
Mae ein rhaglen hyfforddiant Addysg Ddigidol bellach yn barod i staff archebu eu lle gan ddefnyddio’r dudalen archebu i staff
Mae ein hyfforddiant wedi’i rannu ar draws 3 lefel:
Hanfodion E-Ddysgu:
Mae ein sesiynau Hanfodion E-ddysgu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i dechnolegau dysgu digidol craidd y Brifysgol a’r polisïau sy’n cefnogi eu defnydd. Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cydweithwyr sydd heb ddefnyddio offeryn o’r blaen, yn ymgymryd â rôl addysgu newydd, neu’n edrych i adnewyddu eu gwybodaeth.
Byddwch yn meithrin hyder wrth ddefnyddio technolegau fel Blackboard, Turnitin, Panopto, Microsoft Copilot, a Vevox, yn ogystal â dysgu am brosesau allweddol sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac asesu.
Mae’r sesiynau canlynol ar gael:
- Become a Document Pro
- Introduction to Blackboard Ally
- Cyflwyniad i Blackboard Ultra
- Introduction to Component Marks Transfer
- Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
- Cyflwyniad i’r Offer Recordio Darlithoedd trwy Panopto ac Offer yr Ystafelloedd Dysgu (dwyieithog)
- Cyflwyniad i Turnitin (dwyieithog)
- Introduction to Vevox Polling Software
E-ddysgu Uwch:
Mae ein sesiynau E-ddysgu uwch yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gweithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb gan ddefnyddio offer digidol yng nghyd-destun eich addysgu chi eich hun.
Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn eich helpu i edrych ar ddulliau arloesol o ddylunio’r dysgu, asesu, ystyried hygyrchedd a meithrin cyswllt â myfyrwyr, â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dysgu digidol y Brifysgol yn fwy effeithiol.
Mae’r sesiynau canlynol ar gael:
- Becoming an Alternative Text Pro
- Design Interactive Online Learning Activities Using Blackboard Discussions and Journals
- Designing Blackboard Tests
- Designing Learning and Teaching Activities Using Vevox
- Introduction to the Blackboard AI Design Assistant
- Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools
- Peer Assessment with Turnitin
- Preparing for Your Blackboard Exam
- Using the Advanced Features of Panopto
Rhagoriaeth E-Ddysgu:
Mae ein rhaglen Rhagoriaeth E-ddysgu wedi’i chynllunio ar gyfer cydweithwyr sydd am greu profiadau dysgu digidol rhagorol a sicrhau bod eu cyrsiau yn cyd-fynd â’r arferion gorau cydnabyddedig.
Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol Blackboard, mae’r sesiynau hyn yn edrych ar elfennau allweddol dylunio cwrs o ansawdd uchel ac addysgeg ddigidol effeithiol. Er bod y sesiynau wedi’u cynllunio yn gyfres pedair rhan sy’n cyflenwi ei gilydd, mae croeso i chi ddod i sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau a’ch anghenion.
Mae’r sesiynau canlynol ar gael:
- Exemplary Assessment Design
- Exemplary Course Design
- Exemplary Interaction and Collaboration
- Exemplary Learner Support
- Submitting an Exemplary Course Award
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Os nad ydych yn gallu dod i sesiwn ond byddech yn hoffi gallu defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fformat y sesiwn neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol yn eddysgu@aber.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir.
