Pam a sut y dylid helpu myfyrwyr i fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu?

[:cy]Yn yr Academi Arddangos nesaf eleni, roeddem yn edrych ar pam a sut y dylid helpu myfyrwyr i fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei ddysgu. Cododd ein trafodaeth o’r ymgais i ddiffinio ystyr myfyrio.  Drwy ddefnyddio’r feddalwedd pleidleisio, casglwyd syniadau cychwynnol y rhai oedd yn bresennol, oedd yn cyffwrdd ar wahanol agweddau ar fyfyrio gan gynnwys dysgu, herio rhagdybiaethau, sylwi, gwerthuso a meddwl am weithred.

What is reflection? learning, self-actualisation, challenging assumptions, developing, thinking about an action, mindfulness, evaluating, noticing, thinking, making sense, pondering, process, evaluating

“Yn syml, mae myfyrio yn ymwneud â hyrwyddo ymagweddau dwys a lleihau ymagweddau arwynebol at ddysgu” (Hinett, 2002 fel y’i dyfynnir yn Philip, 2006,t. 37). Mae’r myfyrwyr sy’n mabwysiadu ymagwedd fwy arwynebol at ddysgu a myfyrwyr nad oes ganddynt lawer o ddiddordeb yn y pwnc yn fwy tebygol o edrych ar unrhyw asesiad fel modd o gyrraedd y nod yn unig. Fodd bynnag, mae’r myfyrwyr sy’n mabwysiadu ymagwedd ddofn, sy’n ymroddedig i ddeall y pwnc, a’r rhai sy’n rhoi’r amser i feddwl am yr adborth yn llawer mwy tebygol o berfformio’n well yn y dyfodol. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ymagwedd (arwynebol a dwfn) yw bod y dysgwr ‘dwfn’ yn myfyrio ar brofiad. Mae myfyrio hefyd yn ffordd o gael myfyrwyr i sylweddoli mai tynnu ar brofiadau bywyd yw hanfod dysgu, ac nad yw dysgu’n rhywbeth sy’n digwydd yn y ddarlithfa’n unig. Mae’n helpu myfyrwyr i feddwl am beth, pam a sut maen nhw’n dysgu a deall bod hyn yn effeithio ar eu llwyddiant (Philip, 2006).

Fel yr ailadroddir gan Race (2002 fel y’i dyfynnir yn Philip, 2006, t.37): “Mae myfyrio yn dwysáu’r dysgu. Mae’r weithred o fyfyrio yn un sy’n peri inni wneud synnwyr o’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, pam ein bod wedi ei ddysgu a sut y digwyddodd y cynnydd penodol hwnnw yn ein dysg. Hefyd, mae myfyrio yn golygu cysylltu un cynnydd o ran dysg â safbwynt ehangach y dysgu – gan agosáu at weld y darlun ehangach.  Mae myfyrio yr un mor ddefnyddiol pan fo’r dysgu wedi bod yn aflwyddiannus – mewn achosion o’r fath gall myfyrio daflu goleuni ar yr hyn a allai fod wedi mynd o’i le â’n dysgu, a sut y gallem osgoi’r maglau yr ydym bellach yn gyfarwydd â hwy o hyn ymlaen. Yn bennaf oll, fodd bynnag, cydnabyddir fwyfwy fod myfyrio yn sgil drosglwyddadwy bwysig, a bod pawb o’n cwmpas yn rhoi pwys mawr ar y sgil honno, ym myd cyflogaeth ac mewn bywyd bob dydd.”

Mae myfyrio ar ein dysg ein hunain yn gysylltiedig â’r syniad o Feddylfryd Twf, syniad a ddatblygwyd gan Carol Dweck. Yn groes i’r syniad bod sgiliau a deallusrwydd yn rhinweddau sefydlog, cynhenid (meddylfryd sefydlog), mae unigolyn sydd â meddylfryd twf yn cydnabod, er ein bod yn wahanol o ran deallusrwydd a gallu, bod modd i bawb wella (Dweck, 2012).

Symudodd y drafodaeth ymlaen i pam ein bod eisiau i fyfyrwyr fyfyrio? Nodwyd amrywiol resymau, gan gynnwys:

  1. Er mwyn dysgu’n well ac yn fwy effeithiol.
  2. Er mwyn cysylltu’r hyn a ddysgant yn y brifysgol â’u gyrfaoedd a’u bywydau ar ôl graddio.
  3. Er mwyn adnabod eu cryfderau a’u gwendidau.
  4. Er mwyn iddynt deimlo cyfrifoldeb dros ddysgu.
  5. Er mwyn gwella eu sgiliau cyflogadwyedd a’u sgiliau menter.

 minnau’n gyn-fyfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gofynnais hefyd farn fy nhiwtoriaid. Bu Dr Alison Mackiewicz yn fy nghyflwyno i’r modiwl Psychology in Practice, oedd yn ymwneud â datblygu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar ddyddlyfr myfyriol a gadwyd yn ystod lleoliad gwaith Seicoleg. Meddai hi:

“Rwyf ar hyn o bryd yn cydlynu cynllun gradd newydd yr adran, Seicoleg gyda Chwnsela, ac mae pob un o’r modiwlau yn cynnwys elfen/asesiad sy’n seiliedig ar ddyddlyfr myfyriol.  Mae ysgrifennu myfyriol yn elfen hanfodol o hyfforddiant a gwaith cwnsela a seicotherapi.  Drwy ysgrifennu/gadw dyddlyfr myfyriol, daw rhywun yn fwy ymwybodol o’r ‘hunan’, o feddyliau, ofnau a dymuniadau mewnol; mae’n broses sy’n defnyddio metawybyddiaeth – rhoi’r amser i feddwl ar lefel ddyfnach ynglŷn â’ch meddwl eich hun… ac o wneud hynny, cewch safbwynt gwahanol ar eich meddyliau yn aml.  Mewn cwnsela, mae ysgrifennu myfyriol yn helpu’r hyfforddai/ymarferydd i ystyried yn fwy gofalus y profiadau dwys sydd wedi effeithio ar eu bywydau, neu i ddod yn ymwybodol mewn ffordd feirniadol o’r ffordd y mae eu profiadau wedi eu siapio mewn rhyw ffordd.  Ac, os ydynt yn gallu deall eu hunain yn y fath ffordd, gallant ddefnyddio’r sgiliau hyn i ddeall eu cleientiaid.”

Ond sut y gallwn ni helpu’r myfyrwyr i fyfyrio? Er mwyn ateb y cwestiwn yma, gofynnwyd i’r staff fyfyrio ar eu profiadau eu hunain: pa bryd maen nhw’n myfyrio, beth sy’n sbarduno’r myfyrio hwn a pha amgylchedd sy’n ei gwneud yn haws iddynt fyfyrio? Heb os, dangosodd y drafodaeth hon y gwahaniaethau yn y ffyrdd y mae unigolion yn myfyrio – roedd rhai yn trafod myfyrio drwy gadw dyddlyfr, meddwl wrth gerdded, cynnal sgwrs gyda hwy eu hunain. Roedd eraill yn ei gweld yn ddefnyddiol myfyrio drwy sgwrsio gyda rhywun yr oeddent yn ymddiried ynddo a gwrando arnynt. Mae aelod o staff hefyd wedi disgrifio gwerth ‘myfyrio ar y cyd’ sy’n gyffredin mewn proffesiynau gofal iechyd fel nyrsio. Rhannwyd amrywiol strategaethau a ddefnyddir er mwyn annog a galluogi myfyrwyr i fyfyrio:

  • Cofnodion ffurfiannol wythnosol ar ddyddlyfrau/blogiau yn Blackboard a gorffen gydag adroddiad crynodol terfynol ar y modiwl (gweler ein blogbost ar ddefnyddio dyddlyfrau a blogiau).
  • Trafodaethau myfyriol yn ystod y sesiynau, gofyn cwestiynau’n fedrus.
  • Gofyn i fyfyrwyr farcio asesiad a gyflwynwyd ganddynt ar ddechrau’r flwyddyn (asesiad modiwl blwyddyn gyntaf) a myfyrio ar eu cynnydd.
  • Sesiynau wythnosol i fyfyrio ar gynnydd mewn grwpiau, i feithrin myfyrio ar y cyd a chymuned gefnogol o fyfyrwyr.
  • Setiau dysgu gweithredol – ystyried sefyllfa bosib mewn grŵp.

Ychwanegodd Dr Saffron Passam o’r adran Seicoleg ei phrofiadau ei hun o ymgorffori’r gallu i fyfyrio mewn dysgu:

“Nod sylfaenol PS11710 yw ymgorffori cyflogadwyedd yn gynnar yn y cwrs gradd a chyflwyno’r myfyrwyr i ymddygiad cyfundrefnol. Damcaniaeth seicolegol yw sail ein hymagwedd at fyfyrio, sy’n golygu bod yn rhaid cyflwyno’r myfyriwr i sail wybyddol myfyrio yn gyntaf (h.y. ei gysylltiad â dysgu, hunanreoleiddio, hunaneffeithiolrwydd a’i natur ddatblygiadol hefyd). Rhoddir amryfal gyfleoedd i’r myfyrwyr wedi hynny, gan gynnwys cyfrannu’n wythnosol at aseiniad, er mwyn ymarfer myfyrio ar y gweithle (boed hynny drwy eu profiadau, eu safbwyntiau neu eu harsylwadau). Wrth i ni symud drwy’r modiwl, cyflwynir y myfyrwyr i wahanol fodelau myfyrio y gellir eu defnyddio i gyflawni gwahanol amcanion yn eu cyd-destun.” 

Er y ceir nifer o fodelau myfyrio defnyddiol a allai fod yn fannau cychwyn da (gweler Pecyn Cymorth Myfyrio Prifysgol Caeredin), y neges gyffredinol a gododd o’r drafodaeth oedd bod angen i fyfyrio ddod yn rhan sylfaenol o ddysgu er mwyn bod yn wirioneddol fuddiol. Mae angen inni ymgorffori myfyrio ym mhob agwedd ar ddysgu ac addysgu ac nid ei wneud drwy asesiadau’n unig. Bydd ymgorffori myfyrio yn rhan o ddysgu yn golygu:

  • Newid mawr i ganfyddiad (hyrwyddo’r meddylfryd twf)
  • Creu lle diogel i’r myfyrwyr deimlo’n ddigon cyfforddus ynddo i fyfyrio
  • Rhoi pwyslais ar werth myfyrio
  • Hyblygrwydd – fel y crybwyllwyd eisoes, mae gwahanol ffyrdd o fyfyrio, ac mae’n broses y gellir ei phersonoli’n llwyr. Felly, mae’n bosib yr hoffai staff ystyried cynnig gwahanol ffyrdd i fyfyrwyr gyflwyno eu myfyrdod, yn hytrach na dim ond gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu eu myfyrdodau. A allech adael i fyfyrwyr rannu eu myfyrdodau drwy fideo neu sain hefyd?

Mae’n syniad da annog myfyrio wrth gael sgyrsiau gyda myfyrwyr yn fwy cyffredinol. Mae bod yn diwtor personol yn rhoi cyfle amhrisiadwy i staff gael trafodaethau mwy cyffredinol gyda myfyrwyr a chael cyfle i’w hannog i fyfyrio ar eu profiad yn y Brifysgol yn fwy eang.

Diolch yn fawr iawn i’r rhai a gyfrannodd at y drafodaeth hon, oedd yn ysgogi’r meddwl, a diolch yn arbennig i Dr Alison Mackiewicz a Dr Saffron Passam.

Deunydd Cyfeiriol

Dweck, C. S. (2012). Mindset. Llundain: Constable & Robinson. 

Prifysgol Caeredin. (2018). Reflector’s Toolkit. Wedi’i adalw o https://www.ed.ac.uk/reflection/reflectors-toolkit

Philip, L. (2006) Encouraging reflective practice amongst students: a direct assessment approach. Planet, 17(1), t. 37-39. doi: 10.11120/plan.2006.00170037[:]

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*