Baneri a’r Panel ‘Insight’ yn Stiwdio Adborth Turnitin

Bydd y staff sydd wedi marcio asesiadau a gyflwynir drwy Turnitin yn gyfarwydd â’r Adroddiad ar Debygrwydd a’r Stiwdio Adborth. Mae’r rhyngwyneb yn y Stiwdio Adborth yn amlygu mannau lle mae’r testun yn debyg i ffynonellau ar-lein.

Mae Turnitin wedi diweddaru rhyngwyneb y Stiwdio Adborth er mwyn tynnu sylw at anghysonderau testunol mewn cyflwyniadau fel y gellir rhoi sylw manwl iddynt. Baneri y gelwir y darnau hyn a amlygir.

Mae’r baneri yn codi materion a allai fod yn arwydd o broblemau, megis:
•Nodau testun sydd wedi’u hailosod; mae’n bosib y gallai’r rhain fod wedi’u mewnosod er mwyn cuddio tebygrwydd.
•Testun cudd fel dyfynodau a allai effeithio ar y ganran o ddeunydd a ddyfynnwyd a allai olygu bod y deunydd hwnnw yn cael ei gamddehongli fel deunydd gwreiddiol.

Gellir gweld y Baneri hyn drwy’r ‘Insight Panel’ sef yr enw y mae Turnitin yn ei roi ar y grŵp o offer sydd erbyn hyn yn cynnwys Baneri, Tebygolrwydd, Ffynonellau, Hidlyddion a Ffynonellau Eithriedig.

botymau wedi'u labelu

Roedd yr anghysonderau testunol hyn – sydd yn cael eu hamlygu gan Turnitin fel Baneri erbyn hyn – wedi cael eu cynnwys o dan Debygrwydd cyn hyn. Yn y bôn, mae Turnitin wedi eu rhannu yn adrannau ar wahân.

Mae’r enw a roddwyd gan Turnitin ar yr offer hyn, sef “Insight Panel”, yn addas gan eu bod yn cael eu darparu er mwyn rhoi i chi olwg sy’n treiddio i uniondeb academaidd yr aseiniad.

Canllawiau Turnitin ar y Panel Insight a Baneri

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*