Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026

Inclusivity and Accessibility banner

Ar Dachwedd 10, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â sefydliadau ledled y byd i gymryd rhan yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026, a gynhelir gan Anthology.

Mae hon yn gystadleuaeth fyd-eang 24 awr sy’n dod â sefydliadau at ei gilydd i wella hygyrchedd cynnwys eu cyrsiau digidol gan ddefnyddio Blackboard Ally. 

Gallwch chi ein helpu. Ymunwch â ni yn B23 Llandinam rhwng 2yp a 4yp am sesiwn galw heibio lle cewch gyfle i adolygu eich cynnwys Blackboard a gwella eich sgôr hygyrchedd. Bydd y Tîm Addysg Ddigidol ar gael i ateb cwestiynau a’ch helpu i ddefnyddio Ally. Bydd te a bisgedi hefyd yn cael eu darparu (tanwydd ar gyfer yr holl drwsio cynnwys y byddwch yn ei wneud).

Dewch draw os gallwch chi. Gallai treulio 10 munud yn unig yn trwsio eich cynnwys olygu profiad dysgu gwahanol iawn i’ch myfyrwyr. Mae pob addasiad – mawr neu fach – yn gwneud gwahaniaeth.

Gyda’ch cymorth, gallwn sicrhau amgylchedd dysgu mwy cynhwysol i’n holl fyfyrwyr.

Nid oes rhaid i chi aros – dyma sut y gallwch chi ddechrau trwsio nawr:

  • Gwirio’ch cyrsiau am ddangosyddion coch ac oren 
  • Canolbwyntio ar y pethau y gallwch yn ymdrin â nhw’n gyflym fel ychwanegu disgrifiadau delweddau neu wella dogfennau Microsoft Word 
  • Dechrau’r gwaith ‘trwsio’ ar 10 Tachwedd, a dal ati trwy gydol y dydd, a thu hwnt! 
  • Anelwch at 100%, ond gwneud gwelliannau yw’r peth pwysicaf

Am ragor o wybodaeth am sut i drwsio ffeiliau gan ddefnyddio Anthology Ally, edrychwch ar Ganolfan Cymorth Ally.

Gobeithiwn eich gweld chi yno!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*