Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb

Efallai y bydd adegau lle nad yw’n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i’r rheini sy’n ymuno drwy MS Teams.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i’r myfyrwyr hynny na allant ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb. Cyn i chi ddechrau creu gweithgaredd amgen, ystyriwch y pwyntiau canlynol:

  1. Pa weithgaredd arall a fyddai’n efelychu orau y profiad y mae myfyrwyr yn y sesiwn wyneb yn wyneb yn ei gael?
  2. Beth yw fy nghanlyniadau dysgu arfaethedig a pha weithgareddau fyddai’n cyflawni’r rhain orau?
  3. Faint o amser fydd hi’n cymryd i mi gynllunio gweithgaredd ac a oes gen i ddigon o amser?
  4. Meddyliwch yn ofalus am eich meini prawf asesu – a fydd y gweithgaredd amgen a ddarperwch yn caniatáu i’r myfyrwyr gynnal asesiadau’r modiwl yn llwyddiannus?
  5. Mae eglurder a ffocws wrth wraidd unrhyw weithgaredd ar-lein sydd wedi’i gynllunio’n dda. Sicrhewch fod myfyrwyr sy’n defnyddio eich gweithgaredd amgen yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n ei wneud. Os ydych yn gofyn i’ch myfyrwyr ddefnyddio unrhyw dechnoleg, rhaid i chi roi arweiniad clir a chryno iddynt ar sut i’w defnyddio.

Read More

Datblygu Proffesiynol Parhaus – Beth sydd ar gael?

Mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu’n cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd y sesiynau Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar y wefan hyfforddiant staff.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn sôn am yr amrywiaeth o sesiynau a gynigir i chi rhwng hyn a mis Ionawr, gyda phwy y dylid cysylltu i gael mwy o wybodaeth, a sut i gadw lle ar un o’r sesiynau.

Dyma sy’n cael ei gynnig dros y misoedd nesaf:

Mis Tachwedd:
• Sesiynau ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Graddedig, Datblygu eich Arferion Addysgu a Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu Syncronaidd (sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael)
• Sesiwn ar annog cymhelliant cynhenid myfyrwyr – o safbwynt damcaniaeth hunanbenderfyniad (Facilitating Intrinsic Motivation in Students – the Self Determination Theory Perspective) (Saesneg yn unig)
• Sesiynau ar Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard, TurnitIn a Panopto (y cyntaf o’r tri yn Saesneg, yr ail a’r trydydd yn Gymraeg)
• Sesiynau ar greu deunyddiau dysgu hygyrch, amgylcheddau dysgu, a thechnegau ar gyfer dysgu pynciau gwyddonol yn ogystal â defnyddio Online Surveys Jisc (yn Saesneg i gyd)
• Cynhelir dau fforwm Academi ar Pam a Sut y Dylid Helpu Myfyrwyr i Fyfyrio ar eu Dysg, a Strategaethau er mwyn Ysgogi Ymroddiad i Ddysgu Ar-lein.

Read More

Tarfiad posTarfiad posib ar labeli a theitlau o fewn Blackboard

Efallai y byddwch yn sylwi ar rai newidiadau i labeli o fewn Blackboard wrth i ni ddiweddaru ein pecyn iaith bore yfory (dydd Mawrth 10.11.2020).

Bydd hyn yn effeithio ar eitemau yn y ddewislen a Fy Modiwlau. Bydd Blackboard a mynediad iddo yn parhau i weithio’n iawn yn ystod y cyfnod hwn, a byddwch chi’n gallu parhau i greu cynnwys, i gael mynediad at ddeunydd ac i gyflwyno aseiniadau. Mae’r gwaith hwn wedi’i drefnu i ddigwydd fel rhan o waith cynnal a chadw Gwasanaethau Gwybodaeth bore Mawrth: https://faqs.aber.ac.uk/94.

Helpu Myfyrwyr i Fanteisio i’r Eithaf ar Ddarlithoedd a Recordiwyd – Defnyddio’r ffwythiannau ‘Discussion’ a ‘Notes’ yn Panopto

Mae myfyrwyr wedi bod yn defnyddio cryn dipyn ar y rhaglen Panopto, hyd yn oed cyn i’r Brifysgol symud i ddarparu addysg yn rhannol ar-lein. Mae myfyrwyr eleni’n dibynnu mwy fyth ar gynnwys sydd wedi’i recordio ymlaen llaw. Gall hwyluso dysgu gweithredol drwy ddefnyddio deunyddiau cydamserol, megis darlithoedd sydd wedi’u recordio, fod yn heriol. Rydym eisoes wedi rhannu’r canllaw i fyfyrwyr ar ddefnyddio darlithoedd sydd wedi’u recordio, ac rydym wedi amlinellu chwe strategaeth allweddol i’w helpu nhw i wneud y mwyaf o’r recordiadau. Yn un o’n negeseuon blaenorol, rhoddwyd sylw hefyd i ddefnyddio adnoddau sgrindeitlo a chwisiau Panopto, sy’n gwneud eich recordiadau yn fwy hygyrch a rhyngweithiol. Hoffem sôn wrthych heddiw am ddau ffwythiant arall yn Panopto, sef ‘Discussion’ a ‘Notes’. 

The image shows where the Discussion function in Panopto is located. It is between the Contents and Notes tabs on the left hand side of the Panopto editor.

Read More

Baneri a’r Panel ‘Insight’ yn Stiwdio Adborth Turnitin

Bydd y staff sydd wedi marcio asesiadau a gyflwynir drwy Turnitin yn gyfarwydd â’r Adroddiad ar Debygrwydd a’r Stiwdio Adborth. Mae’r rhyngwyneb yn y Stiwdio Adborth yn amlygu mannau lle mae’r testun yn debyg i ffynonellau ar-lein.

Mae Turnitin wedi diweddaru rhyngwyneb y Stiwdio Adborth er mwyn tynnu sylw at anghysonderau testunol mewn cyflwyniadau fel y gellir rhoi sylw manwl iddynt. Baneri y gelwir y darnau hyn a amlygir.

Mae’r baneri yn codi materion a allai fod yn arwydd o broblemau, megis:
•Nodau testun sydd wedi’u hailosod; mae’n bosib y gallai’r rhain fod wedi’u mewnosod er mwyn cuddio tebygrwydd.
•Testun cudd fel dyfynodau a allai effeithio ar y ganran o ddeunydd a ddyfynnwyd a allai olygu bod y deunydd hwnnw yn cael ei gamddehongli fel deunydd gwreiddiol.

Read More

Cynhesu’r Llais a Thechnegau Recordio Gartref

Mae siarad i mewn i wactod eich cyfrifiadur ar gyfer deunyddiau sydd wedi’u recordio ymlaen llaw yn anodd. Heb gynulleidfa i ryngweithio gyda chi, mae’n anodd gwybod a ydych chi’n cyflwyno’r deunydd yn glir ac yn ddifyr. Ar ben hynny, rydym ni’n defnyddio ein lleisiau’n wahanol iawn gan ddibynnu ar yr amgylchiadau – wrth recordio yn eich swyddfa neu gartref, bydd y ffordd rydych chi’n defnyddio eich llais yn wahanol i gyflwyno wyneb yn wyneb arferol. Dyma ambell awgrym a all helpu i sicrhau bod vignettes wedi’u recordio ymlaen llaw yr un mor ddiddorol â’ch sesiynau fyw:

1. Gorbwysleisiwch y geiriau – bydd hyn yn helpu capsiynau awtomatig ac yn pwysleisio geiriau unigol, fydd yn golygu ei bod yn haws deall a dilyn beth rydych chi’n ei ddweud.
2. Amrywiwch gyflymder y cyflwyno – cymerwch eich amser os oes angen, ond gofalwch beidio â setlo i rythm rhy reolaidd. Bydd newid cyflymder yn tynnu sylw’r gwrandawyr yn ôl at beth rydych chi’n ei ddweud.
3. Defnyddiwch rannau gwahanol o’ch cwmpas lleisiol – dydyn ni ddim yn awgrymu eich bod yn actio cymeriadau gwahanol, ond ceisiwch osgoi bod yn undonog: rydych chi’n gwybod beth rydych chi’n siarad amdano, ond efallai mai dyma’r tro cyntaf i’r myfyrwyr ei glywed. Mae llais undonog yn ei wneud yn ddiflas ac yn ddibwys, pan nad yw hynny’n wir.

Mae’r uchod yn ffyrdd o ddynwared yr amrywiadau sy’n digwydd mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb, ac mewn digwyddiadau byw lle’r ydych chi’n bwydo oddi ar ymateb a diddordeb eich cynulleidfa. Does neb yn gofyn i chi ailhyfforddi fel perfformiwr YouTube, ond mae rhai o’r technegau lleisiol a ddefnyddir mewn fideos o’r fath yn gallu bod yn ddefnyddiol ac yn gwneud deunyddiau sydd wedi’u recordio’n fwy difyr. Mae’n cymryd llawer o egni a ffocws i siarad i mewn i ddim byd ond eich cyfrifiadur eich hun. Mae’r uchod yn driciau ieithyddol a lleisiol syml ond effeithiol sy’n gallu eich helpu i siarad yn ddifyr â chynulleidfa ddychmygol.

Dyma fideo i’ch helpu chi.

Cynnal sesiynau addysgu cyfunol – ar yr un pryd drwy wyneb yn wyneb a drwy MS Teams

Anogir staff addysgu i ddarparu mynediad i sesiynau addysgu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu  mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Mae’r canllawiau isod yn rhoi rhestr wirio gam wrth gam o’r holl bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal sesiwn effeithiol ar yr un pryd i fyfyrwyr sy’n bresennol yn y dosbarth a’r rhai hynny  sy’n ymuno â’r dosbarth drwy MS Teams.  

Cyn y sesiwn: 

Sylwer: Bydd angen gwneud hi’n glir bod y ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn yn uniongyrchol yn y dosbarth, a bod disgwyl i bob myfyriwr sy’n iach, ac nad yw’n hunanynysu, i fynychu’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb yn cael ei fonitro’n ofalus.  

  • Adolygu’r canllawiau ystafell ddysgu, a gwylio’r clipiau fideo yn dangos sut mae’r ystafell ddysgu ar-lein yn gweithio:  

Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 

Arddangosiadau Ystafelloedd Dysgu 

Read More

Cynhadledd Fer yr Academi (galwad am gynigion) – ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Dda’

Mini Conference Logo


Ar Ddydd Mercher 16eg o Ragfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal y cyntaf o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Dda’, a byddwn yn archwilio sut i wneud adborth yn fwy defnyddiol a diddorol ar gyfer ein myfyrwyr.

Y tri phrif edefyn ar gyfer y Gynhadledd Fer fydd:

  • Marcio asesiadau grŵp
  • Asesu ac adborth gan gymheiriaid
  • Gwella sut mae myfyrwyr yn dysgu drwy adborth

Rydym yn chwilio am gynigion gan staff, cynorthwywyr addysgu ôl-raddedig a myfyrwyr, i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion adborth ac asesu cyfredol. Hyd yn oed os nad yw eich cynnig yn cyd-fynd yn union â’r edefynnau uchod, croesawn gynigion perthnasol eraill.

Os hoffech gyflwyno cynnig i’r Gynhadledd Fer, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn Dydd Mercher 18fed o Dachwedd.

Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk.