- Llwythiadau all-lein Panopto ac arferion da cyffredinol eraill Panopto
- Ychwanegu / tynnu Staff ar ac oddi ar fodiwlau
- Gwybodaeth am ddigwyddiad arfer da asesiad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol
Llwythiadau all-lein Panopto ac arferion da cyffredinol eraill Panopto:
Roedd ein prif ymholiadau ym mis Hydref yn ymwneud â Panopto, yn fwy penodol mater sy’n effeithio ar rai peiriannau addysgu ar draws y Brifysgol. Roedd hynny’n golygu bod rhai recordiadau’n cael eu cadw all-lein ar y peiriant addysgu yn hytrach na lleoliad o’u dewis e.e. ffolderi Panopto sy’n benodol i fodiwlau.
Mae’n ymddangos ein bod wedi derbyn llai o geisiadau i helpu i adfer recordiadau Panopto coll yn ddiweddar. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn eich diweddaru. Am y tro, gweler ein canllawiau ar leoli ffolderi Panopto i recordio iddynt a Chwestiynau Cyffredin defnyddiol tebyg cysylltiedig â Panopto.
Panopto, dod o hyd i ffolderi i recordio ynddynt:
Pan fydd y recordydd Panopto yn agor mewn darlithfa, nid yw’r ffolder yn ymddangos ar y gwymplen, gan orfodi cydweithwyr i recordio all-lein.
Os ydych chi’n cael y broblem hon, mae yna rai pethau y gallech roi cynnig arnynt:
- Ychwanegu dolen i holl recordiadau Panopto yn eich Cwrs Blackboard. Mae caniatâd Panopto yn cael eu cysoni ar draws pob modiwl os yw hyfforddwyr yn ymgysylltu â’r ddolen hon. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i weld sut mae gwneud hynny.
- Cyrchu Panopto o Blackboard.
Ewch i’ch modiwl yn Blackboard a chlicio ar Llyfrau ac Offer o’r ddewislen ar y dde.

Dewiswch Holl Fideos Panopto

Dewiswch Creu ac Panopto ar gyfer Windows

Bydd hyn yn agor y recordydd Panopto a dylech allu dewis y ffolder o’r gwymplen.
Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, recordiwch all-lein, a chysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (e-ddysgu@aber.ac.uk) gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad
- Amser a dyddiad y ddarlith
- Cyfeirnod y modiwl
Byddwn yn adalw’r recordiad a’i uwchlwytho cyn gynted â phosibl.
Sut mae symud recordiad Panopto o un ffolder modiwl Panopto i un arall?:
Mewngofnodwch i Panopto.aber.ac.uk
Defnyddiwch Browse yn y ddewislen ar y chwith i ddod o hyd i’r ffolder yr hoffech symud recordiad ohoni.
Fel arall, defnyddiwch y bar chwilio ar frig y dudalen.

Dewiswch y fideo(s) yr hoffech ei symud.

Pwyswch y botwm Move.

Dewch o hyd i’r ffolder yr ydych am symud y fideo iddi yn y gwymplen sy’n ymddangos, dewiswch y ffolder ac yna dewis Move.

Pwyswch y botwm Move .
Sut ydw i’n Adfer Cynnwys Panopto sydd wedii Archifo?:
Cliciwch y ddolen isod i weld y canllawiau:
How to Restore Archived Content
Sut mae dileu recordiad Panopto?:
- Mewngofnodwch i: Panopto.aber.ac.uk
- Dewch o hyd i’r recordiad yr hoffech ei ddileu
- Dewiswch y recordiad yr hoffech ei ddileu

- Cliciwch ar y botwm Dileu yn y ddewislen action

Defnyddio’r system rheoli modiwlau i ychwanegu a thynnu staff:
Gellir defnyddio’r system rheoli modiwlau i ychwanegu staff i fodiwlau Blackboard a’u tynnu oddi arnynt, mae croeso i chi anfon e-bost atom, eddysgu@aber.ac.uk i gael cymorth.
System Module Management:
- Gellir defnyddio’r System Rheoli Modiwlau i gofrestru staff a gweinyddwyr adrannol
- Gellir cael mynediad ato drwy myadmin

- Mae’r adran staff i’w gweld ar ochr chwith y dudalen

Nodyn: Bydd yr adran staff yn dangos i chi pa staff sydd â mynediad i beth, ac yn dangos yr hyn mae’r staff wedi’i ddiweddaru
I ychwanegu aelod staff:
- Ewch i a chliciwch ar Add Staff ar yr ochr dde

- Bydd hyn yn agor ffenestr Staff Maintenance:

*Noder, i ychwanegu’r person yn y swydd rhaid i chi glicio hwn >
Bydd hyn yn dangos rhestr o holl aelodau staff y Brifysgol:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi cyfeiriad e-bost Aber a theitl swydd y person yn y swydd os oes ganddynt fwy nag un

- Cliciwch ar y person yr hoffech ei bennu i fodiwl.
- Yna dewisiwch y rôl yr hoffech chi ei phennu i’r aelod staff

Dyma sut mae rolau’n ymddangos yn Blackboard ac yn y System Rheoli Modiwlau:
| Module Management | Blackboard |
| Lecturer | Instructor |
| Tutor | Instructor |
| Assistant | Teaching Assistant |
| Grader | Grader |
| Builder | Course Builder |
| Departmental Administrator | Facilitator |
| Subject Librarian | Course Builder |
| Course Viewer | Viewer |
| External Examiner | Facilitator |
Gweler canllawiau swyddogol gan ganolfan gymorth Blackboard ar ganiatâd ar gyfer pob rôl.
Y rôl sydd â’r lefel uchaf o ganiatâd fydd yn cael blaenoriaeth, er enghraifft hyfforddwr dros farciwr
I ychwanegu person at un modiwl:
- Ewch i Record Type select > Single Module

Yna ewch i Module code a chliciwch hwn >
- Bydd hyn yn agor rhestr o holl fodiwlau’r Brifysgol, chwiliwch am y cod dan sylw:

Dewiswch y cod campws cywir:

Ar ôl gwneud hyn, gwnewch yn siŵr bod cod y dosbarth yn cyfateb i god y cwrs ar Blackboard:
Sylwch fod gan rai modiwlau fwy nag un cod dosbarth e.e. AB1 ac AB2, rhaid iddynt gyfateb yn union.

- Yna cewch ddewis y flwyddyn yr hoffech chi i’r person hwnnw ei gweld e.e. 2023/2024 i weld cynnwys o’r gorffennol i’r presennol neu’r dyfodol

Nodyn: os byddant yn cael eu gadael yn wag, bydd y person yn gweld pob achos o’r modiwl
- Pan fyddwch wedi gorffen, cliciwch ar Create a bydd yr aelod o staff yn cael ei ychwanegu i’r modiwl hwnnw

Tynnu staff oddi ar gyrsiau
Gellir tynnu aelod o staff oddi ar fodiwl trwy glicio ar enw’r person yn yr adran rheoli modiwlau a chlicio ar Delete yn y panel Staff Maintenance. Bydd hyn yn tynnu enw’r aelod o staff oddi ar y modiwl penodol hwnnw

Cofiwch:
- Bydd y staff a dynnir trwy’r system Rheoli Modiwlau yn cael eu tynnu’n awtomatig oddi ar fodiwlau ar nos Lun.
- Bydd y modiwlau’n dal i fod yn weladwy i staff cyn nos Lun. Mae hyn yn golygu os bydd aelod o staff yn cael ei dynnu ar ddydd Mawrth bydd ei fodiwlau’n dal i fod yn weladwy nes i’r system ddiweddaru ar y dydd Llun canlynol
Gwybodaeth am ddigwyddiad arfer da asesiad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol:
Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer y Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol a gynhelir ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 13:15 a 17:00 yn Adeilad y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais – a chynhelir y cyflwyniadau yn y Tŷ Trafod, yn ogystal ag ystafelloedd 0.03 ac 0.06 yn y Ganolfan Ddelweddu.
Bydd rhaglen gyffrous o gyflwynwyr o bob rhan o’r brifysgol yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Yn y cylch cyntaf o gyflwyniadau, byddwn yn clywed gan:
- Daniel Bryant o’r Tîm Addysg Ddigidol o fewn y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol.
- Bernie Tiddeman a Christine Zarges o’r Adran Gyfrifiadureg.
- Rhys Dafydd Jones, Emma Butler-Way, Tom Holt o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Bydd academyddion o bob rhan o’r brifysgol wedyn yn cyflwyno mwy o feysydd o arfer da sy’n ymwneud â DA Cynhyrchiol ac asesiadau. Y siaradwyr eraill yw:
- Miguel Hernandez o’r Adran Hanes a Hanes Cymru.
- Louise Chennel o’r Ysgol Gelf.
- Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg
- Cennydd Jones a Hazel Davey o Adran y Gwyddorau Bywyd.
- Daniel Peck o’r Adran Fathemateg
- Jamie Harris o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
- Steve Atherton o’r Ysgol Addysg.
- Alex Mangold o’r Adran Ieithoedd Modern.
Bydd y rhaglen lawn a’r crynodebau yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r brifysgol cyn bo hir. Yn y cyfamser, gallwch archebu eich lle trwy glicio ar y ddolen hon.
