- Sut mae cyfuno modiwlau Blackboard?
- Sut mae staff a myfyrwyr yn cofrestru ar fodiwlau Blackboard?
- Ble alla i ddod o hyd i’r cynnwys hanfodion DA?
- Sut mae cysylltu Panopto Recordings â Blackboard?
Canllawiau ar gyfuno modiwlau yn Blackboard
Sut mae cyfuno modiwlau?
Gallwch gyfuno modiwlau gan ddefnyddio adnodd Blackboard Ultra Module Partner sydd ar gael drwy myadmin.aber.ac.uk. -> Blackboard Ultra Module Partner.
Mae’r adnodd Blackboard Ultra Module Partner yn caniatáu ichi rannu’r un cynnwys ar draws sawl modiwl trwy neilltuo un modiwl fel y modiwl Cynradd a chysylltu un neu fwy o fodiwlau fel Modiwl eilaidd.
Nid oes terfyn ar nifer y modiwlau eilaidd y gellir eu cysylltu, ond dim ond un modiwl cynradd allwch chi ei gael.
Mae cyfuno modiwlau yn awtomatig yn sicrhau bod cynnwys o’r modiwl cynradd ar gael ym mhob modiwl eilaidd cysylltiedig. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi uwchlwytho’r un deunyddiau i fodiwlau lluosog. Neu, gallwch hefyd e-bostio e-ddysgu@aber.ac.uk.
Gellir dod o hyd i ganllaw manwl ar gyfer adnodd partner Blackboard drwy ddilyn y ddolen isod a fydd yn mynd â chi at ein Cwestiynau Cyffredin:
Sut mae cyfuno modiwlau yn Blackboard (staff)?
Pam Cyfuno Modiwlau?
Mae cyfuno modiwlau yn caniatáu i gydlynwyr modiwlau gysylltu’r un cynnwys rhwng dau neu fwy o fodiwlau yn Blackboard. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer modiwlau sy’n rhannu’r un deunyddiau, mae rhai enghreifftiau lle gallai hyn fod yn ddefnyddiol yn cynnwys:
- Modiwlau a addysgir sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn
- Modiwlau sy’n defnyddio’r un cynnwys ar draws gwahanol gynlluniau gradd
- Modiwlau sy’n defnyddio union yr un deunyddiau dysgu a rhestrau darllen
Sut mae dad-gyfuno modiwlau?
Gellir dad-gyfuno modiwlau trwy glicio ar yr eicon pensil yn adran ID y cwrs cynradd ac yna clicio ar Dileu -> Dileu

Pan fydd modiwlau yn cael eu datgysylltu, mae cyflwyniadau blaenorol, marciau ac ati yn cael eu cadw ar gyfer myfyrwyr ar y modiwl. Byddant yn cael eu cuddio rhag staff (er mwyn osgoi dryswch), ond os oes angen i chi eu gweld cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk am gyngor
Beth i’w ystyried?
- Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (os yw myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint a deunyddiau darlithio, mae hyn hefyd yn cynnwys Cyhoeddiadau ac Offer rhyngweithiol arall ar eich modiwl cynradd.
- Ni fydd rhyngweithiadau hanesyddol myfyrwyr ar fodiwl eilaidd (megis defnyddio blogiau neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno.
- Bellach ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grewyd ar fodiwl eilaidd cyn i’r cyfuno ddigwydd. Byddem yn cynghori creu’r rhain eto yn y modiwl cynradd.
Sut mae gwneud cynnwys y modiwl yn weladwy i garfannau penodol?
Mae’r holl gynnwys yn weladwy yn awtomatig ar ôl i fodiwlau gael eu cyfuno. Gellir defnyddio grwpiau a rhyddhau addasol os ydych am i’r cynnwys fod yn weladwy i garfan modiwl benodol yn unig.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych wedi cyfuno modiwl 2il flwyddyn a 3edd flwyddyn ond mae gan eich myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau ar wahân. Gallwch ddefnyddio un grŵp ar gyfer myfyrwyr yr 2il flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y 3edd flwyddyn. Gallwch hefyd gyfyngu pwy all weld y wybodaeth am yr aseiniad a’r man cyflwyno.
Gweler canllawiau swyddogol gan ganolfan gymorth Blackboard ar Greu Grwpiau ac Amodau Rhyddhau.
Sut mae cyfuno yn effeithio ar y Llyfr Graddau?
Ar ôl cyfuno, bydd yr holl fyfyrwyr yn weladwy o fewn Llyfr Graddau’r modiwlau cynradd. Fodd bynnag, gallwch weld Llyfr Graddau’r modiwlau cynradd ac eilaidd ar wahân gan ddefnyddio’r hidlydd Modiwlau Cyfunol a geir yn Llyfr Graddau’r Modiwlau Cynradd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyfuno modiwlau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn e-ddysgu@aber.ac.uk.
Sut mae staff a myfyrwyr yn cofrestru ar fodiwlau blackboard?
Trosolwg Cofrestru
- Gall cofrestru staff ar fodiwlau Blackboard gael ei reoli drwy’r System Rheoli Modiwlau neu drwy e-bostio e-ddysgu@aber.ac.uk.
- Dylai myfyrwyr gael eu cofrestru’n awtomatig ar y cwrs maen nhw’n ei astudio os ydynt wedi cwblhau eu tasgau a’u cofrestriad. Dylai myfyrwyr gael eu cyfeirio at eu Cofnod Myfyriwr i wirio
System Rheoli Modiwlau
- Gellir defnyddio’r System Rheoli Modiwlau i gofrestru staff a gweinyddwyr adrannol
- Gellir dod o hyd i’r adran staff drwy chwilio staff

Bydd yr adran staff yn dangos i chi beth sydd gan staff fynediad ato a beth maen nhw wedi’i ddiweddaru
Gellir ychwanegu staff unigol at:
- Modiwl
- Pob modiwl yn yr adran
- Pob modiwl mewn cyfadran
- Pob modiwl yn y sefydliad
Bydd y rôl gyda’r lefel uchaf o ganiatâd yn cael blaenoriaeth, er enghraifft hyfforddwr dros raddiwr
sut mae rolau staff yn ymddangos yn y system rheoli Modiwlau a Blackboard?
| Rheoli Modiwlau | Blackboard |
| Darlithydd | Hyfforddwr |
| Tiwtor | Hyfforddwr |
| Cynorthwyydd | Cynorthwyydd Addysgu |
| Graddiwr | Graddiwr |
| Adeiladwr | Adeiladwr Cwrs |
| Gweinyddwr Adrannol | Hwylusydd |
| Llyfrgellydd Pwnc | Adeiladwr Cwrs |
| Arsyllwr Cyrsiau | Arsyllwr |
| Arholwr Allanol | Hwylusydd |
Gweler canllawiau swyddogol gan ganolfan gymorth Blackboard ar ganiatâd ar gyfer pob rôl.
Tynnu staff a myfyrwyr o gyrsiau
- Gall myfyrwyr newid neu dynnu’n ôl o gyrsiau gan ddefnyddio eu cofnod myfyriwr, os bydd hyn yn digwydd bydd y myfyriwr yn cael eu tynnu’n awtomatig o’u cwrs Blackboard presennol ar nos Lun.
- Bydd staff sy’n cael eu tynnu gan ddefnyddio’r system rheoli Modiwlau hefyd yn cael eu tynnu’n awtomatig o fodiwlau ar nos Lun (23.59)
- Bydd modiwlau yn dal i fod yn weladwy i staff a myfyrwyr cyn nos Lun (23.59). Mae hyn yn golygu, os bydd aelod o staff neu fyfyriwr yn cael eu tynnu ar ddydd Mawrth, bydd eu modiwlau yn dal i fod yn weladwy.
Ni allaf weld fy nghwrs yn Blackboard?
- (Myfyrwyr) Gwiriwch eich Cofnod Myfyriwr am dasgau coll a chofrestru heb ei gwblhau yna cysylltwch â’ch adran.
- (Staff) Cysylltwch â staff y gofrestrfa yn eich adran
Mae croeso i chi gysylltu â e-ddysgug@aber.ac.ukhefyd
Beth i’w ystyried?
- Dylid cofrestru staff gan ddefnyddio’r System Rheoli Modiwl yn unig.
- Mae problemau technegol yn debygol os yw staff a myfyrwyr yn cael eu cofrestru trwy’r gofrestr dosbarth yn Blackboard.
- Fe allai gymryd awr i newidiadau ymddangos yn blackboard
Os nad yw’r newidiadau wedi ymddangos ar ôl awr, cysylltwch ag e-ddysgu@aber.ac.uk.
Ble alla i ddod o hyd i’r cynnwys hanfodion DA yn Blackboard?
· Mae’r cynnwys hanfodion DA i’w weld yn yr adran Mudiadau yn Blackboard:

· O’r fan hon, gallwch ddefnyddio’r nodwedd chwilio i chwilio am:
BB-SD26-0011:

Sut mae cysylltu Panopto Recordings â Blackboard?
Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.
Dod o hyd i’ch ffolder Panopto
Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2026-27.
I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
- Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
- Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
- Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
- Yn y blwch Folder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
- Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.
Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto
Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:
- Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
- Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad
- Cliciwch ar Holl Fideos Panopto
Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.
