Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu

eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Read More

What is a well-designed Blackboard module? – Prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn chwilio am nifer o Lysgenhadon Dysgu Myfyrwyr i weithio ar brosiect o’r enw ‘What is a well-designed Blackboard module?’. Mae ystyriaethau ynghylch cysondeb a llywio o amgylch modiwlau Blackboard yn cael eu codi’n aml yn yr adborth a gawn gan fyfyrwyr (e.e. drwy Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth neu arolwg Mewnwelediad Digidol JISC). Hoffem gasglu cymuned fach o fyfyrwyr a fydd, drwy ddulliau Profiad Defnyddwyr amrywiol, yn gweithio ar y cwestiwn hwn. Yn rhan o’r rôl, byddwch yn cymryd rhan mewn grwpiau ffocws, yn adeiladu eich modiwl Blackboard eich hun ac yn gweithio ar y cyd i adrodd ar eich darganfyddiadau.

Hoffem recriwtio 8 myfyriwr. Cynhelir y prosiect rhwng 5 ac 17 Gorffennaf 2021. Gan ddibynnu ar y grŵp, bydd gofyn i’r Llysgenhadon ymrwymo i oddeutu 13 awr o waith naill ai yn ystod wythnos gyntaf neu ail wythnos y prosiect.

Gofynnwn i chi ystyried annog eich myfyrwyr i wneud cais am y rôl drwy borth GwaithAber lle ceir hyd i ragor o wybodaeth. Y dyddiad cau yw 21 Mehefin.

Sut allwn ni eich helpu chi gyda’r Copi Gwag o Gyrsiau?

Bydd modiwlau Blackboard Uwchraddedig ar gyfer blwyddyn academaidd  2019/20 yn cael eu creu heb gynnwys. Yn flaenorol, roedd y cynnwys yn cael ei gopïo drosodd bob blwyddyn yn awtomatig ar gyfer holl fodiwlau Blackboard.

Bydd paratoi modiwlau Uwchraddedig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn golygu bod cydlynwyr y modiwlau’n copïo deunydd presennol drosodd neu’n uwchlwytho deunydd newydd i’r ailadroddiad o’u modiwl. Bydd yr holl fodiwlau’n cynnwys templed o ddewislen adrannol y cytunwyd arni a bydd rhaid trefnu’r cynnwys yn unol â’r ddewislen hon.

Hoffem gynorthwyo staff i baratoi modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn fodlon dod i’r swyddfa neu i chi ddod i ymweld â ni. Os hoffech drefnu apwyntiad gydag aelod o’r Grŵp E-ddysgu, rhowch wybod i ni lle a phryd yr hoffech gwrdd.

Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn sydd â chanllawiau manwl ar sut i gopïo elfennau gwahanol ar Blackboard ac wedi cynhyrchu’r daflen wybodaeth sy’n cael ei harddangos ar yr ochr chwith.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â’r holl staff a’ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd sy’n gyfleus i chi.

Cynhadledd Fer: Addysg Gynhwysol, dydd Mercher 10 Ebrill, 1yp

[Cynhadledd Fer Mini Conference

Ddydd Mercher 10 Ebrill, bydd y Grŵp E-ddysgu’n cynnal Cynhadledd Fer yr Academi eleni. Mae’r Gynhadledd Fer yn fersiwn llai o’n Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sy’n ein galluogi i gasglu ynghyd gyfres o gyflwyniadau a gweithdai sy’n ymwneud â phwnc dysgu ac addysgu penodol. Thema’r Gynhadledd Fer eleni yw Addysg Gynhwysol.

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen ar gyfer y prynhawn:

Bydd y cyflwyniadau hyn yn cynnig cyfres o awgrymiadau ymarferol a fydd yn helpu i wneud eich dogfennau a’ch amgylcheddau dysgu yn fwy cynhwysol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar sut y gellid defnyddio’r strategaethau hyn yn ymarferol ac o fewn cyd-destun addysgu.

Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn y Gynhadledd Fer felly archebwch le drwy’r dudalen archebu hon.

Blackboard SaaS – diweddariad 1

Blackboard Logo


Bydd llawer ohonoch wedi gweld y cyhoeddiad bod Prifysgol Aberystwyth yn symud i lwyfan cwmwl Blackboard SaaS. Rydym yn bwriadu rhoi diweddariad misol ar gynnydd y prosiect trwy’r blog E-ddysgu, a dyma’r diweddariad cyntaf.

Mae SaaS yn golygu ‘Software as a Service’, ac fe fydd symud i ddefnyddio Blackboard SaaS yn cynnig nifer o fanteision. Y brif fantais o bosib yw na fydd cyfnodau lle nad yw’r gwasanaeth ar gael (downtime) ar ôl i ni fudo i SaaS. Ar hyn o bryd mae dau gyfnod cynnal a chadw a drefnir ymlaen llaw bob blwyddyn – sef dau ddiwrnod yn ystod Gwyliau’r Nadolig a dau ddiwrnod yn ystod yr haf. Bydd y rhai ohonoch sy’n dilyn y blog hwn yn gwybod pa mor anodd y gall fod i drefnu’r rhain, a’i bod bron yn amhosibl dod o hyd i amser sy’n gyfleus i bawb. Mae Blackboard SaaS yn cael ei ddiweddaru heb darfu ar y gwasanaeth o gwbl (i gael gwybod mwy am hyn a nodweddion eraill SaaS gweler https://uk.blackboard.com/learning-management-system/saas-deployment.html).

Ni fydd y gwasanaeth ar gael am gyfnod yn ystod y broses fudo, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn yn agosach at yr amser. Ac unwaith y byddwn wedi symud y newyddion da fydd – dim mwy o gyhoeddiadau yn rhoi gwybod nad yw’r gwasanaeth ar gael dros y Nadolig neu’r haf!

Caiff SaaS ei ddiweddaru trwy ddefnyddio dull diweddaru parhaus – mae hyn yn golygu y bydd Blackboard yn cael ei ddiweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf bob mis. Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys trwsio bygiau a chyflwyno nodweddion newydd. Felly, dylech weld bod problemau’n cael eu trwsio’n gynharach ac ni fydd rhaid i chi aros yn rhy hir am offer newydd neu ddiweddariadau i offer cyfredol.

Mae digonedd o wybodaeth am Blackboard SaaS ar gael ar-lein; os byddwch yn mynd ati i chwilio am ragor o wybodaeth, cofiwch fod dwy fersiwn wahanol o Blackboard ar gael ar SaaS, sef Original ac Ultra. Rydym yn bwriadu symud i’r fersiwn Original i ddechrau – a byddwn yn ystyried Ultra yn y dyfodol.

Ers i ni anfon y cyhoeddiad gwreiddiol, mae’r tîm E-ddysgu ac Integreiddio Systemau wedi treulio llawer o amser yn ymgyfarwyddo ag SaaS. Un o’r pethau mwyaf cyffrous oedd cael defnyddio fersiwn newydd a hollol ffres o Blackboard. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi gweld Blackboard heb unrhyw gyrsiau na defnyddwyr – roedd ychydig bach fel wynebu ardal o eira ffres!!

Ein blaenoriaethau cyntaf fydd sicrhau bod yr holl brif nodweddion yn gweithio yn ôl y disgwyl, a gwneud yn siŵr bod yr holl ychwanegion (neu Flociau Adeiladu) yr ydym yn eu defnyddio yn gweithio’n iawn. Rydym yn defnyddio Blociau Adeiladu ar gyfer llawer o wahanol bethau, o Turnitin a Panopto i’r faner sy’n sgrolio ar hafan y safle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Blackboard SaaS, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk

Canolfan Raddau Blackboard

Mae’n debyg mai’r Ganolfan Raddau yw’r elfen fwyaf grymus o fodiwl Blackboard, ac eto nid yw’n cael ei ddefnyddio llawer. Mae Canolfan Raddau ar gyfer pob modiwl Blackboard, ond pa mor aml fyddwch chi’n ei defnyddio ac a ydych yn cael budd digonol ohoni elwa ohoni? Rwy’n ffan enfawr o Ganolfan Raddau Blackboard felly rwy’n defnyddio’r gyfres hon o bostiadau ar fy mlog i’ch cyflwyno chi i rai o’r nodweddion cudd a allai wneud eich gwaith marcio ac asesu yn haws.

Mae’r postiad cyntaf yn ymwneud â sefydlu’r Ganolfan Raddau. Fel llawer o bethau, deuparth y gwaith yw ychydig bach o feddwl a chynllunio cyn ichi ddechrau. Bydd ychydig o waith trefnu ymlaen llaw yn gwneud eich gwaith yn dipyn haws yn y tymor hir.

Felly, pa fath o bethau ddylech chi eu hystyried?

  1. Trefnu cyn creu. Ychwanegir rhai nodweddion fel categorïau a Chyfnodau Graddio at y colofnau wrth ichi eu creu. Mae’n ddefnyddiol i sefydlu’r rhain yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn ôl a golygu wedyn (er bod hynny yn bosib).
    1. Categorïau Ceir categorïau mewnol ar gyfer mathau o offer (e.e. Profion, Aseiniadau) a.y.y.b. sy’n cael eu rhoi ar waith yn awtomatig wrth ichi eu creu. Ond gallwch hefyd greu eich categorïau eich hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cael categori ar gyfer Arholiadau neu Gyflwyniadau. Gallwch hefyd wneud cyfrifiadau ar sail categori colofn gan ddefnyddio dewisiadau’r Golofn Gyfrifiedig. Help Blackboard ar Gategorïau.
    2. Cyfnodau Graddio. Cyfnodau marcio’r gwaith yw’r rhain. Byddai hyn yn ddefnyddiol os ydych yn cyflwyno marciau’n uniongyrchol i’r Ganolfan Raddau ar gyfer modiwl hir a thenau. Gallech gael cyfnod graddio Semester 1 a Semester 2 ac yna hidlo yn ôl y rhain er mwyn i chi weld y colofnau perthnasol yn unig. Help Blackboard ar Gyfnodau Marcio.
  2. A oes angen colofnau ychwanegol arnoch? Mae unrhyw beth y gallwch ei raddio yn Blackboard yn cynhyrchu Canolfan Raddio wrth ichi ei greu. Felly, os oes gennych Aseiniad Turnitin, Cylch Trafod graddedig neu Wici, bydd gennych eisoes golofn yn y Ganolfan Raddau. Os hoffech storio marciau ar gyfer cyflwyniadau, arholiadau, profion dosbarth, arholiadau llafar, a.y.y.b., gallwch greu eich colofnau eich hun. Help Blackboard ar Greu Colofnau.
  3. Meddyliwch yn ofalus wrth roi enw i’ch colofnau (colofnau wedi’u creu gennych chi, neu’r rhai sy’n cael eu creu wrth osod Turnitin a.y.y.b.). Dylent fod yn ystyrlon ac yn hawdd i ddeall pa elfen asesu maent yn perthyn iddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth fapio elfennau ar gyfer trosglwyddo marciau. Problem gyffredin yw fod gennych ddau bwynt e-gyflwyno a’r ddau yn dwyn yr enw Traethawd; gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio teitlau sy’n gwneud synnwyr fel Traethawd 1 a Thraethawd 2 neu Traethawd Maeth a Thraethawd Ymarfer Corff.
  4. A hoffech wneud cyfrifiadau neu gyfuno marciau? Mae AStRA yn pwysoli eich aseiniadau wrth gyfrifo’r marc cyffredinol ar ddiwedd y modiwl, ond efallai y byddwch yn dymuno grwpio aseiniadau bach ynghyd i wneud cyfrifiadau neu i ddangos i’r myfyrwyr. Er enghraifft, efallai bod gennych set o brofion wythnosol sy’n ffurfio un elfen o’r asesu ar gyfer y modiwl. I wneud hyn, gallwch greu un o’r colofnau cyfrifiedig. Help Blackboard ar Golofnau Cyfrifiedig.
  5. Beth hoffech chi i’r myfyrwyr ei weld? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eich bod yn gallu cuddio colofnau’r Ganolfan Raddau rhag y myfyrwyr, ond a oeddech yn gwybod bod Prif Arddangosiad ac Arddangosiad Eilaidd? Mae hyn yn golygu y gallwch ddangos llythyren i’r myfyrwyr, neu ddangos bod y gwaith wedi’i farcio, heb ddangos y radd. Dyma ffordd o roi adborth cyn rhyddhau marc.
  6. Gwylio a hidlo. Ceir nifer o ffyrdd o drefnu eich Canolfan Raddau i’ch helpu i weld y pethau y dymunwch eu gweld yn unig. Gan ddibynnu ar sawl colofn sydd gennych a’r hyn sydd angen ei wneud, efallai bydd un o’r isod yn ddefnyddiol:
    1. Golygon Call ac Ychwanegu fel Ffefryn. Chi’n gwybod am yr eitemau Angen eu Marcio ac Aseiniadau yn y Ganolfan Raddau Gyflawn yn eich dewislen? Llwybrau byrion yw’r rhain sy’n eich cysylltu â golygon hidledig o’r Ganolfan Raddau. A wyddech chi eich bod yn gallu ychwanegu eich llwybrau byrion eich hun yma, gan ddefnyddio categorïau neu grwpiau o fyfyrwyr fel y meini prawf? Help Blackboard ar Golygon Call.
    2. Hidlo. Fel taenlenni Excel, mae’n bosib hidlo eich golwg o’r Ganolfan Raddau, i ddangos setiau penodol o wybodaeth yn unig. Help Blackboard ar Hidlo.
  7. Codio lliw. Dyma fy ffefryn personol i. Gallwch roi cod lliw i’r Ganolfan Raddau i ddangos yn sydyn pa fyfyrwyr sy’n cael marciau uchel iawn, a pha fyfyrwyr y gallai fod angen rhagor o help arnynt. Mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer profion sy’n cael eu marcio’n awtomatig ac efallai na byddwch yn gweld y canlyniadau’n syth. Mae’n ffordd weledol sydyn o weld pwy allai fod angen rhagor o help. Help Blackboard ar godio lliw.

Bydd rhifyn nesaf y gyfres hon yn trafod marcio ac ymdrin â graddau. Os hoffech gymorth i sefydlu eich Canolfan Raddau, cysylltwch â mi a gallwn drafod eich gofynion a mynd ati i’w rhoi ar waith.

Gweminar Newydd: Creu Man Cyflwyno Turnitin

Bydd y Grŵp E-ddysgu’n cynnal gweminar ddydd Mercher 6 Chwefror am 3yp. Yn y weminar hon, bydd y Grŵp E-ddysgu’n dangos sut i osod man cyflwyno Turnitin a’r holl osodiadau dewisol sydd ar gael i chi.

Gallwch ymuno â’r weminar yn gyflym a hawdd – gallwch wneud hynny o’ch swyddfa eich hun, yr unig beth sydd ei angen yw cysylltiad â’r Rhyngrwyd. Yn gyntaf, archebwch le ar y weminar trwy fynd i dudalen archebu’r cwrs yma. Byddwch wedyn yn cael apwyntiad gan Outlook y gallwch ei ychwanegu i’ch calendr. Pan fydd hi’n amser ymuno â’r weminar, gallwch wneud hynny trwy glicio ddwywaith ar y ddolen ar yr apwyntiad. Neu, gallwch ymuno â’r weminar drwy glicio ar y ddolen hon. Bydd y weminar yn cael ei recordio a bydd ar gael i staff ar ôl y sesiwn.

Bydd y weminar yn defnyddio Skype for Business. I gael rhagor o wybodaeth am Skype for Business, gweler y canllaw sydd ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weminar, e-bostiwch elearning@aber.ac.uk.

E-ddysgu i’r rhai sy’n cynorthwyo Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n gobeithio eich bod wedi cael amser braf dros y gwyliau. Wrth i bethau ac wrth i ni ddechrau ar gyfnod yr arholiadau, roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol i ni nodi pa gymorth sydd ar gael i gydweithwyr sy’n darparu cymorth gweinyddol i weithgareddau dysgu ac addysgu.

Efallai fod ein Cwestiwn Cyffredin, Pa Gwestiynau Cyffredin sy’n ddefnyddiol i ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer system e-ddysgu?, yn fan dechrau da. Dyma Gwestiwn Cyffredin a luniwyd i ddod â’n holl Gwestiynau Cyffredin ynghylch cymorth gweinyddol ynghyd er mwyn i chi gael ateb i’ch cwestiwn cyn gynted â phosibl.

Yn ogystal â’n Cwestiynau Cyffredin, mae gennym hefyd Ganllawiau E-ddysgu ar gael ar ein gweddalennau. Cynlluniwyd y canllawiau hyn i’ch tywys drwy broses lawn o’r dechrau i’r diwedd ac maent yn ddefnyddiol i’r rhai sydd eisiau meithrin dealltwriaeth o’r broses lawn. Rydym  hefyd yn hapus i gwrdd wyneb i wyneb ac wrth gwrs gallwn roi cymorth dros y ffôn a thrwy e-bost. Rydym hefyd yn barod i roi hyfforddiant i chi a’ch cydweithwyr. Os hoffech chi a’ch cydweithwyr wneud cais am sesiwn hyfforddi, cysylltwch â ni. Efallai fod yna sesiynau hyfforddi eraill a fyddai’n ddefnyddiol i chi. Ceir ein rhaglen lawn o sesiynau hyfforddi ar gyfer 2018/19 ar ein gweddalennau.

eddysgu@aber.ac.uk   01970 62 2472 www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning Blog E-ddysgu

Cyflwynwch eich Modiwl Blackboard am Wobr Cwrs Nodedig

Mae cyfnod cyflwyno ceisiadau am y Gwobrau Cwrs Nodedig bellach wedi dechrau. Y dyddiad cau i wneud cais yw 12 yp 1af Chwefror 2019. I gyflwyno cais, lawrlwythwch ffurflen gais fan hyn a darllenwch y cyfarwyddiadau sydd ar ein gweddalennau.

Cynlluniwyd y Wobr Cwrs Nodedig i gydnabod arfer canmoladwy ym modiwlau Blackboard. Ers ei lansio yn 2013, gwobrwywyd 5 o fodiwlau canmoladwy, cafodd 8 gymeradwyaeth uchel a 3 arall eu cymeradwyo.

Eleni mae’r gwobrau ychydig yn wahanol. Er bod y Wobr yn dal i gael ei seilio ar Gyfarwyddyd Rhaglen Cwrs Nodedig Blackboard, gwnaethom rai addasiadau er mwyn pwysleisio’r dulliau rhyngweithiol y gellir defnyddio Blackboard i ddarparu amgylchedd dysgu cymysg i fyfyrwyr. Ar ben hyn, rhoddwyd pwys ychwanegol ar y meini prawf hygyrchedd er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dysgu yn gallu cael defnydd o fodiwlau Blackboard.

Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi i’r rhai sy’n ystyried cyflwyno cais am y Wobr ddydd Mercher 12 Rhagfyr, 3pm-4pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu a dydd Mawrth 8 Ionawr, 3pm-4pm. Gallwch archebu lle trwy fynd i dudalennau archebu cwrs y GDSYA.

Fforwm Academi 2018/19

Mae Fforymau Academi eleni wedi cychwyn o ddifri erbyn hyn. Eleni, mae ein Fforymau Academi wedi’u strwythuro o amgylch themâu sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ac a gynigiwyd gan fynychwyr y gynhadledd.

Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn yw:

  • 03.10.2018, 3yp-4yp: Cyflwyniad i’r Fforwm Academi
  • 11.10.2018, 10yb-11yb: Traciwr Digidol Myfyrwyr JISC
  • 16.11.2018, 11yb-12yp: Myfyrwyr fel Partneriaid
  • 17.12.2018, 1yp-2yp: Dulliau arloesol o roi adborth
  • 21.01.2019: 12yp-1yp: Cynllun Dysgu
  • 28.02.2019: 3yp-4yp: Addysgu trwy Ymchwil
  • 01.04.2019: 12yp-1yp: Annog hunanddisgyblaeth mewn dysgwyr
  • 09.05.2019: 11yb-12yp: Sut ydyn ni’n gwybod bod ein haddysgu’n gweithio?
  • 12.06.2019, 2yp-4yp: Defnyddio Dadansoddeg Dysgu Crynodeb a Gorffen

Gallwch archebu lle ar y Fforymau Academi drwy dudalennau archebu y GDSYA.

Mae ein Fforymau Academi’n darparu gofod anffurfiol i aelodau o gymuned y Brifysgol ddod ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu a dysgu trwy gyfrwng technoleg.

Roedd Fforymau Academi’r llynedd yn seiliedig ar gardiau ehangu profiad digidol myfyrwyr gan  JISC. O fewn y Grŵp E-ddysgu, gwnaethom ddechrau datblygu ein Strategaeth Ymgysylltu Myfyrwyr ein hunain a dechrau meddwl sut y gallem weithio’n agosach â’r myfyrwyr. Yn ogystal â hyn gwnaethom ddechrau gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth Gyrfaoedd i siarad am y sgiliau digidol sydd eu hangen yn y gweithle.

Cynhelir y Fforymau Academi yn E3, yr Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu. I gael mynediad i E3, byddwch angen eich Cerdyn Aber. Ewch i mewn i adeilad Hugh Owen drwy’r Labordai Iaith a mynd i fyny’r grisiau i Lawr E. Defnyddiwch eich Cerdyn Aber i ddod trwy’r drws ac mae Ystafell Hyffordd E3 rownd y gornel ar yr ochr dde.

Os hoffech ymuno â rhestr bostio’r Fforwm Academi, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.