Canllaw Blackboard Learn Ultra i Fyfyrwyr ar gael

Mae deunyddiau cymorth i gynorthwyo myfyrwyr gyda Blackboard Learn Ultra bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi creu Canllaw Myfyrwyr yn benodol ar gyfer Ultra y gellir ei lawrlwytho.

Rhoddwyd gwybod i’r myfyrwyr am y newid i Blackboard cyn diwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Fel rhan o’r symudiad i Ultra mae ein Cwestiynau Cyffredin wrthi’n cael eu diweddaru.

Cyrsiau Ultra 2023-24

Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra.

Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn meddwl ei fod yn haws i’w ddefnyddio – yn enwedig ar ddyfeisiau symudol.

Mae gan gyrsiau Ultra yr un dyluniad hygyrch a chyfeillgar i ffonau symudol ag UBN – dyma sut mae cwrs Ultra yn edrych:

Sgrinlun o Gwrs Ultra Blackboard

Oherwydd y ffordd y mae wedi’i ddylunio, nid oes gan gwrs Ultra fyth mwy na dwy lefel o ffolderi – mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer cyflymach ac yn haws dod o hyd i’ch deunyddiau cwrs a’r dolenni cyflwyno aseiniadau. Ac mae yna hefyd offer chwilio ym mhob cwrs.

Rydym hefyd wedi ailgynllunio templed y cwrs i sicrhau ei fod yn defnyddio’r iaith y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddi. Os yw eich modiwl yn cael ei addysgu yn Gymraeg, bydd templed eich cwrs nawr yn Gymraeg. Ac mae gan fodiwlau dwyieithog dempled cwrs dwyieithog.

Mae llawer o wybodaeth am Ultra ar wefan Blackboard, gan gynnwys cyflwyniad i lywio eich ffordd o amgylch Cwrs Ultra (Noder – mae’r fideo ar y dudalen hon ar safle allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig). 

Mae holl gyrsiau y blynyddoedd blaenorol yn dal i fod ar gael – felly os oes angen edrych yn ôl ar ddeunyddiau hen gwrs, gallwch wneud hynny hefyd.

Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.

Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhoi fersiwn newydd o Turnitin ar Blackboard.

Er y bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau presennol Turnitin yn aros yr un fath, bydd rhai newidiadau. 

I helpu myfyrwyr gyda’r newid hwn, rydym wedi llunio’r Cwestiynau Cyffredin canlynol:

Bydd ein tudalennau gwe a’n canllawiau cymorth yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Rhoi Dulliau Ysgrifennu Academaidd ar waith i bob adran – Llysgenhadon Dysgu

Distance Learner Banner

Ysgrifennwyd gan Lucie Andrews, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Mae’r modiwlau Blackboard gorau wedi’u trefnu’n effeithiol, yn hawdd llywio drwyddynt ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ffyrdd o ddefnyddio Blackboard fel adnodd ar gyfer sgiliau astudio ac ymddygiad academaidd rhagorol. Yn ystod y prosiect Llysgenhadon Dysgu, buom yn trafod beth sy’n gwneud modiwl Blackboard yn un sydd wedi’i gynllunio’n dda. Roedd rhywfaint o’r adborth yn ymwneud â’n teimlad nad oedd y canllaw cyfeirio a dyfynnu yn hawdd cyrraedd ato nac yn ddigon cynhwysfawr i ddiwallu holl anghenion y myfyrwyr. Trafodwyd  y syniad o gynnwys atebion model i’r aseiniad fel templed o’r hyn y mae angen ei gynnwys a sut i fformatio aseiniadau’n gywir. Un ffordd o weithredu ar yr adborth hwn fyddai cynnwys ffolder newydd yn yr adran asesu ac adborth sy’n canolbwyntio ar sgiliau astudio er mwyn gwneud Blackboard yn adnodd gwell i fyfyrwyr.              

Wrth ddadansoddi’r gwahanol ddulliau o ddefnyddio gwahanol adrannau ar Blackboard yn ystod y profion defnyddioldeb, sylweddolais fod adran ddefnyddiol o’r enw Dulliau Ysgrifennu Academaidd   yn newislen modiwl fy adran, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, nad oedd yn newislenni adrannau eraill. Felly, byddwn yn argymell y dylai ‘Dulliau Ysgrifennu Academaidd’ fod ar waith ym mhob adran trwy greu ffolder ychwanegol yn yr adran asesu ac adborth i weithredu ar rywfaint o adborth y myfyrwyr. Pam y dylech chi ystyried hyn? A beth fydd cynnwys y ffolder newydd hon? Gan mai Blackboard yw’r wefan a ddefnyddir ar gyfer yr elfen ddysgu a’r elfen academaidd o brofiad y myfyrwyr, credaf y byddai pob myfyriwr yn elwa o ffolder un pwrpas sy’n cyflwyno sgiliau astudio ac chyngor i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu weithio tuag at ymddygiad academaidd rhagorol. Yn y ffolder hon, byddai rhestr unigryw o sgiliau astudio cysylltiedig ag anghenion pob adran. Dyma dempled cyffredinol o’r hyn y gallai’r ffolder hon gynnwys:

  • canllaw cyfeirio a dyfynnu manwl sy’n bodloni taflen arddull pob adran
  • canllaw o awgrymiadau a sgiliau astudio hanfodol gan gynnwys pwyntiau buddiol ar gyfer ysgrifennu traethodau
  • dolenni i weithdai a gynigir gan y brifysgol ar sgiliau astudio
  • Cwestiynau Cyffredin ar sgiliau astudio a gwybodaeth gyffredinol am fodiwlau

Fel myfyriwr, rwyf yn teimlo’n bersonol bod y pwyslais pennaf ar y deunydd sy’n cael sylw mewn darlithoedd, seminarau a gweithdai a bod pwyslais ar y cynllun marciau a’r meini prawf asesu. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae llai o bwyslais ar sut y i wella’ch sgiliau ysgrifennu / astudio yn annibynnol a sut i ysgrifennu traethawd / asesiad / cyfeiriadau at y disgwyliadau sy’n bodloni safonau arferion y brifysgol. Felly, dylid rhoi’r ffolder hon am Ddulliau Ysgrifennu Academaidd ar waith yn adran asesu ac adborth pob adran ar draws y Brifysgol, gan y byddai’n cynnig rhywbeth newydd i Blackboard a fyddai’n gwella profiad academaidd myfyrwyr. Byddai hyn yn ei dro yn helpu myfyrwyr i ennill graddau gwell. Rwy’n teimlo felly y byddai defnyddio ffolder wedi’i neilltuo ar gyfer astudio sgiliau sy’n benodol i’r hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr yn y modiwl hwnnw, yn gwella profiad dysgu myfyrwyr ar Blackboard ac yn gwella ei adnoddau.  

Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder

Yn ystod yr Ŵyl Fach yr wythnos ddiwethaf, cynhaliom ni sesiwn ‘Cynllunio Asesiadau sy’n Rhydd o Bryder’. Roedd y sesiwn yn seiliedig ar A review of the literature concerning anxiety for educational assessments gan Ofqual sy’n amlinellu’r cysylltiadau rhwng pryder am asesiadau, perfformiad myfyrwyr ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnig ymyriadau posibl ar gyfer pryder am asesiadau y gellir eu cymhwyso i gynllunio yn ogystal â gweithredu asesiadau.

Ar sail yr adolygiad yn ogystal â thrafodaethau o’r sesiwn rydym ni wedi paratoi rhestr o gamau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau nad yw asesiadau’n peri cymaint o bryder i’ch myfyrwyr:

  1. Defnyddio anogaeth gadarnhaol yn lle apelio at ofn.

Mae wedi’i ddangos bod apelio at ofn, gyda negeseuon sy’n pwysleisio pwysigrwydd asesiadau arfaethedig, yn cyfrannu at lefelau uwch o bryder am brofion, ymgysylltu dosbarth is a pherfformiad is mewn tasgau (Putwain & Best, 2011; Putwain, Nakhla, Liversidge, Nicholson, Porter & Reece, 2017; Putwain & Symes, 2014). Yn lle symbylu myfyrwyr drwy apelio at ofn, ceisiwch ail-eirio eich negeseuon yn anogaeth gadarnhaol.

  • Helpu’r myfyrwyr i osod nodau y gellir eu cyflawni.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut y dylai eu perfformiad neu bapur terfynol edrych, mae’n werth ychwanegu gwybodaeth ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd yno. Gall rhannu asesiadau’n gamau ac awgrymu tua faint o amser y dylid ei dreulio ar bob rhan fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, yn enwedig y rheini sydd heb brofiad o reoli asesiadau prifysgol.

  • Hwyluso amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Fel y disgrifir yn yr adolygiad ‘gall amgylcheddau dysgu cadarnhaol gynnwys: cynllunio gwersi sy’n canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd myfyrwyr ac yn adeiladu arnynt yn hytrach na nodi gwendidau; rhoi adborth cadarnhaol a chywir; annog perthnasoedd cydweithredol yn hytrach na chystadleuol rhwng cymheiriaid; ac annog cymhelliad cynhenid y myfyrwyr i astudio, yn hytrach na chael eu gorfodi neu ganolbwyntio ar bwysigrwydd deilliannau asesu (Jennings & Greenberg, 2009 dyfynnir yn Ofqual, 2020). Sut allwch chi feithrin yr elfennau hyn yn eich dosbarth?

  • Addasu’r dull asesu (os yw’n bosibl!).

Mae llawer o ffactorau penodol mewn asesiadau’n effeithio ar faint o bryder y gallant ei achosi. Gall gwneud addasiadau bach i’r dull asesu wneud gwahaniaeth i’ch myfyrwyr:

  • Cyfryngiad (faint o effaith mae’r asesiad i’w weld yn ei gael ar radd gyffredinol y myfyriwr): Bydd rhannu neu ledaenu asesiadau cymhleth â phwysau uchel yn ddarnau llai yn helpu myfyrwyr gyda rheoli eu hamser yn well a chreu llai o bwysau i wneud yn dda.
  • Cymhlethdod (pa mor gymhleth mae’r asesiad yn ymddangos): oes unrhyw beth yng nghynllun yr asesiad y gellid ei symleiddio?
  • Gwerthuso (a gaiff eu perfformiad ei werthuso gan eraill): lle bo’n bosibl ystyriwch leihau effaith yr elfen gwerthuso cymdeithasol mewn asesiadau drwy gyfyngu ar faint y gynulleidfa neu ganiatáu i’r myfyrwyr gyflwyno cyflwyniad wedi’i recordio ymlaen llaw.
  • Amseru (a yw eu perfformiad yn cael ei amseru): mae hwn yn gymwys yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau sydd â therfynau amser caeth fel arfer. Mae’n werth ystyried ai arholiadau wedi’u hamseru yw’r ffordd orau i fesur cynnydd myfyrwyr ar y deilliant dysgu neu a oes cynllun asesu amgen y gallech ei ddefnyddio.
  • Helpu’r myfyrwyr i deimlo’n barod.

Gall cynyddu pa mor barod maen nhw’n teimlo hefyd helpu i leddfu pryder asesu. Rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud i helpu eich myfyrwyr deimlo’n barod yw:

  • sicrhau bod yr asesiad yn glir, yn fanwl ac yn hygyrch;
  • cysylltu asesiadau’n glir ac yn amlwg â deilliannau dysgu;
  • cysylltu sgiliau a ddysgwyd drwy’r modiwl â’r rheini sy’n eu helpu mewn asesiadau;
  • cyfleu disgwyliadau (e.e. faint o amser y dylent ei dreulio ar asesiad) yn glir dro ar ôl tro.

Yn olaf, efallai mai’r ffordd fwyaf effeithiol i wneud myfyrwyr yn fwy parod a’u helpu i arfer â chael eu hasesu yw ffug arholiadau ac asesiadau ffurfiannol eraill (Ergene, 2011).

  • Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar bryder am asesiadau a sut i’w reoli.

Gallwch helpu drwy roi gwybodaeth i fyfyrwyr fod pryder am asesiadau’n gyffredin ymhlith myfyrwyr a rhoi dolenni iddynt at adnoddau sydd ar gael (gweler isod).

Adnoddau

Cefnogi eich Dysgu: modiwl ar gael i’r holl fyfyrwyr drwy Blackboard sy’n cynnig gwybodaeth hanfodol ar asesiadau yn cynnwys adran fer ar ymdrin â phryder am asesiadau.

Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr: man cychwyn da ar gyfer helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau academaidd fel rheoli amser, strategaethau astudio effeithiol a’r gallu i’w cymell eu hunain.

Tudalennau SgiliauAber (hefyd ar gael drwy Blackboard): cymorth i fyfyrwyr ar amrywiol sgiliau hanfodol yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.

Adnoddau Lles Myfyrwyr: amrywiol adnoddau i fyfyrwyr sy’n gallu eu helpu i feithrin strategaethau ymdopi.

Er efallai nad yw’n bosibl cynllunio asesiadau sy’n gwbl rydd o bryder, gall rhai o’r camau hyn gael effaith gadarnhaol ar berfformiad a lles myfyrwyr.