Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Rhaglen Cyhoeddi

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, 10-12 Medi.

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn. 

Byddwn yn cael 1 diwrnod ar-lein (dydd Mawrth 10 Medi) a 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mercher 11 Medi a dydd Iau 12 Medi).

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd ar-lein. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Cyhoeddi Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Yr Athro Lisa Taylor

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni i roi cyflwyniad am gyflogadwyedd yn y cwricwlwm. Mae Lisa yn Athro Cyflogadwyedd ac Arloesedd Dysgu ac yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Gyfadran Meddygaeth ac Iechyd.

Mae gan Lisa gefndir fel Therapydd Galwedigaethol gyda deng mlynedd o brofiad clinigol yn y GIG a chwblhaodd raddau MSc a PhD.

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae Lisa wedi gweithio ym maes addysg uwch fel darlithydd yn nhîm academaidd Therapi Galwedigaethol Prifysgol Dwyrain Anglia. Mae Lisa wedi dal rolau arweinyddiaeth cyflogadwyedd ochr yn ochr â’i rôl darlithio am un ar ddeg o’r blynyddoedd hynny, i ddechrau fel cyfarwyddwr cyflogadwyedd Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac yna fel Deon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd y Gyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd.

Mae Lisa yn angerddol am gyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu, gan sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar fyfyrwyr/dysgwyr, cydweithwyr academaidd a phartneriaid allanol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol Advance HE (NTF) i Lisa yn seiliedig ar ei gallu parhaus i hwyluso a dylanwadu ar ddysgu o safon i fyfyrwyr.

Mae Lisa wedi helpu i ddatblygu’r agenda cyflogadwyedd ehangach trwy gefnogi ac ymgysylltu â chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau effaith ar ganlyniadau a phrofiad dysgu myfyrwyr, trwy gyfrwng addysgu, mentrau strategol ac arloesiadau dysgu. Mae’r dyfarniad NTF yn gosod Lisa fel arweinydd sector ym maes cyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu. Mae Lisa yn cyhoeddi ac yn cyflwyno’n eang, gan helpu i lywio’r sgwrs genedlaethol am gyflogadwyedd. 

Un o arloesiadau dysgu Lisa yw’r Peer Enhanced e-Placement (PEEP). Mae Lisa wedi ennill sawl gwobr am y PEEP arloesol ac mae wedi cyhoeddi llyfr yn seiliedig ar ei egwyddorion dylunio a chyflawni, Constructing Online Work-Based Learning Placements: Approaches to Pedagogy Design, Planning and Implementation. Bydd y PEEP yn cael ei gyflwyno yn rhan o ddarlith Lisa.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rhwng 10 a 12 Medi. Mae croeso i gydweithwyr gyflwyno cynigion ac mae modd archebu lle nawr.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr deuddegfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 10 a dydd Iau 12 Medi 2024.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Galwad am Gynigion

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 10-12 Medi 2024.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 24 Mai 2024.

Y 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi Thema’r Gynhadledd

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r thema ar gyfer ein deuddegfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Bydd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth 10 hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Dyma’r thema a’r elfennau ar gyfer y gynhadledd eleni:

Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol

  • Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
  • Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill i wella dysgu
  • Creu gweithgareddau dysgu deinamig i ysgogi ac ymgysylltu
  • Dylunio dysgu cynhwysol i bawb

Cadwch lygad am ein galwad am gynigion, sydd ar ddod, ac i drefnu eich lle yn y gynhadledd.

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 10 Medi hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.