Pam cymryd rhan yn Niwrnod ‘Fix Your Content’? 

Oherwydd bod hygyrchedd yn gyfrifoldeb ar bawb ohonon ni.

Ar Dachwedd 10, 2026, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â phrifysgolion ledled y byd ar gyfer Diwrnod ‘Fix Your Content’ 2026, a gynhelir gan Anthology. Darllenwch fwy er mwyn gweld rhai rhesymau pam y dylech chi gymryd rhan.

Mae cynnwys hygyrch yn rhoi cyfle i bob myfyriwr ddysgu

A yw eich cynnwys Blackboard chi yn hygyrch? A yw eich deunydd dysgu chi’n gynhwysol o safbwynt pob myfyriwr? Ni ddylai myfyrwyr gael eu rhwystro rhag dysgu oherwydd diffyg hygyrchedd, ac mae gwneud cynnwys Blackboard mor hygyrch â phosibl yn fanteisiol i’n holl fyfyrwyr.

Mae Ally yn gwneud hyn yn haws nag erioed – trwy gynorthwyo hyfforddwyr i gynllunio deunydd hygyrch a chynnig fformatau gwahanol i fyfyrwyr, i wneud yn sicr bod pob un yn gallu cael y gorau o’u hastudiaethau. Does dim angen datrys popeth ar unwaith – mae Ally yn ei gwneud yn hawdd i weld beth yw’r trafferthion ac i flaenoriaethu’r pethau pwysicaf i’w newid.

Mae pob elfen a newidir, bach neu fawr, yn gwneud gwahaniaeth.

Trwy ddefnyddio deunydd mewn fformat sy’n hawdd i fyfyrwyr ei ddefnyddio maent yn gallu canolbwyntio ar eu dysgu yn hytrach nag ymlafnio â fformatau anhygyrch. Mae hyn yn arbennig o bwysig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae dros 28% o’n myfyrwyr wedi datgan anabledd.

Sesiwn alw-heibio sy’n agored i bawb

Mae ein Tîm Addysg Ddigidol wrth law bob amser i gynorthwyo â materion hygyrchedd, ac ar 10 Tachwedd byddwn yn cynnal sesiwn alw-heibio benodol i’ch cynorthwyo i ddefnyddio Ally.

Dewch draw i B23 Llandinam rhwng 2pm a 4pm am baned o de ac i neilltuo ychydig amser i gyfoethogi eich cynnwys hygyrch. Gallech gael eich synnu faint sydd modd ei wella – gallai dim ond 15 munud o’ch dydd greu profiad dysgu gwell i’ch myfyrwyr.

Eleni, mae’n fwy o gystadleuaeth nag erioed!

Mae pawb yn hoffi ychydig o gystadlu (cyfeillgar), ac eleni byddwn yn cloriannu’r gwelliannau yn ôl adran, felly dewch i helpu eich adran ddod i’r safle uchaf. O wneud hynny, byddwch hefyd yn gwella’r profiad dysgu i’ch myfyrwyr. Pawb ar eu hennill!

Heblaw am y cystadlu cyfeillgar, y diben go iawn yw gweithio gyda’n gilydd i ddatrys cymaint o drafferthion hygyrchedd a ffeiliau cwrs ag y gallwn, trwy ddefnyddio Anthology Ally.

Dewch draw i gefnogi ein hymrwymiad cyson i greu amgylchfyd dysgu cynhwysol i bob un o’n myfyrwyr.

Er mwyn ein cynorthwyo i gadw cofnod o niferoedd, a fyddech chi cystal â chofrestru ar-lein.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*