Gwobr Cwrs Nodedig – Symleiddio’r Broses Ymgeisio

Bob blwyddyn, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gwobr Cwrs Nodedig. Mae’r wobr hon yn cydnabod yr arferion gorau o ran defnyddio Blackboard. Mae’r postiad blog hwn yn sôn am y newidiadau yr ydym wedi’u gwneud i’r broses. Cewch wybod hefyd pryd fydd y sesiynau hyfforddi penodol hyn yn cael eu cynnal, pam ddylech ymgeisio a phryd y dylech wneud hynny, ynghyd â’r dyddiad cau.
Er mwyn ichi ddeall pa fath o fodiwl fyddai’n deilwng o Wobr Cwrs Nodedig, gallwch wylio cyflwyniadau enillwyr y llynedd am eu modiwlau buddugol yma (Lara Kipp, yn Saesneg yn unig, a Rhianedd Jewell, yn Gymraeg a Saesneg).
Yng ngoleuni’r heriau a ddaeth i’n rhan ni i gyd y flwyddyn academaidd hon, rydym wedi dod at ein gilydd i ystyried sut y gallem symleiddio’r broses, gan obeithio y bydd rhagor fyth o geisiadau’n dod i law i’w hystyried eleni. Mae hon yn dal i fod yn broses gadarn a manwl iawn, ond rydym wedi gwneud rhai newidiadau allweddol i annog rhychwant mor eang â phosib o bobl i roi cynnig arni.

Beth sydd wedi newid?
• Gallwch bellach gyflwyno’ch cais mewn dwy ffordd: naill ai ar ffurf naratif ysgrifenedig hyd at 500 gair neu recordiad Panopto hyd at 4 munud.
• Rydym wedi symleiddio’r ffurflen fel mai dim ond ticio’r maen prawf i gadarnhau eich bod wedi’i bodloni sydd raid. Does dim angen treulio oes yn ystyried faint o bwyntiau y dylech eu dyfarnu i’ch hun.
• Mae pwysoliad y meini prawf bellach wedi’i ymgorffori yn y ffurflen, sy’n golygu nad oes rhaid i ymgeiswyr gyfrifo’r sgôr mwyach.

Sut y galla i ymgeisio?
• Lawrlwythwch y ffurflen Gwobr Cwrs Nodedig yma
• Rhowch eich manylion ar y ffurflen ac ysgrifennwch naratif 500 gair neu ychwanegwch ddolen i fideo Panopto 4 munud ei hyd
• Cyflwynwch eich ffurflen erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau’r flwyddyn academaidd hon yw hanner dydd ar y 1af o Chwefror 2021.

Sut y galla i gael cymorth â’m cais?
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu’n cynnal sesiynau hyfforddi penodol er mwyn cefnogi pobl i gyflwyno ceisiadau am Wobr Cwrs Nodedig:
• 10-11:00 ar yr 2il o Ragfyr 2020
• 14-15:00 ar yr 21ain o Ionawr 2021

Gallwch gadw lle yn un o’r sesiynau hyfforddi hyn yma.

Pam ddylwn i ymgeisio?
Mae’r Wobr Cwrs Nodedig yn gyfle ichi
• fyfyrio ar eich arferion Dysgu ac Addysgu
• gwella eich modiwl er mwyn iddo gyrraedd safon nodedig
• derbyn sylwadau oddi wrth y panel am y modd y gellid datblygu’r modiwl yn y dyfodol
• rhannu arferion gorau ar draws y sefydliad

Yn ogystal â hynny, gall Gwobr Cwrs Nodedig
• fod yn rhan o’ch Cynllun Cyfraniad Effeithiol
• rhoi cyfle ichi fod yn rhan o Raglen Cyrsiau Nodedig Blackboard (dolen yma; Saesneg yn unig)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r wobr neu am y broses ymgeisio, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Edrychwn ymlaen at gael eich ceisiadau!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*