Sesiwn Hyfforddiant Vevox

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, prynodd y Brifysgol offer Vevox er mwyn cynnal pleidleisiau. Ers hynny, rydym wedi gweld llu o weithgareddau pleidleisio gwych yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau ledled y Brifysgol.

Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, neu os hoffech rywfaint o arweiniad, bydd Vevox yn cynnal sesiwn hyfforddiant:

  • 22 Medi, 11:00-12:00

Archebwch eich lle ar ein safle Archebu Cyrsiau.

Cynhelir y sesiwn hyfforddiant hon ar-lein gan ddefnyddio Teams. Anfonir dolen atoch cyn dechrau’r sesiwn.

Am ragor o wybodaeth am Vevox, edrychwch ar ein tudalen ar y we am Offer Pleidleisio Vevox a blogposts.

Canlyniadau Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr (2021-2022)

Gan Joseph Wiggins

Unwaith eto mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhedeg yr Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr, arolwg sy’n gofyn i ddysgwyr am effaith dysgu ar-lein a dysgu a weithredir â thechnoleg. Eleni cwblhaodd dros 600 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yr arolwg.

Metrigau Allweddol

Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun	81% Cymorth gyda mynediad at lwyfannau ar-lein/gwasanaethau oddi ar y safle 	74% Ansawdd yr amgylchedd dysgu ar-lein	83% Deunyddiau dysgu ar-lein difyr a chymhellol	44% Mae dysgu ar-lein yn gyfleus	72% Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs	80% Rhoi gwobr/cydnabyddiaeth am sgiliau digidol 	22% Cefnogaeth i ddysgu’n effeithiol ar-lein	72%

Mae arolwg JISC wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf gyda rhywfaint o’r cwestiynau metrig allweddol wedi’u newid. Ar gyfer y cwestiynau sydd wedi aros yr un fath neu’n debyg iawn gallwn gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.

Metrig Allweddol2020-20212021-2022
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun60%81%
Mynediad at lwyfannau ar-lein oddi ar y safle67%74%
Amgylchedd dysgu ar-lein40%83%
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs69%80%

Yn y mwyafrif o’r metrigau allweddol hyn gwelwyd cynnydd cadarnhaol gyda Phrifysgol Aberystwyth  wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol. Caiff y duedd hon i wella ei hadlewyrchu drwy holl ganlyniadau’r arolwg.

Yn achos cwestiynau a newidiodd yn y metrigau allweddol nid oes modd cymharu nifer ohonynt oherwydd y newidiadau a wnaed. Er enghraifft y llynedd holwyd am ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Wedi’u cynllunio’n dda’. Newidiwyd hyn i ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Difyr a chymhellol’. Gyda thueddiadau dysgu ar-lein mae cwestiynau’n ymwneud â chymhelliant yn nodweddiadol yn fwy negyddol, gan wneud cwestiynau sy’n defnyddio’r ansoddeiriau hyn lawer yn fwy negyddol.

Read More

Gwella Hygyrchedd – gwersi a ddysgwyd o ymagwedd gyfunol

Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i’r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni’n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o’r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi’u haddasu mewn ymateb i’r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i’n myfyrwyr.

Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o’r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau’n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn â lleoliad dogfennau roedd wedi’u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu’r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol themâu a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.   

Rhoddodd aelodau o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model hyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a’r Athro Matt Jarvis oedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw’n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu â’r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o’r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o’r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i Gadair Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu rôl gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae’r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae’n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Roedd cyflwyniad Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau’n hygyrch. Hefyd cafwyd canllaw defnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad. 

Rwy’n credu mai’r hyn mae’r symud cyflym i’r model hyflex wedi’i ddangos yw’r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.