Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfrwng Cymraeg – Beth sydd ymlaen?

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg a bydd sesiynau cyfrwng Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar wefan hyfforddi staff. Dyma drosolwg o’r sesiynau cyfrwng Cymraeg yr ydym yn eu cynnig drwy weddill y semester:

Tachwedd 2020

16.11.20 (11:00-12:30): CDU: Datblygu eich arferion addysgu (D & A: Ar-lein)

17.11.20 (14:00-15:30): CDU: Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu syncronaidd (D & A: Ar-lein)

20.11.20 (14:00-15:00): Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Turnitin (D & A: Ar-lein)

25.11.20 (11:00-12:00): Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Panopto (D & A: Ar-lein)

Rhagfyr 2020

03.12.20 (10:00-11:30): Hanfodion E-ddysgu: Symud i Addysgu Ar-lein (D & A: Ar-lein)

09.12.20 (14:00-15:00): Hanfodion E-ddysgu: Defnyddio Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu (D&A: Ar-lein)

Am restr lawn o’r holl sesiynau (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ac i archebu lle ar unrhyw gwrs, ewch i’r wefan hyfforddi staff. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r sesiynau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*