Mae DA Cynhyrchiol wedi creu her arbennig ar gyfer arferion asesu.
Ar brynhawn dydd Mercher 25 Tachwedd, bydd y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn cynnal digwyddiad arbennig ar arferion gorau gan ganolbwyntio ar ddylunio asesiadau yng nghyd-destun DA Cynhyrchiol.
Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan gydweithwyr i rannu eu harferion asesu arloesol mewn sgyrsiau byr 10–15 munud o hyd.
Rydym yn chwilio am gymysgedd o asesiadau sydd naill ai wedi’u cynllunio i:
Gynnwys y defnydd o DA Cynhyrchiol neu i
Atal y defnydd o DA Cynhyrchiol a gwella dilysrwydd asesiadau
Cawsom y pleser o roi cyflwyniad yn ddiweddar yng Ngrŵp Defnyddwyr Blackboard am y Wobr Cwrs Eithriadol a gynhelir yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Blackboard yn rhedeg eu Rhaglen Cwrs Eithriadol eu hunain, ac rydym yn defnyddio hwn fel sail i’n gwobr.
Roedd y cyflwyniad, Celebrating Excellence, Shaping Practice: Aberystwyth University’s Exemplary Course Award Programme, yn mapio hanes y digwyddiad yma yn PA.
Rydyn ni wedi bod yn cynnal y Wobr Cwrs Eithriadol ers 2014. Yn yr amser hwnnw, mae dros 50 o fodiwlau wedi cyflwyno ceisiadau.
Ers dechrau’r wobr, rydym wedi cael ceisiadau o bob adran o’r Brifysgol. Mae’r rhai sy’n cynnig darpariaeth addysgu ar y campws, Cyrsiau Dysgu Gydol Oes, Cyrsiau Dysgu o Bell, cyrsiau Cymraeg a chyfrwng Saesneg, cyrsiau mawr a bach oll wedi derbyn y wobr.
Yn y cyflwyniad, fe wnaethom roi trosolwg o sut rydym yn rheoli’r broses a thrafod effaith cynnal y wobr dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae ethos y broses bob amser wedi rhoi cyfle i ymgeiswyr wella a mireinio eu cwrs cyn cyflwyno.
Rydym wedi edrych ar y ffyrdd yr ydym wedi nodi llwyddiant dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r newidiadau rydyn ni wedi’u cymhwyso i symleiddio’r broses.
Fe wnaethom hefyd drafod sut y gallem newid hyn ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ystyried ffyrdd y gellir cynnwys llais y myfyrwyr yn y broses enwebu. Rydym hefyd yn ystyried cynnal gwobrau llai ochr yn ochr â’r Wobr Cwrs Eithriadol – gwobr sy’n canolbwyntio ar bob un o’r 4 maen prawf: Dyluniad y Cwrs, Asesu, Rhyngweithio a Chydweithio, a Chymorth i Ddysgwyr.
Ymunodd enillwyr gwobrau blaenorol â ni: Lauren Harvey (Y Gyfraith a Throseddeg) a Mari Dunning (Dysgu Gydol Oes).
Siaradodd Lauren a Mari am eu cyrsiau yn ogystal â’u profiad o ymgysylltu â’r broses.
Ym mis Ebrill, fe wnaethom gynnal Cynhadledd Fer ar Gyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gymryd rhan mewn Diwrnod Trwsio’ch Cynnwys gyda Blackboard Ally, gan wneud cynnwys ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hyd yn oed yn fwy hygyrch. Daethom yn 3ydd yn y DU ac yn 60fed ar y tabl rhyngwladol.
Rydym yn cynllunio ein Cynhadledd Fer nesaf mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Taith y Myfyriwr ar gyfer Ebrill 2026. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
A chynhelir ein 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr rhwng 8-10 Medi 2026. Cadwch lygad am ddiweddariadau, galwad am gynigion, a chyhoeddiadau ynghylch siaradwyr allanol.
Mae ein rhaglen hyfforddi ar gael ar y system archebu ar gyfer Semester 2 i gydweithwyr archebu lle.
Edrychwn ymlaen at weithio ymhellach â chi yn 2026.
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Cyflwyniad i Offer E-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Adnodd Pleidleisio: Vevox:
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein prif siaradwr ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni. Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor.
Bydd Dr Neil Currant yn ymuno â ni ar gyfer prif gyflwyniad wyneb-yn-wyneb a gweithdy dosbarth meistr ar ail ddiwrnod y gynhadledd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf.
Bydd Neil yn trafod rôl bwysig asesu tosturiol, perthyn, ac arferion asesu cynhwysol.
Yn y gweithdy, bydd cyfle i gydweithwyr fyfyrio ar eu harferion asesu eu hunain a’r ffyrdd y gallent eu hymgorffori a’u haddasu yn seiliedig ar gyflwyniad Neil. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud yn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.
Gweler bywgraffiad y siaradwr a dolenni at weithiau a phrosiectau dethol isod:
Mae Dr Neil Currant yn Uwch Ddatblygwr Addysgol ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Mae Neil wedi bod yn cefnogi arferion addysgu, dysgu ac asesu ym maes addysg uwch ers ugain mlynedd, ac mae ganddo arbenigedd mewn cynhwysiant ac asesu.
Mae Neil wedi bod yn rhan o brosiectau ymchwil a ariennir gan JISC ar ddefnyddio technoleg dysgu, prosiect a ariennir gan AU Ymlaen ar ddinasyddiaeth fyd-eang, ymchwil sefydliadol ar fylchau dyfarnu a phrosiectau a ariennir gan ASA ar berthyn a thosturi.
Mae Neil yn adolygydd ac yn achredwr ar gyfer AU Ymlaen. Cyd-sefydlodd Neil y Rhwydwaith Asesu Tosturiol mewn Addysg Uwch, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i arferion asesu sy’n gysylltiedig â thosturi, effaith affeithiol adborth, a pheidio â defnyddio graddau.
Byddwn yn cyhoeddi siaradwyr allanol pellach maes o law.
Galw am Gynigion
Mae ein Cais am Gynigion yn dal ar agor, ac yn cau ar 8 Ebrill. Rydym yn croesawu cynigion sy’n ymwneud â themâu’r gynhadledd, ond hefyd y rhai sy’n arddangos yr arferion addysgu rhagorol sy’n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyfnod Archebu ar agor
Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor. Cwblhewch ein harolwg ar-lein i archebu eich lle.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Rydym yn falch o gyhoeddi thema’r 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a gynhelir rhwng 8 a 10 Gorffennaf 2025.
Y thema yw: “Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr: Addasu, Ymroi, a Ffynnu”.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys y meysydd canlynol:
Dylunio asesiadau y gellir eu haddasu
Ymroddiad myfyrwyr a dysgu annibynnol
Meithrin cymuned
Technolegau i wella dysgu
Dysgu ar-lein
Bob blwyddyn, rydym yn siarad â’n grŵp rhanddeiliaid ac aelodau eraill o’r Brifysgol i benderfynu ar bynciau a fydd yn ddefnyddiol i’n cydweithwyr.
Mae’r maes cyntaf, sef dylunio asesiadau y gellir eu haddasu, yn dwyn ynghyd ddarn o waith gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, sy’n amlygu dulliau hyblyg o ddylunio asesiadau, asesiadau â sawl fformat, a dylunio asesu dilys.
Mae ymroddiad myfyrwyr a meithrin dysgu annibynnol yn parhau i fod yn her allweddol i gydweithwyr. Yn y maes hwn, mae gennym ddiddordeb mewn strategaethau ar gyfer meithrin annibyniaeth wrth ddysgu, ffyrdd y gellir sgaffaldio dysgu, ac ymgorffori sgiliau ar gyfer dysgu a’r gweithle i raddedigion.
Mae ein trydydd maes, sef meithrin cymuned, yn ceisio tynnu sylw at les yn y cwricwlwm gan ystyried dulliau o weithio sydd yn fwy ystyriol o drawma, sut mae cymunedau dysgu ar-lein yn cael eu creu, a defnyddio dadansoddeg dysgu. Mae addysgeg gynhwysol yn ganolog i’r holl themâu hyn.
Yn y maes technolegau i wella dysgu, bydd gennym ddiddordeb i glywed am astudiaethau achos cadarnhaol ac am ffyrdd o ymgorffori DA yn yr ystafell ddosbarth, am ffyrdd uwch a rhagorol o ddefnyddio Blackboard Ultra, ac am arferion da mewn addysgu yn yr oes ddigidol.
Mae ein maes olaf, sef dysgu ar-lein, yn cyfeirio at waith Prosiect Dysgu Aber Ar-lein mewn partneriaeth â HEP, yn pontio dysgu ar y campws i ddysgu ar-lein, a strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu ar-lein.
Bydd yr Alwad am Gynigion yn agor yn fuan a chyfle i archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk.
Mae’r Grŵp Addysg Ddigidol mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn falch o gyhoeddi’r thema ar gyfer ein Cynhadledd Fer nesaf.
Gan adeiladu ar lwyddiant Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd, byddwn yn ailedrych ar y pwnc cyflogadwyedd gyda’r thema Cyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol.
Bydd y gynhadledd fer yn cael ei chynnal ar-lein fore Mawrth 8 Ebrill.
Bydd y rhestr lawn yn cael ei chadarnhau maes o law ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn lansio eu pecyn cymorth newydd ar gyfer ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.
Mae modd archebu ar gyfer y digwyddiad nawr. Gallwch archebu’ch lle ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 8 Gorffennaf hyd ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025.
Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei digwyddiad olaf o’r flwyddyn.
Ddydd Mercher 18 Rhagfyr (10:00-14:30), byddwn yn cynnal Cynhadledd Fer ar-lein yn edrych ar Bresenoldeb Blackboard Eithriadol.
Rydym yn falch iawn o gael dau gyflwynydd allanol yn ymuno â ni.
Daw Carol Chatten o Brifysgol Edge Hill a bydd yn arddangos eu Cwrs Meddygol ac Addysg. Enillodd y cwrs hwn wobr ECP Blackboard yn ddiweddar.
Bydd Robert Farmer o Brifysgol Northampton yn rhannu eu cwrs ar Feddwl yn Feirniadol a enillodd wobr ECP Blackboard hefyd.
Hefyd yn ymuno â ni i rannu eu cyrsiau buddugol mae Panna Karlinger o’r Ysgol Addysg a Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Cymerodd y ddwy ran yn ein Gwobr Cwrs Eithriadol mewnol y llynedd.
Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli mynychwyr ac yn rhoi syniadau i gydweithwyr ynghylch sut y gallant ddatblygu eu cyrsiau cyn Semester 2.
Rydym hefyd yn defnyddio’r digwyddiad hwn fel sbardun i ddechrau meddwl am well presenoldeb ar Blackboard.
Ac yn olaf, byddwn yn rhannu’r offer Cynorthwyydd Dylunio DA diweddaraf yr ydym yn bwriadu ei alluogi ym mis Ionawr: AI Conversations. Mae hyn yn adeiladu ar yr offer Cynorthwyydd Dylunio DA eraill yr ydym eisoes wedi’u galluogi yn Blackboard.
Gall cydweithwyr archebu lle ar gyfer y digwyddiad hanner diwrnod hwn drwy’r system archebu ar-lein a bydd gwahoddiad Teams yn cael ei anfon allan.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (eddysgu@aber.ac.uk).
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Cyflwyniad i’r arlwy e-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs penodol ei hun yn Blackboard. Mae gan y modiwlau hyn gynnwys ar-lein, fel rhestrau darllen, a manylion staff addysgu. Dyma’r prif bwynt cyswllt am wybodaeth i’ch myfyrwyr ar unrhyw fodiwl, gan gynnwys mynediad at ddarlithoedd wedi’u recordio a chyflwyno aseiniadau. Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboardar gyfer pob modiwl.
Cipio Darlithoedd: Panopto
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, byddwch yn ymwybodol y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar drosglwyddo gwybodaeth o staff i fyfyrwyr) yn defnyddio Panopto, ein meddalwedd Cipio Darlithoedd. Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd.
E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr amlinellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol. Ar gyfer hyn rydym ni’n defnyddio’r teclynau e-gyflwyno Turnitin aBlackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu swyddogaeth paru testun awtomatig.
Offer Pleidleisio: Vevox
Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi. Mae’r rhain yn cynnwys:
sesiynau ymarferol i staff ymgyfarwyddo â gwahanol elfennau o’r amgylchedd dysgu rhithwir,
yr agenda Dysgu Gweithredol,
asesu ac adborth,
hygyrchedd,
sgiliau cyflwyno, a mwy.
Rydym ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhaglenni hyfforddi. Ceir manylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle drwy ein Tudalen Archebu Cwrs. Rydym ni’n cyflwyno rhai sesiynau ein hunain, tra bo eraill yn cael eu cyflwyno gan staff y brifysgol y mae eu haddysgu’n cynnwys arfer da yn y meysydd hynny. Edrychwch am (D&A) yn nheitl y sesiwn.
Digwyddiadau
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, Cynadleddau Bach, Gwyliau Bach a Fforymau Academi. Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd gwych i gyfarfod â phobl o bob rhan o’r brifysgol i drafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu.