Panopto 

Wrth i’r addysgu ddechrau, efallai y bydd yr wybodaeth hon am Panopto yn ddefnyddiol. Dyma’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am Panopto dros yr wythnosau diwethaf.

Cysylltu â holl Recordiadau Panopto

Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.

Dod o hyd i’ch ffolder Panopto

Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2024-25.

I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:

  • Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
  • Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
  • Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.

Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:

  • Yn y blwch Ffolder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi
  • Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.

Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto

Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:

  1. Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
  2. Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad
  3. Cliciwch ar Holl Fideos Panopto

Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.

Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment

Diolch yn fawr iawn i’r holl staff sydd wedi cofrestru ar gyfer Peilota SafeAssign ar Blackboard Assignment. Mae amser o hyd i wirfoddoli os oes gennych ddiddordeb (e-bost eddysgu@aber.ac.uk).

Ers y blog diwethaf, rydym wedi sicrhau bod SafeAssign ar gael i’w ddefnyddio yn Blackboard Assignments. Rydym hefyd wedi cynnal y ddwy sesiwn hyfforddi gyntaf. Bydd mwy o sesiynau hyfforddi yn cael eu trefnu ar gyfer semester un – ewch i’r dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant i archebu lle.

Rydym wedi bod yn trafod rhai o’r opsiynau ar gyfer marcio yn Blackboard Assignment y gallai staff eu gweld yn ddefnyddiol:

  1. Mae marcio dirprwyedig yn caniatáu i staff farcio traethodau fesul grŵp. Os ydych yn rhannu’r gwaith marcio yn eich modiwlau rhwng sawl aelod o staff, yna bydd marcio dirprwyedig yn eich helpu.
  2. Mae marcio cyfochrog yn caniatáu i ddau aelod o staff farcio darn o waith yn annibynnol heb weld sylwadau na marciau ei gilydd.
  3. Sylwadau dienw. Yn ddiofyn, mae sylwadau marcio yn Blackboard Assignment yn cynnwys enw’r aelod o staff sy’n marcio. Os nad yw hyn yn briodol ar gyfer eich marcio, gallwch eu gwneud yn ddienw (gweler isod).

Noder y gellir adfer aseiniadau Blackboard sydd wedi’u dileu am hyd at 30 diwrnod ar ôl eu dileu. Os oes angen adfer aseiniadau wedi’u dileu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, gan roi manylion y modiwl ac enw’r aseiniad.

Sylwadau Dienw

Pan fyddwch chi’n creu sylw, cliciwch ar yr eicon marcio dienw

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r eicon marcio dienw wedi’i amlygu

Gallwch olygu sylwadau presennol i’w gwneud yn ddienw trwy glicio ar y sylw.  Cliciwch ar y tri dot yng nghornel dde uchaf y sylw a chliciwch ar Dienw.

Sgrinlun o flwch sylwadau Blackboard Assignment gyda’r tri dot a’r opsiwn Dienw wedi’i amlygu

I gael rhagor o wybodaeth am yr offer marcio sydd ar gael yn Blackboard Assignments, gweler Canllawiau Anodi Blackboard

Cefnogi eich myfyrwyr

Er mwyn helpu’ch myfyrwyr i ddefnyddio Blackboard Assignment i gyflwyno eu gwaith a dod o hyd i’w hadborth, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys y Cwestiynau Cyffredin canlynol yn y Modiwl Dysgu Asesu ac Adborth yn eich cwrs Blackboard:

SafeAssign

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i werthuso dewis arall yn lle Turnitin ar gyfer paru testun a marcio. Enw’r dewis arall hwn yw SafeAssign. Mae SafeAssign yn rhan o Blackboard.

Darllenwch yr wybodaeth isod a fydd yn eich helpu i benderfynu a hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk

Beth yw SafeAssign?

Mae SafeAssign yn adnodd paru testun a ddarperir gan Blackboard. Mae wedi’i gynnwys yn ein prif drwydded Blackboard. Mae SafeAssign yn ddewis amgen i Turnitin.

Pam ydyn ni’n ei ystyried?

Roedd PA yn defnyddio SafeAssign cyn i ni ddechrau defnyddio Turnitin. Yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn defnyddio’r offer gorau sydd ar gael, hoffem werthuso a fyddai SafeAssign yn briodol ar gyfer paru testunau. Cymeradwywyd y gwerthusiad hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd (Mai 2024).

Beth fydd yn wahanol os byddaf yn defnyddio SafeAssign yn lle Turnitin?

Bydd rhai agweddau ar farcio a chyflwyno wedi newid:

  • Offer newydd ar gyfer cyflwyno, marcio a pharu testun
  • Cronfa ddata wahanol o aseiniadau a ffynonellau ar gyfer paru testunau. Ni fydd y gronfa ddata hon yn cynnwys cyflwyniadau’r blynyddoedd blaenorol gan PA.

Byddwch yn gweld rhai nodweddion newydd:

  • Amlygu testun
  • Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio
  • Gweld ac adalw cyflwyniadau blaenorol gan fyfyrwyr

Ac ni fydd rhai nodweddion ar gael:

  • Bydd angen i chi bostio marciau â llaw yn hytrach na gosod dyddiad ac amser rhyddhau. Fodd bynnag, bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o reolaeth i chi ynghylch pryd y bydd marciau ar gael i fyfyrwyr.
  • Cyflwyno ar ran myfyrwyr
  • Diffodd marcio dienw ar gyfer myfyrwyr unigol
  • Ni ellir allforio cyfarwyddiadau a marciau cyflym o Turnitin, er bod offer tebyg ar gael yn Blackboard.

Mae manylion llawn nodweddion Turnitin a SafeAssign ar gael.

Y Gymraeg

Bydd holl elfennau’r gwerthusiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys canllawiau cymorth, hyfforddiant, cefnogaeth a gwerthusiad. Mae SafeAssign ei hun yn cael ei gyfieithu yn rhan o ymrwymiad Anthology i’r Gymraeg. Mae testun Cymraeg wedi’i gynnwys yn y gwasanaeth paru testunau.

Beth fydd angen i mi ei wneud os ydw i’n gwirfoddoli?

Rydym yn argymell yn gryf bod modiwlau sydd wedi’u cynnwys yn y gwerthusiad yn defnyddio SafeAssign ar gyfer pob e-gyflwyniad yn ystod cyfnod y modiwl. Mae hyn yn helpu staff a myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â SafeAssign yn hytrach na chyfnewid rhwng offer cyflwyno a marcio lluosog.

Bydd yn rhaid i’r holl staff sy’n ymwneud â chyflwyno, marcio a chymedroli ar gyfer y modiwl ddefnyddio SafeAssign (nodwch fod hyn yn cynnwys arholwyr allanol). Os ydych yn gwirfoddoli modiwl sydd â nifer o staff yn marcio arno, gwnewch yn siŵr eu bod i gyd yn ymwybodol, a’u bod i gyd wedi derbyn hyfforddiant priodol (gweler isod). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i bob arholwr allanol am y gwerthusiad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu cyflwyniad prawf/ymarfer i’ch myfyrwyr cyn eu haseiniad cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio SafeAssign yn gywir. Byddwn yn darparu canllawiau a Chwestiynau Cyffredin i fyfyrwyr y gallwch gysylltu â nhw o ardal Asesu ac Adborth eich cwrs Blackboard.

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd ar gael?

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gyfer staff a myfyrwyr ar wefan yr UDDA. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar sut i greu mannau cyflwyno a sut i farcio. Bydd cefnogaeth lawn ar gael i staff a myfyrwyr drwy gydol y tymor.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy myfyrwyr?

Bydd y dull cyflwyno yn wahanol i fyfyrwyr; un fantais o ddefnyddio SafeAssign yw y bydd myfyrwyr yn cael derbynneb e-bost. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweld eu hadborth mewn ffordd ychydig yn wahanol. Byddwn yn darparu cefnogaeth lawn i fyfyrwyr.

A allaf siarad â rhywun am hyn?

Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk i gael gwybodaeth ac i drafod a yw SafeAssign yn briodol ar gyfer eich modiwl.

Blackboard Ally

Mae Blackboard Ally ar gael i bawb sy’n defnyddio Blackboard.

Gall unrhyw fyfyriwr lawrlwytho cynnwys cwrs mewn fformatau amgen am ddim. Os hoffech chi wybod mwy, edrychwch ar y tabl Pa fformat ddylwn i ei ddefnyddio ar wefan Ally.

Gall pob aelod o staff wirio hygyrchedd eu cwrs a chael help i ddatrys unrhyw broblemau.

Ers mis Medi 2023, pan ddechreuodd Prifysgol Aberystwyth ddefnyddio Blackboard Ally, mae staff a myfyrwyr wedi bod yn ei ddefnyddio.

Fformatau Amgen

• Mae 3579 o ddefnyddwyr unigol yn lawrlwytho fformat amgen
• Mae 22,912 o ddogfennau wedi’u trosi
• Defnyddir fformatau amgen mewn 1100 o gyrsiau

Y fformat amgen sy’n cael ei lawrlwytho fwyaf yw’r PDF wedi’i dagio. Mae PDF wedi’i dagio yn ddefnyddiol i ddarllen wrth fynd, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n hoffi darllen gwybodaeth i chwilio, argraffu neu gymryd nodiadau. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin neu feddalwedd testun-i-lais gydag addasiad cyflymder.

Hygyrchedd Cyrsiau

• 282 o addasiadau i’r cynnwys
• Mae cynnwys 66 o gyrsiau wedi’u haddasu
• Mae sgôr hygyrchedd PA wedi gwella o 65.7% i 69.5%

I gael gwybod mwy am ddefnyddio Ally, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i Staff a Myfyrwyr

Hygyrchedd – Defnyddio Adnoddau Allanol

Wrth ddefnyddio adnoddau allanol megis dogfennau PDF neu sganiau a fideos yn eich gweithgareddau addysgu a dysgu, mae’n bwysig gwirio pa mor hygyrch ydyn nhw a sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu eu defnyddio. Mae hyn yn hanfodol os ydych yn dibynnu arnynt i gefnogi gweithgaredd dysgu, oherwydd fel arfer nid yw’n bosibl i chi olygu adnodd allanol o’r fath. Os nad yw’r eitem yr hoffech ei defnyddio yn hygyrch iawn, yna edrychwch am ddewis arall, fel arall bydd rhai myfyrwyr yn cael eu heithrio.

Gellir defnyddio’r cyfarwyddyd yn y Rhestr wirio hygyrchedd PA i werthuso pa mor hygyrch yw adnodd allanol.

Dewiswch y deunydd mwyaf hygyrch sydd ar gael – os nad yw’r unig adnodd sydd ar gael yn hygyrch, meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi’n darparu’r wybodaeth honno i fyfyriwr a allai ei chael hi’n anodd ei defnyddio.

Dogfennau PDF / sganiau

Mae sganiau o ddogfennau ysgrifenedig, neu sganiau heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR) o lyfrau, cylchgronau ac ati yn anhygyrch i bobl sydd angen defnyddio darllenwyr sgrin, testun chwyddedig ac ati. Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch sganiau a dogfennau PDF darllenadwy ag adnabyddiaeth nodau gweledol. Gallwch siarad â Thîm Digido’r Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cael sganiau priodol o ddeunyddiau. Os ydych chi’n defnyddio sganiau o ddogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw, gallech ddarparu trawsgrifiad o’r cynnwys.

Mae canllaw Prifysgol Chicago ar adnabyddiaeth nodau gweledol a dogfennau PDF yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau gwybod mwy am hyn (noder ei fod yn cynnwys dolenni i wasanaethau a meddalwedd nad ydynt ar gael yn PA; mae hefyd ar gael yn Saesneg yn unig).

Fideos

Gwiriwch fod gan y fideo yr ydych am ei ddefnyddio gapsiynau neu is-deitlau. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio YouTube, mae yna eicon Subtitles/Closed Captions yng nghornel chwith isaf y sgrin.

Sgrinlun o reolyddion fideo YouTube gyda’r eicon Subtitles/Closed Captions wedi’i amlygu.

Gwiriwch ansawdd y sain a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei glywed a’i ddeall ar lefel sain resymol.

Os nad oes capsiynau, neu os yw ansawdd y sain yn wael, a yw’n bosib darllen gwefusau’r actorion neu’r cyflwynwyr?

Mae llawer o recordiadau teledu yn Box of Broadcasts yn cynnwys trawsgrifiad, felly mae hwn yn lle da i ddod o hyd i fideo. Cofiwch fod rhai o raglenni’r BBC hefyd yn cael eu darlledu gyda dehonglwyr iaith arwyddion.

Os yw fideos yn defnyddio testun i gyfleu ystyr, gwnewch yn siŵr bod ganddo ffontiau clir a chefndir da.

Osgowch fideos gyda llawer o oleuadau sy’n fflachio a delweddau sy’n symud yn gyflym – os na allwch osgoi defnyddio fideo sy’n cynnwys hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhybuddio myfyrwyr (ac yn darparu esboniad neu fideo amgen lle bo hynny’n bosibl).

Mae gwefan W3C ar gynnwys sain a fideo hefyd yn ddefnyddiol. Er ei fod wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n creu sain a fideo, mae’n rhoi rhai awgrymiadau i chi o bethau i chwilio amdanynt wrth ddewis adnoddau.

Gwneud eich cynnwys Blackboard yn hygyrch

Sgrinlun o offer Blackboard Ally yn dangos 4 deial: Angen gwella! Gwell… Bron yna… Perffaith!

  • Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae’r deialau wrth ymyl eich cynnwys yn ei olygu yn Blackboard?
  • Ydych chi wedi gweld Adroddiad Hygyrchedd Ally yn eich cwrs Blackboard ond ddim yn siŵr beth i’w wneud ag ef?
  • Ydych chi am wneud eich cynnwys Blackboard yn fwy hygyrch, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?

Os mai YDW yw eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, fe allai’r cwrs Cyflwyniad i Ally newydd fod yn addas i chi.

Ac os ydych chi’n pendroni beth yw Ally hyd yn oed, yna mae’r cwrs hwn yn bendant yn addas i chi.

Hanfodion E-Ddysgu: Bydd y cwrs Cyflwyniad i Blackboard Ally (26 Chwefror) yn mynd â chi drwy’r pethau sylfaenol o ddefnyddio Ally i wirio a datrys problemau hygyrchedd mewn dogfennau yr ydych wedi’u huwchlwytho i Blackboard. Cyflwynwyd Ally nôl ym mis Medi (gweld y blog sy’n cyflwyno Ally) ac mae ar gael ym mhob un o gyrsiau Blackboard 2023-24.

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu dogfennau hygyrch gan ddefnyddio offer mewn pecynnau Microsoft Office megis Word a PowerPoint, mae gennym hefyd sesiwn Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch sy’n rhedeg ar 7 Mawrth.

Mae croeso i’r holl staff fynychu – archebwch eich lle ar y dudalen archebu cyrsiau hyfforddi.

Capsiynau Panopto yn Gymraeg

Nawr gellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Panopto at recordiadau Cymraeg.

I ddefnyddio capsiynau Cymraeg:

  1. Gosodwch iaith eich ffolder Panopto i’r Gymraeg
  2. Mewnforiwch y capsiynau awtomatig.

Os yw eich cwrs yn cynnwys recordiadau Cymraeg a Saesneg dylech greu is-ffolder i ddal yr holl recordiadau ar gyfer un o’r ieithoedd:

  1. Mewngofnodwch i panopto.aber.ac.uk a dewch o hyd i ffolder eich cwrs.
  2. Cliciwch ar y botwm Add Folder.
  3. Teipiwch enw ar gyfer eich ffolder a phwyswch Enter.
  4. Cliciwch ar y ffolder newydd a gosodwch yr iaith ar gyfer y recordiadau hyn.

Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso record. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.

Noder:

  1. Efallai y bydd oedi rhwng newid iaith eich ffolder a’r opsiwn i gapsiynau awtomatig ymddangos. Os yw hyn yn digwydd gwiriwch eto ymhen rhyw awr a dylech weld bod yr opsiwn ar gael.
  2. Mae’r capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg ond ar gael ar gyfer cynnwys a grëwyd ar ôl i chi ddiweddaru’r gosodiadau iaith ar eich ffolder.
  3. Ni ellir ychwanegu capsiynau adnabod llais awtomatig Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.
  4. Os ydych chi’n gwneud recordiadau mewn ieithoedd eraill yn rheolaidd, mae capsiynau adnabod llais awtomatig ar gael mewn ieithoedd eraill (gweler gwefan Panopto am y rhestr lawn)

Defnyddio Blackboard yn Gymraeg

Pan fyddwch yn mewngofnodi i Blackboard fe sylwch efallai fod iaith y rhyngwyneb wedi newid. Mae’r iaith gychwynnol a welwch yn Blackboard yn cael ei phenderfynu gan y Dewis Iaith yr ydych wedi’i osod yn ABW fel staff neu yn y Cofnod Myfyriwr fel myfyriwr.

Os ydych eisoes wedi gosod eich dewis iaith i’r Gymraeg, fe welwch ryngwyneb Gymraeg Blackboard, ac os ydych wedi gosod eich dewis iaith i’r Saesneg, fe welwch ryngwyneb Saesneg Blackboard.

Os nad ydych chi’n gweld rhyngwyneb Blackboard yn eich dewis iaith, gallwch ei newid yn hawdd.

Defnyddiwch yr opsiwn Iaith ar eich tudalen Proffil

Sgrinlun o’r Dudalen Broffil, opsiynau iaith

Mae’r adnodd Blackboard Ally newydd hefyd yn rhoi mynediad i fersiynau sain Cymraeg o gynnwys Cymraeg mewn cyrsiau Blackboard. Gall unrhyw ddogfennau Cymraeg, boed yn ffeiliau PowerPoint, dogfennau PDF ac ati, gael eu darllen yn uchel gan ddefnyddio’r fersiwn sain MP3. Am fwy o wybodaeth am ddefnyddio Blackboard Ally, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i staff neu fyfyrwyr.

A yw eich cynnwys yn weladwy i fyfyrwyr?

Mae nawr yn amser da i wirio a yw’r cynnwys yng nghyrsiau Blackboard eleni yn weladwy i fyfyrwyr. Gyda’r symud i Blackboard Learn Ultra, mae unrhyw ddeunyddiau a gopïwyd o gyrsiau blynyddoedd blaenorol wedi’u cuddio rhag y myfyrwyr yn ddiofyn.

Cynnwys yn gudd o fyfywyr

Gallwch newid gwelededd eitemau unigol (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer sicrhau bod eitemau yn weladwy). Gallwch eu gwneud yn weladwy ar unwaith neu ddefnyddio’r Amodau Rhyddhau (dyddiad/amser, myfyrwyr/grwpiau penodol, perfformiad myfyrwyr – gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer Rhyddhau Cynnwys i gael rhagor o wybodaeth).

Os oes gennych lawer o ddeunydd cudd, cofiwch y gallwch ddefnyddio’r adnodd Golygu Llwyth i sicrhau bod eitemau lluosog o gynnwys yn weladwy ar unwaith (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer defnyddio Golygu Llwyth). Cofiwch beidio â gwneud y ffolder Arholwyr Allanol yn weladwy.

Pan fyddwch chi’n defnyddio Golygu Llwyth i wneud ffolder yn weladwy, bydd hefyd yn gwneud yr holl eitemau cynnwys yn y ffolder yn weladwy.

Cofiwch y gallwch ddefnyddio’r adnodd Rhagolwg Myfyrwyr (gweler safle cymorth Blackboard ar gyfer defnyddio Rhagolwg Myfyrwyr) i weld sut mae eich cwrs a’ch cynnwys yn ymddangos i fyfyrwyr.

Gweler ein tudalen we Ultra am ragor o ddeunyddiau cymorth neu cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (elearning@aber.ac.uk).

Cyrsiau Ultra 2023-24

Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra.

Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn meddwl ei fod yn haws i’w ddefnyddio – yn enwedig ar ddyfeisiau symudol.

Mae gan gyrsiau Ultra yr un dyluniad hygyrch a chyfeillgar i ffonau symudol ag UBN – dyma sut mae cwrs Ultra yn edrych:

Sgrinlun o Gwrs Ultra Blackboard

Oherwydd y ffordd y mae wedi’i ddylunio, nid oes gan gwrs Ultra fyth mwy na dwy lefel o ffolderi – mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer cyflymach ac yn haws dod o hyd i’ch deunyddiau cwrs a’r dolenni cyflwyno aseiniadau. Ac mae yna hefyd offer chwilio ym mhob cwrs.

Rydym hefyd wedi ailgynllunio templed y cwrs i sicrhau ei fod yn defnyddio’r iaith y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddi. Os yw eich modiwl yn cael ei addysgu yn Gymraeg, bydd templed eich cwrs nawr yn Gymraeg. Ac mae gan fodiwlau dwyieithog dempled cwrs dwyieithog.

Mae llawer o wybodaeth am Ultra ar wefan Blackboard, gan gynnwys cyflwyniad i lywio eich ffordd o amgylch Cwrs Ultra (Noder – mae’r fideo ar y dudalen hon ar safle allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig). 

Mae holl gyrsiau y blynyddoedd blaenorol yn dal i fod ar gael – felly os oes angen edrych yn ôl ar ddeunyddiau hen gwrs, gallwch wneud hynny hefyd.