Siaradwr Allanol: Mynd i’r Afael ag Adborth, Dr Robert Nash

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf.

Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr ynglŷn â strategaethau i fynd i’r afael ag adborth.

Mae tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno.

Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.

Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.

Disgrifiad o’r sesiwn

Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?

Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad.  Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn?  Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain.  Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.

Bywgraffiad y siaradwr

Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio.  Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).

Nodweddion Newydd yn Turnitin: Templed Aseiniad

Mae Turnitin, ein meddalwedd e-gyflwyno, wedi cyflwyno rhywfaint o nodweddion newydd o ran templedi aseiniadau.

Erbyn hyn, mae’n bosibl eithrio templedi rhag ymddangos yn y Sgôr Tebygrwydd.

I gymhwyso’r eithriad, ewch i Optional Settings ym man cyflwyno Turnitin a lanlwythwch eich templed aseiniad:

Mae gofynion ar gyfer eich templed:

  • Rhaid i ffeiliau sydd wedi’u lanlwytho fod yn llai na 100 MB
  • Mathau o ffeiliau a dderbynnir i’w lanlwytho: Microsoft Word, Excel, PowerPoint, WordPerfect, PostScript, PDF, HTML, RTF, OpenOffice (ODT), Hangul (HWP), a thestun plaen
  • Rhaid i dempledi gael o leiaf 20 gair o destun

Yn ogystal â lanlwytho, gallwch hefyd greu templed o’r rhyngwyneb hwn hefyd.

Gellir defnyddio’r nodwedd hon yn y man cyflwyno os nad ydych wedi gwneud unrhyw gyflwyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Turnitin ar gael ar ein tudalennau gwe E-gyflwyno  neu mae croeso i chi anfon e-bost atom (eddysgu@aber.ac.uk).

Trosglwyddo Marciau Cydrannol

Wrth i fis Rhagfyr nesáu, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol. Mae’r broses hon yn trosglwyddo marciau o golofnau Canolfan Raddau Blackboard i dudalen Marciau Asesu fesul Modiwl AStRA (STF080). 

Mae’r offer ar gael ym mhob modiwl Blackboard a hefyd yn yr offer Marciau Cydrannol yn MyAdmin. Gall Staff Gweinyddol Adrannol weld a throsglwyddo modiwlau ar gyfer pob modiwl yn eu hadran tra bod Cydgysylltwyr Modiwlau yn gallu gweld a throsglwyddo marciau ar gyfer eu modiwlau hwy.

I gefnogi’r broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol, cynhelir:

  • Sesiynau Hyfforddi ar:
    • Ddydd Llun 13 Rhagfyr, 11yb-12yp
    • Dydd Mercher, 5 Ionawr, 1yp-2yp

Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.