dysgu ar y myfyrwyr, ac yn cynyddu’r rhyngweithio. Gallai hyn gynnwys

• Cwisiau (gellir ychwanegu’r rhain yn Panopto, ac oedi’r recordiad nes eu bod wedi’u cwblhau)
• Ysgrifennu sydyn (rhoi 2-3 munud i’r myfyrwyr ysgrifennu unrhyw wybodaeth bresennol sydd ganddynt neu grynhoi eu dealltwriaeth o bwnc hyd yma)
• Defnyddio’r nodweddion Nodiadau a Thrafodaeth yn Panopto (gellid defnyddio’r rhain ar gyfer Ysgrifennu Sydyn)
• Polau rhyngweithiol (gall y canlyniadau ffurfio sail i drafodaeth wyneb yn wyneb wedyn)

Yn yr un modd, mae gweithgareddau cyfochrog y gallech eu cynnwys ar gyfer eich myfyrwyr, megis cwestiynau am y pwnc, wedi’u darparu fel copi digidol o flaen llaw, y gall y myfyrwyr eu hateb wrth iddynt ymgysylltu â’r ddarlith (neu gallant ddewis eu defnyddio fel strwythur ar gyfer tasg Ysgrifennu Sydyn). Mae herio’r myfyrwyr i ddod â chwestiynau sydd wedi codi yn ystod darlith anghydamserol i sesiwn wyneb yn wyneb yn ffordd arall o annog ymgysylltiad â chynnwys a recordiwyd.

Dyma rai strategaethau eraill ar gyfer annog ymgysylltiad

• Egluro’n gwbl glir beth fydd y myfyrwyr yn ei elwa o’r sesiwn
• Defnyddio sleidiau clir, syml a graffig (cofiwch hygyrchedd)
• Crëwch fwrdd stori neu sgript ar gyfer eich cynnwys, os oes angen, i gynnal strwythur eglur o’r dechrau i’r diwedd
• Gorffennwch drwy atgoffa’r myfyrwyr o’r prif bwyntiau a beth yw’ch disgwyliadau o ran y gweithgareddau annibynnol cyn y sesiwn nesaf

Rydym yn argymell ein cyfarwyddyd ar ‘y ffordd orau o ddefnyddio’ch llais wrth recordio’ (isdeitlau dwyieithog yn y fideo) ac yn eich gwahodd i ymuno ag unrhyw sesiynau hyfforddi DPP perthnasol (dolen i’r sesiynau yma).

Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb ac addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus

Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb yn llwyddiannus:
Dylai pob aelod o staff ymdrechu i amlhau’r amser y mae myfyrwyr yn gweithio cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr, pan fo’n bosibl. Ond, pan nad yw hyn yn bosibl, gall myfyrwyr droi at ei gilydd, i drafod mewn seminar er enghraifft, cyhyd â bod arferion lliniarol eraill ar waith (awyru, masgiau, pellhau cymdeithasol).

Gellir cychwyn trafodaeth fer (10 munud) ymhlith y myfyrwyr drwy ddefnyddio technolegau rhyngweithiol megis meddalwedd pleidleisio i alluogi myfyrwyr i gasglu eu gwybodaeth a chychwyn trafodaeth lawn, lle bydd yr holl fyfyrwyr yn wynebu ymlaen eto. Dylid cynnal mwyafrif y sesiynau wyneb i wyneb gyda’r myfyrwyr wedi’u lleoli cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr.

Noder:
• Dylai unrhyw weithgareddau lle mae’r myfyrwyr yn wynebu ei gilydd fod mewn grwpiau bach iawn (parau neu grwpiau o dri) i leihau maint cyffredinol y dosbarth ac i sicrhau y gall pawb gyfrannu.
• Mae atgoffa myfyrwyr o arferion sgwrsio da, ble mae pobl yn cymryd eu tro i siarad, yn hanfodol i leihau cyfanswm y sgyrsiau, ac felly cyfanswm y defnynnau aerosol.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi gosod a/neu haenog, gall trafodaeth o’r fath fod yn anodd, gan na chaiff myfyrwyr newid seddi.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi symudol, ni ddylid newid gosodiad yr ystafell, a dylai’r staff sicrhau bod myfyrwyr yn cadw pellter cymdeithasol bob tro wrth droi at eraill.

Cyngor ar reoli addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus:
• Nodwch eich disgwyliadau’n glir: beth all y myfyrwyr sy’n ymuno o bell ei ddisgwyl? A fyddant yn arsylwi? A fyddant yn cyfrannu? Beth yw cyfyngiadau cymryd rhan o bell?
• Galluogwch dasgau rhyngweithiol sy’n dod â myfyrwyr o bell ac ar y safle at ei gilydd, er enghraifft polau rhyngweithiol y gall pawb gael mynediad iddynt ar yr un pryd.
• Os yw’r niferoedd yn afreolaidd iawn a bod mwyafrif y myfyrwyr yn bresennol mewn un modd (e.e. dim ond un myfyriwr yn ymuno o bell), gwahoddwch fyfyrwyr ar y safle i’r sesiwn ar-lein gan ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain i alluogi trafodaeth rhwng cyfoedion.

Gwobr Cwrs Nodedig – Symleiddio’r Broses Ymgeisio

Bob blwyddyn, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gwobr Cwrs Nodedig. Mae’r wobr hon yn cydnabod yr arferion gorau o ran defnyddio Blackboard. Mae’r postiad blog hwn yn sôn am y newidiadau yr ydym wedi’u gwneud i’r broses. Cewch wybod hefyd pryd fydd y sesiynau hyfforddi penodol hyn yn cael eu cynnal, pam ddylech ymgeisio a phryd y dylech wneud hynny, ynghyd â’r dyddiad cau.
Er mwyn ichi ddeall pa fath o fodiwl fyddai’n deilwng o Wobr Cwrs Nodedig, gallwch wylio cyflwyniadau enillwyr y llynedd am eu modiwlau buddugol yma (Lara Kipp, yn Saesneg yn unig, a Rhianedd Jewell, yn Gymraeg a Saesneg).
Yng ngoleuni’r heriau a ddaeth i’n rhan ni i gyd y flwyddyn academaidd hon, rydym wedi dod at ein gilydd i ystyried sut y gallem symleiddio’r broses, gan obeithio y bydd rhagor fyth o geisiadau’n dod i law i’w hystyried eleni. Mae hon yn dal i fod yn broses gadarn a manwl iawn, ond rydym wedi gwneud rhai newidiadau allweddol i annog rhychwant mor eang â phosib o bobl i roi cynnig arni.

Beth sydd wedi newid?
• Gallwch bellach gyflwyno’ch cais mewn dwy ffordd: naill ai ar ffurf naratif ysgrifenedig hyd at 500 gair neu recordiad Panopto hyd at 4 munud.
• Rydym wedi symleiddio’r ffurflen fel mai dim ond ticio’r maen prawf i gadarnhau eich bod wedi’i bodloni sydd raid. Does dim angen treulio oes yn ystyried faint o bwyntiau y dylech eu dyfarnu i’ch hun.
• Mae pwysoliad y meini prawf bellach wedi’i ymgorffori yn y ffurflen, sy’n golygu nad oes rhaid i ymgeiswyr gyfrifo’r sgôr mwyach.

Read More

Datblygu Proffesiynol Parhaus – Beth sydd ar gael?

Mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu’n cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd y sesiynau Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar y wefan hyfforddiant staff.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn sôn am yr amrywiaeth o sesiynau a gynigir i chi rhwng hyn a mis Ionawr, gyda phwy y dylid cysylltu i gael mwy o wybodaeth, a sut i gadw lle ar un o’r sesiynau.

Dyma sy’n cael ei gynnig dros y misoedd nesaf:

Mis Tachwedd:
• Sesiynau ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Graddedig, Datblygu eich Arferion Addysgu a Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu Syncronaidd (sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael)
• Sesiwn ar annog cymhelliant cynhenid myfyrwyr – o safbwynt damcaniaeth hunanbenderfyniad (Facilitating Intrinsic Motivation in Students – the Self Determination Theory Perspective) (Saesneg yn unig)
• Sesiynau ar Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard, TurnitIn a Panopto (y cyntaf o’r tri yn Saesneg, yr ail a’r trydydd yn Gymraeg)
• Sesiynau ar greu deunyddiau dysgu hygyrch, amgylcheddau dysgu, a thechnegau ar gyfer dysgu pynciau gwyddonol yn ogystal â defnyddio Online Surveys Jisc (yn Saesneg i gyd)
• Cynhelir dau fforwm Academi ar Pam a Sut y Dylid Helpu Myfyrwyr i Fyfyrio ar eu Dysg, a Strategaethau er mwyn Ysgogi Ymroddiad i Ddysgu Ar-lein.

Read More

Cynhesu’r Llais a Thechnegau Recordio Gartref

Mae siarad i mewn i wactod eich cyfrifiadur ar gyfer deunyddiau sydd wedi’u recordio ymlaen llaw yn anodd. Heb gynulleidfa i ryngweithio gyda chi, mae’n anodd gwybod a ydych chi’n cyflwyno’r deunydd yn glir ac yn ddifyr. Ar ben hynny, rydym ni’n defnyddio ein lleisiau’n wahanol iawn gan ddibynnu ar yr amgylchiadau – wrth recordio yn eich swyddfa neu gartref, bydd y ffordd rydych chi’n defnyddio eich llais yn wahanol i gyflwyno wyneb yn wyneb arferol. Dyma ambell awgrym a all helpu i sicrhau bod vignettes wedi’u recordio ymlaen llaw yr un mor ddiddorol â’ch sesiynau fyw:

1. Gorbwysleisiwch y geiriau – bydd hyn yn helpu capsiynau awtomatig ac yn pwysleisio geiriau unigol, fydd yn golygu ei bod yn haws deall a dilyn beth rydych chi’n ei ddweud.
2. Amrywiwch gyflymder y cyflwyno – cymerwch eich amser os oes angen, ond gofalwch beidio â setlo i rythm rhy reolaidd. Bydd newid cyflymder yn tynnu sylw’r gwrandawyr yn ôl at beth rydych chi’n ei ddweud.
3. Defnyddiwch rannau gwahanol o’ch cwmpas lleisiol – dydyn ni ddim yn awgrymu eich bod yn actio cymeriadau gwahanol, ond ceisiwch osgoi bod yn undonog: rydych chi’n gwybod beth rydych chi’n siarad amdano, ond efallai mai dyma’r tro cyntaf i’r myfyrwyr ei glywed. Mae llais undonog yn ei wneud yn ddiflas ac yn ddibwys, pan nad yw hynny’n wir.

Mae’r uchod yn ffyrdd o ddynwared yr amrywiadau sy’n digwydd mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb, ac mewn digwyddiadau byw lle’r ydych chi’n bwydo oddi ar ymateb a diddordeb eich cynulleidfa. Does neb yn gofyn i chi ailhyfforddi fel perfformiwr YouTube, ond mae rhai o’r technegau lleisiol a ddefnyddir mewn fideos o’r fath yn gallu bod yn ddefnyddiol ac yn gwneud deunyddiau sydd wedi’u recordio’n fwy difyr. Mae’n cymryd llawer o egni a ffocws i siarad i mewn i ddim byd ond eich cyfrifiadur eich hun. Mae’r uchod yn driciau ieithyddol a lleisiol syml ond effeithiol sy’n gallu eich helpu i siarad yn ddifyr â chynulleidfa ddychmygol.

Dyma fideo i’ch helpu chi.

Dau ganllaw: Rhestr Wirio Recordio Fideo a Chyngor ar Recordio Fideo

Wrth i fwy a mwy o ddeunyddiau fod ar gael ar-lein, gan gynnwys darlithoedd sy’n cael eu recordio ymlaen llaw, mae’n hawdd cael eich llethu: yn ogystal ag addasu deunyddiau dysgu er mwyn eu cyflwyno yn y dull gwahanol hwn a symleiddio gwybodaeth yn rhannau byrrach, gall agweddau ymarferol recordio fideos addysg fod yn dasg go frawychus. Ond peidiwch â phoeni! Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi creu dau ganllaw, Rhestr Wirio Recordio Fideo a Chyngor ar Recordio Fideo.
Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw un yn disgwyl sgrin werdd berffaith na swae ryngweithiol aml-ffrwd yn steil y Minority Report. Os byddwch chi’n dilyn y rhestr wirio, fydd hi ddim yn anodd i chi sicrhau bod eich fideos yn rhai o safon dda. Mae’r cyngor yn rhoi cymorth ychwanegol i chi wella eich sgiliau recordio fideos.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, os hoffech chi fwy o arweiniad neu eglurhad, cofiwch fod croeso i chi anfon e-bost at yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu: lteu@aber.ac.uk ac eddysgu@aber.ac.uk.