Diweddaru’r Offer Golygu Cynnwys yn Blackboard

Ar 5 Tachwedd 2020 mae Blackboard yn diweddaru’r offer Golygu Cynnwys (sef y golygydd WYSIWYG). Dyma’r prif ddull o lwytho cynnwys ar Blackboard.

Mae’n edrych fel hyn:

The new Blackboard Content Editor

Mae sawl agwedd sydd wedi’u gwella yr hoffem dynnu’ch sylw atynt:

Add Content icon Arwydd Adio

Un ddewislen hawdd ar gyfer adio cynnwys o’ch cyfrifiadur, eich storfa yn y cwmwl, neu’ch offer integredig. Bydd yr offer Golygu Cynnwys yn adnabod yn awtomatig y mathau o ffeiliau sy’n cael eu hychwanegu.

Better for all devices icon Gwell i Bob Teclyn

Mae’r offer Golygu yn gweithio’n well gyda phob math o ddyfais – sgrin fach neu fach. Mae’r ffenestri naid wedi’u dileu er mwyn sicrhau gwell profiad ar declynnau symudol.

Accessibility icon Gwell Hygyrchedd

Mae’r offer Golygu yn fwy hygyrch, ac mae offer gwirio hygyrchedd newydd yn helpu’r awdur i sicrhau bod y deunydd a ychwanegir yn fwy hygyrch.

copy and paste icon Gwell Copïo a Gludo

Mae’n well byth o ran gludo deunydd o Word, Excel, a gwefannau. Gallwch ddewis tynnu HTML ychwanegol ond cadw’r fformatio sylfaenol.

simple embed icon Mewnblannu yn Hawdd

Wrth gludo dolenni cyswllt â gwefannau megis YouTube, Vimeo, a Dailymotion, mae’r fideos yn cael eu hymgorffori’n awtomatig er mwyn eu chwarae yn ôl yn fewnol. Bydd gwefannau eraill, gan gynnwys The New York Times, WordPress, SlideShare a Facebook yn mewnblannu crynodeb ar ffurf rhagolwg.

Display Computer Code icon Dangos Cod Cyfrifiadurol

Erbyn hyn y gall awduron rannu darnau o godau cyfrifiadurol wedi’u fformatio, sy’n hynod o ddefnyddiol i ddosbarthiadau cyfrifiadurol a chlybiau codio.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*