NEWYDD: Nodwedd Cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd yn Blackboard

Heddiw, mae nodwedd newydd ar gael yn Blackboard sy’n eich galluogi i greu cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd.

Mae’r nodwedd newydd hon yn gweithio yn yr un modd â’r opsiynau ailddigwydd sydd ar gael yn Outlook. Fel y gwelir yn y ddelwedd isod, gallwch bellach drefnu cyfarfodydd MS Teams drwy Blackboard yn seiliedig ar ba mor aml yr ydych am iddynt ddigwydd; ar ba ddyddiau yr ydych am iddynt ailddigwydd; a phryd yr hoffech i’r ailadrodd ddod i ben.

Dylid annog myfyrwyr i ychwanegu’r ddolen hon at eu calendrau gan y bydd hyn yn ychwanegu’r gyfres gyfan at eu calendrau yn awtomatig.

Llun yn dangos pa ddewisiadau sydd yn y nodwedd newydd

Wrth drefnu eich cyfarfod sy’n ailadrodd, sicrhewch eich bod yn cynnwys gwybodaeth glir am ba sesiynau y dylai’r myfyrwyr ymuno â drwy’r ddolen yr ydych newydd ei greu.

Tabl yn dangos pa sesiynau sy'n gysylltiedig a'r ddolen Teams

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r nodwedd newydd hon, ewch i’n ‘Cwestiynau a Holir yn Aml’.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*