Cyfres Offerynnau Blackboard Rhyngweithiol – Dyddiaduron a Blogiau (Rhan 1)

Mae staff addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwneud defnydd rhagorol o swyddogaethau sylfaenol Blackboard, maent yn ei gadw’n gyson ac yn hylaw, gan gyflawni anghenion eu myfyrwyr. Mae rhai aelodau o staff yn mynd y tu hwnt i Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, gan ddefnyddio swyddogaethau rhyngweithiol ychwanegol mewn nifer o wahanol ffyrdd creadigol. O ystyried y pwyslais presennol ar ddysgu ar-lein a defnydd o weithgareddau ar-lein wedi’u recordio hoffem gyflwyno i chi rai o’r offerynnau uwch (ond sy’n dal yn hawdd eu defnyddio!) sydd yn Blackboard:

  • Dyddiaduron a Blogiau
  • Wikis
  • Profion

Rydym ni eisoes wedi ysgrifennu am y bwrdd trafod – y mwyaf hyblyg o offerynnau Blackboard o bosibl. Yn y blog hwn byddwn yn canolbwyntio ar flogiau a dyddiaduron a’r gwerth y gallai’r offerynnau hyn ei ychwanegu i’ch addysgu. 

Mae dyddiaduron a blogiau, a ysgrifennir fel arfer mewn arddull anffurfiol, yn offerynnau sy’n cynnig eu hunain ar gyfer adfyfyrio a mynegiant personol. Pennir y gwahaniaeth o ran eu defnydd gan y bwriad i’w rhannu gydag eraill ai peidio. Gellir sefydlu dyddiaduron yn Blackboard mewn un o ddwy ffordd:

  • Dyddiaduron preifat: ni all y rhain fod yn ddienw, a dim ond y darlithydd a’r myfyriwr a’u hysgrifennodd sy’n eu gweld. Gellir galluogi i fyfyrwyr eraill eu gweld ond nid i wneud sylwadau na golygu.
  • Dyddiaduron grŵp: mae’r rhain yn galluogi i fyfyrwyr ysgrifennu cofnodion unigol mewn un dyddiadur grŵp. Gall aelodau o’r grŵp weld a gwneud sylwadau ar yr holl gofnodion.

Gwyliwch diwtorial ar greu dyddiaduron

Ar y llaw arall, gall blogiau fod mewn tair ffurf wahanol:

  • Blogiau’r cwrs: mae’r rhain ar gael i’r holl fyfyrwyr ar y modiwl, gall myfyrwyr gyfrannu eu cofnodion unigol i’r blog cyffredin a gwneud sylwadau ar bostiau defnyddwyr eraill.
  • Blogiau unigol: mae’r rhain ar gael i’r holl fyfyrwyr eu gweld a gwneud sylwadau arnyn nhw, ond yn wahanol i’r blogiau cwrs mae gan bob myfyriwr flog unigol yn hytrach na chyfrannu i’r un cyffredin.
  • Blogiau grŵp: dim ond aelodau o’r grŵp sy’n gallu ychwanegu at y rhain ond gall pawb eu gweld a gwneud sylwadau arnyn nhw.

Gwyliwch diwtorial ar greu blogiau

Pam defnyddio blogiau a dyddiaduron?

Pan ofynnwyd pa werth y gall defnyddio blogiau a dyddiaduron ei ychwanegu at eu haddysgu, atebodd y rheini a ddaeth i sesiwn Cyfoethogi E-ddysgu yn ddiweddar:

What value can using blogs and journals bring to your teaching? Collaboration between students, a safe space for them to share, help students to understand how their understanding has changed over time, show real world examples.

Gall defnyddio blogiau a dyddiaduron helpu myfyrwyr i adfyfyrio nid yn unig ar beth maen nhw’n ei ddysgu ond hefyd sut maen nhw’n dysgu. Trwy arddangos eu profiadau a rhannu eu syniadau â’u cymheiriaid, gall myfyrwyr hwyluso eu cynnydd ei gilydd a chyfrannu at ymdeimlad o gymuned o fewn y rhith-amgylchedd dysgu. Fel y disgrifiodd Sedlack (1992) gall ysgrifennu dyddiadur hybu ymgysylltu gweithredol a dysgu hunan-gyfeiriedig trwy annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu cynnydd. Mae’r offerynnau dyddiadur a blogiau yn Blackboard yn caniatáu mynegeio misol neu wythnosol a all hefyd gefnogi adfyfyrio’n seiliedig ar broses.

Journal Settings - Index Entries can be either monthly or weekly

Pwysleisiodd Ritchie (2003) hefyd sut mae darparu adborth unigol a pharhaus i fyfyrwyr yn cyfoethogi’r berthynas rhwng yr athro a’r myfyrwyr. Yn yr un modd â dyddiaduron, mae blogiau wedi’u cydnabod fel offeryn defnyddiol i annog adfyfyrio personol, a hefyd cydweithio a grymuso myfyrwyr i ddatblygu a mynegi eu barn. Fel y disgrifiodd Mortensen and Walker (2002 dyfynnwyd yn Lamshed, Berry & Armstrong, 2002) mae blogiau’n cyfrannu nid yn unig at ffurfio barn, ond hefyd adfyfyrio ar ganfyddiad pobl eraill o’r farn honno. Mae natur sgyrsiol blogiau’n hybu perthynas well ac felly’n cyfrannu at ddysgu gweithredol (Ferdig &Trammel, 2004).

Nod y blog hwn yw cyflwyno gwerth defnyddio blogiau a dyddiaduron. Yn ddiweddarach yn y gyfres byddwn yn edrych ar gynllunio dyddiaduron a blogiau ac yn trafod astudiaeth achos o ymarfer da.

Cyfeirnodau

Davies E. (1995). Reflective practice: a focus for caring. Journal of Nursing Education. 34, 167–174.

Ferdig, R. E. & Trammell, K. D. (2004). Content delivery in the ‘Blogosphere’. Technological Horizons in Education Journal. Cyrchwyd o http://www.thejournal.com/magazine/vault/articleprintversion.cfm?aid=4677

Lamshed, R., Berry, M., & Armstrong, L. (2002). Blogs: Personal e-learning spaces. Cyrchwyd o http://www.binaryblue.com.au/docs/blogs.pdf

Oravec, J. (2002). Bookmarking the world: Weblog applications in education. Journal of Adolescent and Adult Literacy. 45(7), 616-621.

Richie, M. A. (2003). Faculty and student dialogue through journal writing. Journal for Specialists in Pediatric Nursing8, 5–12. 

Sedlak, C. A. (1992). Use of clinical logs by beginning nursing students and faculty to identify learning needs. Journal of Nursing Education. 31, 24–28. 

Walker, S. E. (2006). Journal Writing as a Teaching Technique to Promote Reflection. Journal of Athletic Training. 41(2), 216-221.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*