Cynnal sesiynau addysgu cyfunol – ar yr un pryd drwy wyneb yn wyneb a drwy MS Teams

Anogir staff addysgu i ddarparu mynediad i sesiynau addysgu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu  mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Mae’r canllawiau isod yn rhoi rhestr wirio gam wrth gam o’r holl bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal sesiwn effeithiol ar yr un pryd i fyfyrwyr sy’n bresennol yn y dosbarth a’r rhai hynny  sy’n ymuno â’r dosbarth drwy MS Teams.  

Cyn y sesiwn: 

Sylwer: Bydd angen gwneud hi’n glir bod y ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn yn uniongyrchol yn y dosbarth, a bod disgwyl i bob myfyriwr sy’n iach, ac nad yw’n hunanynysu, i fynychu’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb yn cael ei fonitro’n ofalus.  

  • Adolygu’r canllawiau ystafell ddysgu, a gwylio’r clipiau fideo yn dangos sut mae’r ystafell ddysgu ar-lein yn gweithio:  

Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 

Arddangosiadau Ystafelloedd Dysgu 

Pan fyddwch yn yr ystafell ddysgu: 

Ar ôl i’r sesiwn ddechrau:  

  • Rhowch wybod i’ch myfyrwyr o fformat y sesiwn.
  • Anogwch y myfyrwyr sy’n ymuno drwy MS Teams i droi eu meicroffonau a’u camerâu ymlaen ac i gymryd rhan yn y drafodaeth yn hytrach na theipio yn y blwch chat. Gwnewch hi’n glir na fyddwch chi’n monitro’r chat trwy gydol y sesiwn, felly os oes unrhyw gwestiynau ganddynt, mae’n rhaid iddynt eu gofyn yn uniongyrchol.  
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol y bydd y chat yn weladwy i bawb ac yn cael ei gadw yn Teams, felly ni ddylent bostio unrhyw sylw na fyddent yn gyfforddus yn ei ddweud yn yr ystafell ddysgu.  
  • Ceisiwch annog y myfyrwyr i gyfrannu – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ceisio cynnal y drafodaeth gyda’r holl fyfyrwyr, yn y dosbarth a thros MS Teams, ar yr un pryd.  

Ar ôl y sesiwn: 

  • Gofynnwch i’ch myfyrwyr yn y dosbarth a thros MS Teams sut aeth y sesiwn o’u safbwynt hwy, a gofynnwch a oes ganddynt unrhyw awgrymiadau am sut y gallai’r sesiwn gael ei addasu er mwyn ei wella ar gyfer y dyfodol.  
  • Cymerwch amser i fyfyrio ar y sesiwn, a meddyliwch am sut y gallech chithau addasu unrhyw agwedd yn unol â’ch profiad.  
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â udda@aber.ac.uk   

Mae nifer o staff academaidd eisoes yn rhedeg sesiynau addysgu cyfunol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r fformat hwn o redeg sesiynau cyfunol yn dal yn newydd iawn i’r mwyafrif. Cymerwch amser i fyfyrio ar y broses, i addasu pan fo angen a pheidiwch ag oedi gofyn i ni am gymorth. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*