Ar gyfer y Fforwm Academi ddiwethaf yn Semester Un gwnaethom ddewis un o’r pynciau mwyaf cyffredin a godir gan staff dysgu; sef sut mae ysgogi myfyrwyr, yn arbennig yng nghyd-destun dysgu ar-lein?
Yn rhan gyntaf y semester cafwyd trafodaeth gyffredinol a ddechreuodd wrth fyfyrio ar bryd yr ydym ni’n teimlo wedi’n hysgogi fwyaf, ac amlygwyd ffactorau megis:
Os oes pwysau allanol (dyddiad cau)
Os yw’n bleserus
Os yw’n ymwneud â phobl eraill
Os nad yw’r tasgau’n anodd, pwysig neu amlochrog
Os ydych chi’n cael adborth cadarnhaol
Gwnaeth y rhai a fynychodd hefyd rannu eu strategaethau ar gyfer cynnal eu hysgogiad :
Newid rhwng tasgau
Torri prosiectau mawr yn dasgau llai
Gofyn i’ch hun pam mae angen i chi wneud y gwaith?
Cwblhau tasg fach, rwydd a defnyddio’r ysgogiad a’r ymdeimlad o lwyddiant a ddaw yn sgil hynny i weithio ar rywbeth arall
Cwyno llai am orfod gwneud y dasg a mynd ati i’w gwneud
Defnyddio rhestrau a gallu croesi pethau allan
Gosod targedau realistig
Gofalu amdanoch chi eich hun (ceisio ystyried y gwaith o fewn persbectif ehangach)
[:cy]Mae un o’r nodweddion mwyaf disgwyliedig MS Teams wedi cyrraedd o’r diwedd…. Ystafelloedd Trafod (Breakout Rooms)! Mae ystafelloedd trafod yn caniatáu i drefnwyr cyfarfodydd greu ac enwi hyd at 50 o ystafelloedd ar wahân, mewn cyfarfodydd sydd wedi’u hamserlennu ac o fewn cyfarfodydd ‘meet now’. Gall trefnwyr yna benodi mynychwyr i’r ystafelloedd hynny naill ai’n awtomatig neu â llaw.
Byddwn yn rhyddhau canllawiau ar sut i greu a rheoli ystafelloedd trafod (i staff) a sut i gymryd rhan o fewn ystafelloedd trafod (i fyfyrwyr) yr wythnos nesaf. Am y tro, dyma ganllaw gan Microsoft ar sut i greu a rheoli ystafelloedd trafod o fewn Teams.
Sut mae’r eicon ar gyfer ystafelloedd trafod yn edrych? Mae’r eicon ar gyfer ystafelloedd trafod wedi’i arddangos fel dau flwch (fel y nodir isod o fewn y blwch glas). Dylai hyn ymddangos ar eich bar rheoli.
Pam na allaf weld yr eicon hwn? Os na allwch weld yr eicon hwn, mae dau reswm tebygol:
1. Dim ond trefnwyr cyfarfodydd all greu a rheoli ystafelloedd trafod. Os nad chi yw trefnydd y cyfarfod, yna ni fyddwch yn gallu creu a rheoli ystafelloedd trafod o fewn Teams ac ni fyddwch chwaith yn gallu gweld yr eicon yn ystod y cyfarfod hwnnw.
Efallai fod MS Teams heb ddiweddaru’n awtomatig. I wneud hyn eich hun, cliciwch ar eich delwedd yng nghornel dde uchaf y sgrin (gweler y blwch melyn ar y ddelwedd isod) ac yna dewiswch ‘
Check for Updates ‘ (gweler y blwch oren).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio Teams, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu
Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
14-18/12/2020 SEDA Winter Festival“The programme covers a wide range of educational change and development – from ways to foster our learners’ inner feedback, through various individual and institutional responses to the COVID-19 crisis and moves to virtual teaching and online support, including both staff and student perspectives, with contributions from across the UK and from China.”
13/1/2021SHIFT L&T Conference “Radically reimagining Higher Education for a new era: working together for a just and sustainable future”, University of Greenwich
29/1/2021 Keeping it Real: Celebrating Authentic Learning in the UK“This half-day conference will explore the diverse authentic learning approaches adopted by colleagues across the UK through a variety of talks and case studies”, University of Bath and King’s Academy, King’s College London
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.
[:cy]Yn yr Academi Arddangos nesaf eleni, roeddem yn edrych ar pam a sut y dylid helpu myfyrwyr i fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu. Cododd ein trafodaeth o’r ymgais i ddiffinio ystyr myfyrio. Drwy ddefnyddio’r feddalwedd pleidleisio, casglwyd syniadau cychwynnol y rhai oedd yn bresennol, oedd yn cyffwrdd ar wahanol agweddau ar fyfyrio gan gynnwys dysgu, herio rhagdybiaethau, sylwi, gwerthuso a meddwl am weithred.
“Yn syml, mae myfyrio yn ymwneud â hyrwyddo ymagweddau dwys a lleihau ymagweddau arwynebol at ddysgu” (Hinett, 2002 fel y’i dyfynnir yn Philip, 2006,t. 37). Mae’r myfyrwyr sy’n mabwysiadu ymagwedd fwy arwynebol at ddysgu a myfyrwyr nad oes ganddynt lawer o ddiddordeb yn y pwnc yn fwy tebygol o edrych ar unrhyw asesiad fel modd o gyrraedd y nod yn unig. Fodd bynnag, mae’r myfyrwyr sy’n mabwysiadu ymagwedd ddofn, sy’n ymroddedig i ddeall y pwnc, a’r rhai sy’n rhoi’r amser i feddwl am yr adborth yn llawer mwy tebygol o berfformio’n well yn y dyfodol. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ymagwedd (arwynebol a dwfn) yw bod y dysgwr ‘dwfn’ yn myfyrio ar brofiad. Mae myfyrio hefyd yn ffordd o gael myfyrwyr i sylweddoli mai tynnu ar brofiadau bywyd yw hanfod dysgu, ac nad yw dysgu’n rhywbeth sy’n digwydd yn y ddarlithfa’n unig. Mae’n helpu myfyrwyr i feddwl am beth, pam a sut maen nhw’n dysgu a deall bod hyn yn effeithio ar eu llwyddiant (Philip, 2006).
Fel yr ailadroddir gan Race (2002 fel y’i dyfynnir yn Philip, 2006, t.37): “Mae myfyrio yn dwysáu’r dysgu. Mae’r weithred o fyfyrio yn un sy’n peri inni wneud synnwyr o’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, pam ein bod wedi ei ddysgu a sut y digwyddodd y cynnydd penodol hwnnw yn ein dysg. Hefyd, mae myfyrio yn golygu cysylltu un cynnydd o ran dysg â safbwynt ehangach y dysgu – gan agosáu at weld y darlun ehangach. Mae myfyrio yr un mor ddefnyddiol pan fo’r dysgu wedi bod yn aflwyddiannus – mewn achosion o’r fath gall myfyrio daflu goleuni ar yr hyn a allai fod wedi mynd o’i le â’n dysgu, a sut y gallem osgoi’r maglau yr ydym bellach yn gyfarwydd â hwy o hyn ymlaen. Yn bennaf oll, fodd bynnag, cydnabyddir fwyfwy fod myfyrio yn sgil drosglwyddadwy bwysig, a bod pawb o’n cwmpas yn rhoi pwys mawr ar y sgil honno, ym myd cyflogaeth ac mewn bywyd bob dydd.”
Ddydd Llyn 16 Rhagfyr, ar 10.30yb, bydd yr Uned Datblygu Dyscu ac Addysgu’n cynnal Cynhadledd Fer yr Academi eleni.
Mae’r Gynhadledd Fer yn fersiwn llai o’n Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sy’n ein galluogi i gasglu ynghyd gyfres o gyflwyniadau a gweithdai sy’n ymwneud â phwnc dysgu ac addysgu penodol.
Thema’r Gynhadledd Fer eleni yw Gwaith Grŵp ac Asesiad Grŵp.
Yr Athro John Traxler, Professor of Digital Learning, University of Wolverhampton: Working (Groups) in the Digital Age
Dr Jennifer Wood & Roberta Sartoni (Ieithoedd Modern): Group Work as an Active-Learning Tool in Translation Classes
Janet Roland & John Harrington (Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr): Supporting students who find group work challenging
Dr Gareth Llŷr Evans (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu): Prosesau Creadigol Agored ac Asesu Grwpiau Bach
Dr Ian Archer (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu): Learning Environments and your personality preferences
Mary Jacob (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu): Designing and Assessing Group Work
Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn y Gynhadledd Fer felly archebwch le drwy’r dudalen archebu hon.
[:cy]Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i hyrwyddo’r arolwg hwn i’r holl fyfyrwyr.
Bob blwyddyn, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gwobr Cwrs Nodedig. Mae’r wobr hon yn cydnabod yr arferion gorau o ran defnyddio Blackboard. Mae’r postiad blog hwn yn sôn am y newidiadau yr ydym wedi’u gwneud i’r broses. Cewch wybod hefyd pryd fydd y sesiynau hyfforddi penodol hyn yn cael eu cynnal, pam ddylech ymgeisio a phryd y dylech wneud hynny, ynghyd â’r dyddiad cau. Er mwyn ichi ddeall pa fath o fodiwl fyddai’n deilwng o Wobr Cwrs Nodedig, gallwch wylio cyflwyniadau enillwyr y llynedd am eu modiwlau buddugol yma (Lara Kipp, yn Saesneg yn unig, a Rhianedd Jewell, yn Gymraeg a Saesneg). Yng ngoleuni’r heriau a ddaeth i’n rhan ni i gyd y flwyddyn academaidd hon, rydym wedi dod at ein gilydd i ystyried sut y gallem symleiddio’r broses, gan obeithio y bydd rhagor fyth o geisiadau’n dod i law i’w hystyried eleni. Mae hon yn dal i fod yn broses gadarn a manwl iawn, ond rydym wedi gwneud rhai newidiadau allweddol i annog rhychwant mor eang â phosib o bobl i roi cynnig arni.
Beth sydd wedi newid? • Gallwch bellach gyflwyno’ch cais mewn dwy ffordd: naill ai ar ffurf naratif ysgrifenedig hyd at 500 gair neu recordiad Panopto hyd at 4 munud. • Rydym wedi symleiddio’r ffurflen fel mai dim ond ticio’r maen prawf i gadarnhau eich bod wedi’i bodloni sydd raid. Does dim angen treulio oes yn ystyried faint o bwyntiau y dylech eu dyfarnu i’ch hun. • Mae pwysoliad y meini prawf bellach wedi’i ymgorffori yn y ffurflen, sy’n golygu nad oes rhaid i ymgeiswyr gyfrifo’r sgôr mwyach.
Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 9fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mercher 30 Mehefin hyd ddydd Gwener 2 Gorfennaf 2021.
Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd yn ddiweddarach y fis hwn. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.
Heddiw, mae nodwedd newydd ar gael yn Blackboard sy’n eich galluogi i greu cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd.
Mae’r nodwedd newydd hon yn gweithio yn yr un modd â’r opsiynau ailddigwydd sydd ar gael yn Outlook. Fel y gwelir yn y ddelwedd isod, gallwch bellach drefnu cyfarfodydd MS Teams drwy Blackboard yn seiliedig ar ba mor aml yr ydych am iddynt ddigwydd; ar ba ddyddiau yr ydych am iddynt ailddigwydd; a phryd yr hoffech i’r ailadrodd ddod i ben.
Dylid annog myfyrwyr i ychwanegu’r ddolen hon at eu calendrau gan y bydd hyn yn ychwanegu’r gyfres gyfan at eu calendrau yn awtomatig.
Wrth drefnu eich cyfarfod sy’n ailadrodd, sicrhewch eich bod yn cynnwys gwybodaeth glir am ba sesiynau y dylai’r myfyrwyr ymuno â drwy’r ddolen yr ydych newydd ei greu.