
Ar Ddydd Iau 25ain o Fawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal yr ail o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, a byddwn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff. Bydd y Gynhadledd Fer yn rhedeg o 09:30-16:50.
Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein rhaglen:
- Flourishing at Aberystwyth – Putting Positive Education into Practice (Frederica Roberts – Prif siaradwr)
- Online Communities and Student Well-being (Kate Lister – Prif siaradwr)
- Well-being in the Curriculum at Aberystwyth University (Samantha Glennie)
- Well-being in the Curriculum – a Foundation Year Pilot (Sinead O’Connor)
- Supporting Students in Building a Resilient Approach to their Learning (Antonia Ivaldi)
- What Can Lecturers Do to Get Students to Embrace Mistakes? (Marco Arkesteijn)
- Building Resilience (Alison Pierse)
- Meeting Students’ Needs (using simple tools) (Panna Karlinger)
- Resilience – a Valuable Student Skill (Sadie Thackaberry)
Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn ioga a myfyrdod ar gyfer holl fynychwyr y gynhadledd yn ystod y ddwy egwyl. Bydd y sesiynau hyn yn ddewisol.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni. Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.


Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi. 

