
Rydym wedi cael problem dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda rhai cydweithwyr yn methu â dod o hyd i ffolder i recordio ynddi yn Panopto.
Pan fydd y recordydd Panopto yn agor mewn darlithfa, nid yw’r ffolder yn ymddangos ar y gwymplen, gan orfodi cydweithwyr i recordio all-lein.
Rydym wedi bod yn cysylltu â’r GTG a Panopto ynglŷn â’r mater hwn.
Os ydych chi’n cael y broblem hon, mae yna rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:
- Ychwanegu dolen i holl recordiadau Panopto yn eich Cwrs Blackboard. Mae caniatâd Panopto yn cael eu cysoni ar draws pob modiwl os yw hyfforddwyr yn ymgysylltu â’r ddolen hon. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i weld sut mae gwneud hynny.
- Cyrchu Panopto o Blackboard.
Ewch i’ch modiwl yn Blackboard a chlicio ar Llyfrau ac Offer o’r ddewislen ar y dde.

Dewiswch Holl Fideos Panopto

Dewiswch Creu ac Panopto ar gyfer Windows

Bydd hyn yn agor y recordydd Panopto a dylech allu dewis y ffolder o’r gwymplen.
Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, recordiwch all-lein, a chysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (e-ddysgu@aber.ac.uk) gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad
- Amser a dyddiad y ddarlith
- Cyfeirnod y modiwl
Byddwn yn adalw’r recordiad a’i uwchlwytho cyn gynted â phosibl.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
