Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb

Efallai y bydd adegau lle nad yw’n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i’r rheini sy’n ymuno drwy MS Teams.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i’r myfyrwyr hynny na allant ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb. Cyn i chi ddechrau creu gweithgaredd amgen, ystyriwch y pwyntiau canlynol:

  1. Pa weithgaredd arall a fyddai’n efelychu orau y profiad y mae myfyrwyr yn y sesiwn wyneb yn wyneb yn ei gael?
  2. Beth yw fy nghanlyniadau dysgu arfaethedig a pha weithgareddau fyddai’n cyflawni’r rhain orau?
  3. Faint o amser fydd hi’n cymryd i mi gynllunio gweithgaredd ac a oes gen i ddigon o amser?
  4. Meddyliwch yn ofalus am eich meini prawf asesu – a fydd y gweithgaredd amgen a ddarperwch yn caniatáu i’r myfyrwyr gynnal asesiadau’r modiwl yn llwyddiannus?
  5. Mae eglurder a ffocws wrth wraidd unrhyw weithgaredd ar-lein sydd wedi’i gynllunio’n dda. Sicrhewch fod myfyrwyr sy’n defnyddio eich gweithgaredd amgen yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n ei wneud. Os ydych yn gofyn i’ch myfyrwyr ddefnyddio unrhyw dechnoleg, rhaid i chi roi arweiniad clir a chryno iddynt ar sut i’w defnyddio.

Bydd gwahanol bynciau’n cynnig heriau a chyfleoedd penodol wrth i chi geisio cynllunio gweithgareddau amgen addas i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu ymuno â’ch sesiynau wyneb yn wyneb. Y nod cyffredinol yw sicrhau bod y myfyrwyr i gyd yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys a bod y rhai nad ydynt yn gallu ymuno â’r sesiwn wyneb yn wyneb ddim yn teimlo eu bod yn colli allan mewn unrhyw ffordd.

Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau amgen y gallech eu darparu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb:

Gweithgareddau wyneb yn wynebGweithgareddau amgen
Trafodaethau seminarSesiynau seminar ar-lein: Os oes amser gennych chi, gallech gynnig i’r myfyrwyr na allai fynychu’r seminar wyneb yn wyneb i ymuno â seminar ar-lein i drafod yr un pynciau.
Trafodaethau cyffredinolByrddau trafod Blackboard: Gallech ofyn i fyfyrwyr drafod cwestiwn/cysyniad/problem drwy fyrddau trafod Blackboard. Gallwch fonitro'r byrddau trafod hyn, eu graddio a gallech eu sefydlu ar gyfer grwpiau penodol o fyfyrwyr o fewn modiwl yn Blackboard.
Teithiau maesTeithiau Maes Rhithwir: Gallech ddylunio taith maes rithwir lle byddech wedi recordio eich hun neu gyd-weithiwr yn ymweld â safleoedd allweddol ar gyfer y daith maes corfforol ac yna adrodd dros y clipiau fideo ac ychwanegu capsiynau. Gellir llwytho'r clipiau fideo hyn i Panopto fel eu bod ar gael drwy ffolder y modiwl yn Blackboard. Opsiwn arall, os oes gennych yr offer perthnasol, fyddai creu taith delweddau 360 gradd o amgylch safle’r daith maes a chynnwys gwybodaeth am y gwahanol bwyntiau o ddiddordeb.

Helfa Sborion Rhithwir:
Opsiwn arall yw paratoi helfa sborion rhithwir i fyfyrwyr. Er enghraifft, mae apiau fel Geotourist yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am leoliad penodol wrth iddynt ei gyrraedd. I fyfyrwyr sydd ddim yn gallu gadael eu llety gallent deithio drwy’r helfa sborion drwy eu porwr gwe.

Profiadau Rhithwir: Mae hefyd sawl meddalwedd rithwir ar-lein y gallai myfyrwyr eu defnyddio i ymgymryd â phrofiadau gwahanol neu i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau. Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio Google Earth i archwilio tirffurf penodol, neu gallent fynd ar daith rithwir o amgylch yr Oriel Genedlaethol.
Arbrofion labordyArbrofion Labordy Rhithwir: Gallech ffilmio eich hun neu gyd-weithiwr yn cynnal yr un arbrofion labordy â'r rhai a gynhaliwyd yn y sesiwn wyneb yn wyneb. Gallech hefyd adrodd dros y clipiau fideo ac ychwanegu capsiynau yn esbonio'r broses yr ydych yn mynd drwyddi ac i dynnu sylw at unrhyw bwyntiau y dylent fod yn ymwybodol ohonynt pe baent yn ymgymryd â'r arbrawf eu hunain. Gellir llwytho'r clipiau fideo hyn i Panopto a'u darparu drwy'r ffolder modiwl yn Blackboard.
Dadansoddi testunau neu ddelweddau (e.e. llawysgrifau, barddoniaeth, lluniadau, paentiadau)Darparu fersiwn digidol o destunau gydag anodiadau: Os yw'r polisi hawlfraint yn caniatáu (gweler canllawiau Prifysgol Aberystwyth) gallwch gynhyrchu copïau digidol o destunau neu ddelweddau yr ydych wedi eu dadansoddi gyda myfyrwyr yn y dosbarth wyneb yn wyneb. Gellid cynnwys anodiadau hefyd ar y testunau/delweddau er mwyn tynnu sylw’r myfyrwyr at adrannau/nodweddion allweddol.
Prosiect grŵp bachProsiectau grŵp bach ar-lein: Gellid rhannu myfyrwyr i grwpiau a gofyn iddynt weithio ar brosiect dros un o’r cyfryngau digidol, e.e. cyfarfod dros MS Teams; defnyddio fforymau ar-lein (e.e. Discord); defnyddio Wikis yn Blackboard; gweithio ar ddogfen gydweithredol o fewn MS Teams. Gallwch hefyd ddyrannu myfyrwyr i wahanol grwpiau o fewn modiwl yn Blackboard fel bod gan bob grŵp le pwrpasol i weithio o fewn y modiwl.
Cwisiau yn y dosbarthCwisiau ar-lein: Gellir defnyddio meddalwedd cwisio, fel Mentimeter, Socrative a PollEverywhere (canllawiau ar ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer addysgu) i fesur dealltwriaeth myfyrwyr a darparu dulliau iddynt ailedrych ar bynciau a'u hadolygu. Gallech hefyd sefydlu profion cyfunol neu ffurfiannol yn Blackboard i fyfyrwyr eu cymryd.

Gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ddealltwriaeth myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau amgen. Felly, mae rhoi’r cyfle i fyfyrwyr na allai ymuno â’r sesiynau wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau i chi yn hanfodol. Beth am drefnu sesiynau galw heibio i’r myfyrwyr? Neu beth am greu byrddau trafod yn Blackboard lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau i chi a’u cyd-fyfyrwyr? Fel y soniwyd uchod, mae cwisiau hefyd yn ffordd effeithiol o brofi am ddealltwriaeth.

Os na allwch feddwl am unrhyw weithgareddau amgen priodol ar ôl darllen y blog hwn, neu os hoffech gael cymorth i weithredu eich syniadau, cysylltwch ag udda@aber.ac.uk, a byddem yn hapus i drefnu ymgynghoriad gyda chi dros MS Teams i drafod ymhellach.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*