Datblygu Proffesiynol Parhaus – Beth sydd ar gael?

Mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu’n cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd y sesiynau Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar y wefan hyfforddiant staff.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn sôn am yr amrywiaeth o sesiynau a gynigir i chi rhwng hyn a mis Ionawr, gyda phwy y dylid cysylltu i gael mwy o wybodaeth, a sut i gadw lle ar un o’r sesiynau.

Dyma sy’n cael ei gynnig dros y misoedd nesaf:

Mis Tachwedd:
• Sesiynau ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Graddedig, Datblygu eich Arferion Addysgu a Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu Syncronaidd (sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael)
• Sesiwn ar annog cymhelliant cynhenid myfyrwyr – o safbwynt damcaniaeth hunanbenderfyniad (Facilitating Intrinsic Motivation in Students – the Self Determination Theory Perspective) (Saesneg yn unig)
• Sesiynau ar Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard, TurnitIn a Panopto (y cyntaf o’r tri yn Saesneg, yr ail a’r trydydd yn Gymraeg)
• Sesiynau ar greu deunyddiau dysgu hygyrch, amgylcheddau dysgu, a thechnegau ar gyfer dysgu pynciau gwyddonol yn ogystal â defnyddio Online Surveys Jisc (yn Saesneg i gyd)
• Cynhelir dau fforwm Academi ar Pam a Sut y Dylid Helpu Myfyrwyr i Fyfyrio ar eu Dysg, a Strategaethau er mwyn Ysgogi Ymroddiad i Ddysgu Ar-lein.

Mis Rhagfyr:
• Sesiynau Hanfodion E-ddysgu ar Symud i Addysgu Ar-lein a Defnyddio Teams i Gynnal Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu (Cymraeg)
• Sesiwn ar sut i gynnig modiwl ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol
• E-ddysgu uwch ar ddefnyddio offer e-ddysgu ar gyfer adolygu (Using E-learning Tools for Revision Activities) (Saesneg)
• Cynhadledd fach sy’n canolbwyntio ar Ddulliau o Ddarparu Adborth
• Sesiwn ar drafod sgiliau astudio gyda myfyrwyr (Saesneg)

Mis Ionawr:
• Sesiynau Hanfodion E-ddysgu ar Blackboard, TurnItIn, Panopto, Trosglwyddo Marciau Cydrannau, Symud i Ddysgu Ar-lein a Defnyddio MS Teams i gynnal Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu (pob un yn Saesneg)
• Sesiwn arall ar gynnig modiwl ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol
• Dau Fforwm Academi arall ar sut mae cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb, a sut mae dysgu’n fwy cynhwysol?

Gyda phwy mae angen cysylltu i gael mwy o wybodaeth am un o’r sesiynau hyn?

Ar wefan hyfforddiant staff (dolen yma), cliciwch ar Manylion i gael mwy o wybodaeth am sesiwn benodol. Os oes gennych ragor o gwestiynau, anfonwch e-bost at cpdstaff@aber.ac.uk, gan gynnwys manylion am y sesiwn yr ydych yn holi amdani (teitl, dyddiad, amser).

Sut mae cadw lle ar un o’r sesiynau hyn?

Ar dudalen Manylion y sesiwn benodol, cliciwch ar y sesiwn yr ydych yn diddori ynddi, cliciwch Archebwch yma (mewn coch) ar frig y dudalen. Nodwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair a chliciwch Cadarnhau’ch lle. Ar hyn o bryd mae’r sesiynau i gyd yn digwydd ar Teams (mae cymorth i ddefnyddio MS Teams ar gael yma). Byddwch yn derbyn gwahoddiad calendr ychydig ddyddiau cyn y sesiwn ac anfonir cadarnhad i’r cyfeiriad e-bost cysylltiedig â’r enw defnyddiwr a nodir ar y ffurflen archebu. Dyna ni!

Fel y gwelwch, mae digon o gymorth ar gael i chi er mwyn cyflwyno dull cyfunol y Brifysgol, yn nhermau’r gelfyddyd o addysgu ac yn nhermau sgiliau technegol ac ymarferol. Rydym ni yma i helpu ac mae’r sesiynau DPP yn un o’r ffyrdd y gallwn ddarparu hyfforddiant i chi – edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r sesiynau.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*