Strategaethau er mwyn Ysgogi Ymroddiad i Ddysgu Ar-lein – myfyrdodau o’r Fforwm Academi ddiwethaf yn Semester

Ar gyfer y Fforwm Academi ddiwethaf yn Semester Un gwnaethom ddewis un o’r pynciau mwyaf cyffredin a godir gan staff dysgu; sef sut mae ysgogi myfyrwyr, yn arbennig yng nghyd-destun dysgu ar-lein?

decorative image

Yn rhan gyntaf y semester cafwyd trafodaeth gyffredinol a ddechreuodd wrth fyfyrio ar bryd yr ydym ni’n teimlo wedi’n hysgogi fwyaf, ac amlygwyd ffactorau megis: 

  • Os oes pwysau allanol (dyddiad cau)
  • Os yw’n bleserus
  • Os yw’n ymwneud â phobl eraill
  • Os nad yw’r tasgau’n anodd, pwysig neu amlochrog
  • Os ydych chi’n cael adborth cadarnhaol

Gwnaeth y rhai a fynychodd hefyd rannu eu strategaethau ar gyfer cynnal eu hysgogiad  :

  • Newid rhwng tasgau
  • Torri prosiectau mawr yn dasgau llai
  • Gofyn i’ch hun pam mae angen i chi wneud y gwaith?
  • Cwblhau tasg fach, rwydd a defnyddio’r ysgogiad a’r ymdeimlad o lwyddiant a ddaw yn sgil hynny i weithio ar rywbeth arall
  • Cwyno llai am orfod gwneud y dasg a mynd ati i’w gwneud
  • Defnyddio rhestrau a gallu croesi pethau allan
  • Gosod targedau realistig
  • Gofalu amdanoch chi eich hun (ceisio ystyried y gwaith o fewn persbectif ehangach)

Yn ogystal â’r hyn sy’n cyfrannu at ysgogiad myfyrwyr yn seiliedig ar eu profiad dysgu:

  • Cael graddau da ac adborth cadarnhaol
  • Meddylfryd Twf – peidio â bod ofn methu (peidio â chymryd y dysgu mor bersonol)
  • Cofio pam y maent yn gwneud y gwaith
  • Gwneud pethau’n ddiddorol – osgoi diflastod
  • Bod yn angerddol/cyffrous am y pwnc (a sut mae cael un myfyriwr fel hyn yn helpu ysgogiad y grŵp i gyd)
  • Rhoi awgrymiadau iddynt, ond hefyd y rhyddid i astudio mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy
  • Teimlo’n rhan o’r gymuned ddysgu (perthyn)
  • Gweld pwysigrwydd gweithgaredd
  • Dilysiad ac anogaeth

Gwnaethom hefyd drafod rhai o’r rhwystrau sy’n llesteirio ysgogiad myfyrwyr :

  • Ofn – ofn nad ydynt yn ddigon da, methiant a chymharu eu gallu ag eraill
  • Ddim yn cael cyfarwyddiadau digon clir, ddim yn deall beth maent i fod i’w wneud
  • Problemau personol – anawsterau yn eu bywydau personol ac ati
  • Siom yn eu cyflawniadau o’i gymharu â’u disgwyliadau
  • Dylanwad cyfoedion
  • Cwyno
  • Blinder

Yn olaf gwnaeth staff rannu eu strategaethau ar gyfer ysgogi myfyrwyr a oedd yn cynnwys:

  • Defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu â chyfoedion a’r tiwtor
  • Trefnu seminarau digidol
  • Pwysleisio diben/pwysigrwydd y gweithgareddau
  • Cysylltu’r holl weithgareddau â’r canlyniadau dysgu/asesiad
  • Defnyddio offer megis blogiau neu fyrddau trafod i hwyluso cyfathrebu ac ymdeimlad o gymuned
  • Rhoi dewis i fyfyrwyr, ond o fewn strwythur sy’n rhoi sicrwydd iddynt
  • ‘Buddsoddi’ amser yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ffurfio perthynas â’i gilydd ac â chi fel tiwtor ar ddechrau’r modiwl/blwyddyn

Roedd ail ran y sesiwn yn canolbwyntio’n benodol ar ddamcaniaeth hunanddewis ysgogiad. Mewn tri grŵp, a oedd yn cyd-fynd â thair elfen y ddamcaniaeth, gwnaeth y rhai a fynychodd drafod sut y maent eisoes yn meithrin naill ai ymreolaeth, cymhwysedd, neu berthynas yn eu haddysgu a sut y gallant ei ddatblygu ymhellach. Rydym eisoes wedi rhannu neges flog ar hwyluso ysgogiad mewnol mewn myfyrwyr o safbwynt y ddamcaniaeth hunanddewis.

Hoffem ddiolch i’r holl staff am yr ymroddiad arbennig i sesiynau’r Fforwm Academi eleni! Cofiwch roi’r dyddiadau canlynol yn eich calendrau ar gyfer Semester Dau:

Gobeithio y cewch chi wyliau braf!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*