Datganiad Turnitin

Yn dilyn ein blogbost blaenorol, mae Turnitin bellach wedi rhyddhau datganiad i fynd i’r afael â’r pryderon sydd gan staff a myfyrwyr dros y newidiadau arfaethedig i’r cytundeb trwydded defnyddiwr:

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan brifysgolion a cholegau’r DU, sydd wedi’u sianelu trwy UCISA, mae Turnitin wedi cyhoeddi Cytundeb Trwydded Defnyddiwr (EULA) newydd tan fis Medi 2027.

Mae Turnitin hefyd wedi ymrwymo i ailddrafftio’r Cytundeb a bydd yn gweithio mewn partneriaeth ag UCISA sy’n cynrychioli sefydliadau addysgol ledled y DU i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon ac egluro cwestiynau allweddol.

Mae Turnitin wedi cadarnhau nad oes unrhyw ddata myfyrwyr na staff wedi’i ddefnyddio i ddatblygu unrhyw fodelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (DA) na modelau iaith mawr, ac nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i ddefnyddio traethodau myfyrwyr yn y modd hwn.

Mae Turnitin yn cydnabod y pryderon cynyddol ynghylch preifatrwydd data a DA. Felly, maent wedi ymrwymo’n llwyr i’r gwaith ar y cyd y maent yn ymwneud ag ef trwy grŵp cynrychiolaeth UCISA a’u haelodau sefydliadol. Mae’r bartneriaeth waith hon yn dangos ymrwymiad Turnitin i ddiogelu data myfyrwyr a staff.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol ar eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*