Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol:  Cyhoeddi’r Rhaglen

Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer y Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol a gynhelir ddydd Mercher 25 Tachwedd.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 13:15 a 17:00 yn Adeilad y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais – a chynhelir y cyflwyniadau yn y Tŷ Trafod, yn ogystal ag ystafelloedd 0.03 ac 0.06 yn y Ganolfan Ddelweddu.

Bydd rhaglen gyffrous o gyflwynwyr o bob rhan o’r brifysgol yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Yn y cylch cyntaf o gyflwyniadau, byddwn yn clywed gan:

  • Daniel Bryant o’r Tîm Addysg Ddigidol o fewn y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol.
  • Bernie Tiddeman a Christine Zarges o’r Adran Gyfrifiadureg.
  • Rhys Dafydd Jones, Emma Butler-Way, Tom Holt o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Bydd academyddion o bob rhan o’r brifysgol wedyn yn cyflwyno mwy o feysydd o arfer da sy’n ymwneud â DA Cynhyrchiol ac asesiadau. Y siaradwyr eraill yw:

  • Miguel Hernandez o’r Adran Hanes a Hanes Cymru.
  • Louise Chennel o’r Ysgol Gelf.
  • Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg
  • Cennydd Jones a Hazel Davey o Adran y Gwyddorau Bywyd.
  • Daniel Peck o’r Adran Fathemateg
  • Jamie Harris o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
  • Steve Atherton o’r Ysgol Addysg.
  • Alex Mangold o’r Adran Ieithoedd Modern.

Bydd y rhaglen lawn a’r crynodebau yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r brifysgol cyn bo hir. Yn y cyfamser, gallwch archebu eich lle trwy glicio ar y ddolen hon.