Digwyddiad Rhannu Arfer Da

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Digwyddiad Rhannu Arfer Da – Rhagoriaeth Academaidd am ddau ddiwrnod ar yr 2il (wyneb yn wyneb) a’r 3ydd (ar-lein) Gorffennaf 2024. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl oherwydd arian y Prosiect Grantiau Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Nod y digwyddiad deuddydd yw cyflwyno papurau o dan y thema Rhagoriaeth Addysgu – er enghraifft:

  • Dysgu ac Addysgu
  • Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Goruchwylio
  • Tiwtora Personol

Bydd y papurau academaidd yn gyfle i staff ar draws Cymru gyflwyno eu hymchwil, o dan y thema ymarfer academaidd – trwy bapurau, posteri, paneli ac ati. Croesewir cyflwyniadau yn y digwyddiad gan unrhyw un sy’n addysgu o staff i fyfyrwyr PhD.

Mae’r Cais am Gynigion, yn y ddolen ganlynol Galwad am Bapurau – Digwyddiad Rhannu Arfer Da (jisc.ac.uk)  yn gofyn am gyflwyniadau heb fod yn fwy na 500 gair, trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn croesawu cyfraniadau i’r digwyddiad ar ffurf:

  • 20 munud o gyflwyniad
  • 45 munud o gyflwyniad
  • Cyflwyniad unigol neu grŵp
  • Posteri gan unigolion neu grwpiau
  • Paneli rhannu arfer da

Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion hyn yw canol dydd, dydd Mercher 27 Mawrth 2024.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu hwn yn ehangach â chydweithwyr a allai fod â diddordeb i fynd i’r digwyddiad hwn.

Os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Annette Edwards (aee@aber.ac.uk) 01970 622386

Sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024

12.30 – 1.30pm ; bydd diodydd poeth a chacennau cri ar gael drwy gydol y digwyddiad.

Lleoliad: Canolfan Ddeialog Ymchwil, Canolfan Ddelweddu, Campws Penglais.

Tŷ Trafod Ymchwil – The Dialogue Centre (aber.ac.uk)

Hoffai Cymdeithas Ddysgedig Cymru eich gwahodd chi a gwestai i ymuno â ni mewn sesiwn ‘cwrdd a chyfarch’ galw heibio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

Bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn yn cael ei weini, ac mae croeso i chi ymuno â ni cyhyd ag y dymunwch rhwng 12.30 a 1.30pm.

Byddwch yn gallu cyfarfod a siarad gyda staff y Gymdeithas Ddysgedig, gan gynnwys Olivia Harrison (Prif Swyddog Gweithredol) a Helen Willson (Rheolwr Ymgysylltu Strategol), a gyda’n Cynrychiolwyr Prifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth – Yr Athro Emeritws Eleri Pryse a’r Athro Iwan Morus.  Bydd Yr yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn ymuno â ni hefyd.

Bydd yn gyfle i Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig ddod at ei gilydd ac i bawb sy’n mynychu gwrdd ag eraill sydd â diddordeb mewn ymchwil a’i effaith yng Nghymru.  Bydd yn gyfle i rwydweithio hefyd, ac i ddysgu mwy am Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynnwys ei gwaith gydag ymchwilwyr gyrfa gynnar.

I bwy mae’r digwyddiad hwn?

  • Cymrodyr presennol Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil yng Nghymru neu am Gymru, a’i heffaith ar bolisi
  • Pobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a fyddai’n cael budd o ymuno â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol i ymgysylltu a dysgu oddi wrtho

Gallwch ddarganfod mwy am Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’n gwaith yma.

Sesiwn galw heibio yw hon, a does dim rhaid i chi gofrestru neu dderbyn y gwahoddiad hwn yn ffurfiol.  Fodd bynnag, buasem yn gwerthfawrogi cael syniad o niferoedd, felly os ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n dod draw neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ni ar lsw@wales.ac.uk

Gweithdai DPP Trace sydd i ddod

Bydd Sara Childs yn cyflwyno dau weithdy dros yr wythnosau nesaf yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil parhaus ar gyfathrebu sy’n ystyriol o drawma. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i fod yn un o’r unig ddwy brifysgol yng Nghymru sy’n ystyriol o drawma ynghyd â phrifysgol Wrecsam. Ar hyn o bryd rydym ar ganol cam hunanasesu prosiect dwy flynedd, a bydd y cam nesaf yn nodi prosiectau unigol ar gyfer gwella ein dull sy’n ystyriol o drawma. Ochr yn ochr â hynny, cynigir sesiynau i’r gymuned sy’n codi ymwybyddiaeth o ddulliau sy’n ystyriol o drawma.

Bydd y gweithdai sydd ar y gweill yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n ymwneud ag addysgu, neu rolau sy’n cynnwys cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr, ddatblygu eu hymarfer i ymgorffori’r ymchwil arloesol hwn.

Towards a trauma-informed approach – theory and reflective practice Part 1

Dyddiad: 5/12/23 15.00-16.00

Lleoliad:  Hugh Owen E3

Towards a trauma-informed approach – theory and reflective practice Part 2

Dyddiad: 12/12/23 14.00-16.00

Lleoliad:  Hugh Owen E3

Negeseuon Blackboard

Gall staff sy’n addysgu ar gyrsiau Blackboard ddefnyddio’r adnodd Negeseuon i anfon negeseuon at eu myfyrwyr, ac mae’r rhain yn aml yn cael eu hanfon trwy e-bost.

Oherwydd y ffordd y mae’r adnodd Negeseuon yn gweithio, anfonir pob neges o’r cyfeiriad e-bost cymorth e-ddysgu (bb-team@aber.ac.uk ), yn hytrach na chyfeiriadau e-bost personol aelodau’r staff. Mae ymateb i neges yn ei hanfon at ein staff cymorth e-ddysgu.

Myfyrwyr – peidiwch â chlicio ar y botwm Ateb i ymateb i Neges.  Yn lle hynny, defnyddiwch yr opsiwn Ymlaen gan ychwanegu’r cyfeiriad e-bost perthnasol ar gyfer yr aelod staff. Os nad ydych yn siŵr beth yw eu cyfeiriad e-bost, gallwch ddod o hyd iddo ar Gyfeiriadur y Brifysgol.

Staff – er mwyn helpu myfyrwyr i gysylltu â chi, rydym yn argymell cynnwys eich cyfeiriad e-bost mewn unrhyw Negeseuon yr ydych yn eu hanfon.

Dyma enghraifft o Neges Blackboard a anfonwyd drwy e-bost

Testun amgen: sgrinlun o Neges Blackboard a anfonwyd drwy e-bost

Ac mae’r ddelwedd isod yn dangos beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n clicio ar y botwm Ateb yn eich e-bost – mae’r blwch At: yn anfon y neges i bb-team@aber.ac.uk

Testun amgen: Sgrinlun o'r neges e-bost a grëwyd wrth Ateb Neges Blackboard

Rydym yn gweithio gyda Blackboard / Anthology a chydweithwyr i ddatrys y mater hwn, ond yn y cyfamser gwiriwch cyn ymateb i neges. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n anfon gwybodaeth bersonol.

Diweddariad Pwysig i’r Staff am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Anfonwyd y neges ebost isod at yr holl staff gan yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, ar 25 Medi.

“Annwyl Gyd-weithiwr

Fel y trafodwyd yn y Bwrdd Academaidd ar 13 Medi 2023, mae’r brifysgol wedi penderfynu diffodd yr adnodd Canfod Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn Turnitin o 30 Medi 2023. Roedd y penderfyniad yn seiliedig ar brofiad o’r adnodd ledled y sector addysg uwch, ac yn enwedig felly ar ystadegau sy’n ymddangos fel pe baent yn dangos nifer uchel o ganlyniadau cadarnhaol ffug a’r pryder y mae hyn yn ei achosi i fyfyrwyr.

Mae DA Cynhyrchiol eisoes wedi dod yn hollbresennol. Mae’n cael ei gynnwys fwyfwy yn rhan o’r offer a ddarparwn ar gyfer staff a myfyrwyr megis Office 365 a Blackboard, yn ogystal ag offer fel Google sy’n cael eu defnyddio’n eang gan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid yw’n ymarferol gwahardd defnyddio’r offer hyn, felly mae angen i ni ganfod ffyrdd o helpu myfyrwyr i ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn modd moesegol ac effeithiol er mwyn dysgu go iawn, yn hytrach na thwyllo.

Mae hyrwyddo’r gallu i ddefnyddio DA ymhlith staff a myfyrwyr wedi datblygu i fod yn agenda holl bwysig ledled y sector addysg uwch. Un o’r egwyddorion allweddol yw’r angen i staff fod yn agored gyda’u myfyrwyr ynghylch y rhesymau am yr asesiadau, sut maent yn helpu myfyrwyr i ddysgu, a’r hyn y mae’r staff yn ei ddisgwyl gan eu myfyrwyr. Dylai myfyrwyr, yn eu tro, ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol os ydynt yn defnyddio offer DA, a bod yn agored yn y gwaith cwrs y maent yn ei gyflwyno ynghylch sut ac ymhle y maent wedi defnyddio offer o’r fath. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer fel Grammarly neu Quillbot sydd, o bosibl, wedi’u hargymell ar gyfer myfyrwyr a chanddynt wahaniaethau dysgu penodol, er enghraifft.

Dylech annog eich myfyrwyr i ddarllen y canllaw LibGuide newydd a grëwyd gan y Tîm Cysylltiadau Academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr: Beth yw Deallusrwydd Artiffisial? Cafodd y dudalen Deallusrwydd Artiffisial a’ch Astudiaethau yn y LibGuide ei chreu gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol ac mae’n cynnwys clipiau fideo sy’n tynnu sylw at ganllawiau ymarferol ar ddefnyddio DA yn foesegol ac effeithiol. Bydd sesiwn ar Ddefnyddio DA er Lles yn cael ei chynnig ar 6 Tachwedd yn rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer staff ar dudalen deunyddiau gweithdy Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiolyr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, gyda chanllawiau a grëwyd gan y Gweithgor DA Cynhyrchiol a dolenni i rai ffynonellau awdurdodol. Bydd y ddogfen i staff yn cael ei diweddaru’n fuan gyda manylion ychwanegol ar ba rybuddion i chwilio amdanynt wrth farcio.

Mynnwch gip ar y dudalen archebu DPP i weld y  sesiynau hyfforddiant sydd i ddod i’r staff ar DA Cynhyrchiol, a’r fforymau trafod lle mae croeso i’r staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddeallusrwydd artiffisial o safbwynt marcio neu gynllunio dysgu, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Dymuniadau gorau

Tim”

Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau’r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu’n gyflym. Fel y mae’r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol  er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r tabl cosbau i gynnwys ‘Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun’ (a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).

Crëwyd y gweithgor Deallusrwydd Artiffisial, dan gadeiryddiaeth Mary Jacob, ym mis Ionawr 2023 i gydlynu ymdrechion y prifysgolion. Gweler Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i gael canllawiau ac adnoddau cyfredol. Rydym wrthi’n cynllunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd ar gael ymhell cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyngor ar farcio

Ar 3/4/2023, daeth offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial Turnitin yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae’r Sgôr Deallusrwydd Artiffisial (AI Score) yn weladwy i staff ond nid i fyfyrwyr. Gallai hyn newid os bydd Turnitin yn diweddaru’r adnodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gweler Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT | (aber.ac.uk) ar flog UDDA a Turnitin’s AI Writing Detection (Cynnwys allanol) gan Turnitin (sylwer y gall yr un darn gael ei adnabod fel cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial ac fel darn sy’n cyfateb i ffynhonnell allanol).

Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr yn y sector na all unrhyw offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial roi tystiolaeth bendant.

Daw hyn gan y QAA, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Drydyddol (a noddir gan Jisc), ac eraill. Cewch hyd i ddolenni i’r dystiolaeth hon ar dudalen Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys y recordiad QAA lle mae Michael Webb o’r Ganolfan Genedlaethol yn esbonio pam fod hyn yn wir.

Os ydych chi’n wynebu achos posib o ymddygiad academaidd annerbyniol, mae eich barn broffesiynol yn allweddol er mwyn gwneud y penderfyniad cywir. Dyma’r cyngor gorau y gallwn ei roi i adrannau:

  1. Defnyddiwch offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin ar y cyd â dangosyddion eraill – Gall offeryn Turnitin roi arwydd bod angen ymchwiliad pellach ond nid yw’n dystiolaeth ynddo’i hun.
  2. Gwiriwch y ffynnonellau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml, ond nid bob amser, yn cynhyrchu dyfyniadau ffug. Gall y rhain ymddangos yn gredadwy ar yr olwg gyntaf – awduron go iawn a chyfnodolion go iawn, ond nid yw’r erthygl yn bodoli. Gwiriwch y ffynonellau a nodwyd er mwyn gweld a ydynt yn 1) rhai go iawn a 2) wedi eu dewis yn briodol ar gyfer yr aseiniad. A yw’r ffynhonnell yn berthnasol i’r pwnc? Ai dyma’r math o ffynhonnell y byddai myfyriwr wedi’i darllen wrth ysgrifennu’r aseiniad (e.e. nid llyfr plant yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ar gyfer astudiaeth achos busnes)? Nid yw hyn yn brawf pendant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’n dystiolaeth gadarn nad yw’r myfyriwr wedi gwneud pethau’n gywir.
  3. Gwiriwch y ffeithiau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu celwyddau credadwy. Gallai’r testun swnio’n rhesymol ond mae’n cynnwys rhai ‘ffeithiau‘ sydd wedi eu creu. Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ddeallus mewn gwirionedd, mae’n gweithio fel peiriant rhagfynegi testun soffistigedig, felly os byddwch chi’n sylwi ar rywbeth sy’n ymddangos o’i le, gwnewch yn siŵr nad yw’n gelwydd credadwy.
  4. Ystyriwch lefel y manylder – Mae deallusrwydd artiffisial yn tueddu i gynhyrchu allbwn rhy generig, e.e. defnyddio termau haniaethol heb unrhyw ddiffiniadau nac enghreifftiau pendant. A yw’r traethawd neu’r adroddiad wedi’i ysgrifennu yn or-gyffredinol ynteu a yw’n cynnwys enghreifftiau pendant sy’n ddigon manwl i gefnogi’r casgliad ei fod wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr? Unwaith eto, nid yw diffyg manylder yn dystiolaeth bendant bod myfyriwr wedi twyllo ond gall fod yn rhybudd ar y cyd â ffactorau eraill.
  5. Cynhaliwch gyfweliad i benderfynu a yw’r gwaith yn ddilys – Os gwelwch arwyddion cryf o ymddygiad academaidd annerbyniol, gallai cyfweliad neu banel lle gofynnir cwestiynau i’r myfyriwr am ei aseiniad fod yn ffordd o gael tystiolaeth bendant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol ar raddfa eang. Mae hon yn broblem gymhleth, nid i’n prifysgol ni yn unig ond ar draws y sector.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gweler y Crynodeb Wythnosol o Adnoddau i ddysgu am ddigwyddiadau a deunyddiau, e.e. yr erthygl hon yn benodol am astudiaeth ar offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin: Fowler, G. A. (3/4/2023), We tested a new ChatGPT-detector for teachers. It flagged an innocent studentWashington Post. Mae Fowler yn egluro sut yr aethant ati i’w brofi, yr hyn a ganfuwyd, a pham y cynhyrchodd ganlyniadau ffug.

Yn fyr, os mai sgôr deallusrwydd artiffisial Turnitin yw’r unig beth amheus y mae staff yn sylwi arno, byddem yn argymell yn erbyn dwyn achos Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae gormod o bosibilrwydd o niwed os nad yw’r myfyriwr wedi twyllo mewn gwirionedd.

Deunyddiau’r Gynhadledd Fer Dysgu ac Addysgu ar gael Nawr

Mae adnoddau bellach ar gael o Gynhadledd Fer Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Dysgu ac Addysgu a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2022. I’r rhai nad oedd yn gallu dod neu a hoffai gael eu hatgoffa o gynnwys y gynhadledd, mae’r adnoddau ar gyfer pob sesiwn i’w gweld yma.

Canolbwyntiodd y gynhadledd ar Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch, gyda’r brif sesiwn yn cael ei darparu gan Dr Georgina Gough (UWE Bryste) a oedd yn archwilio sut i gynnwys amcanion cynaliadwyedd yn y cwricwlwm.

Ymhlith y pynciau eraill roedd sesiwn Marian Gray: ‘Student Mobility and Cross-Cultural Skills – Global & Sustainable?’, a Dr. Louise Marshall: ‘Discipline hopping: Interdisciplinary approaches to a sustainable curriculum’.

Blackboard UBN

Mae tua wythnos wedi mynd heibio ers i ni symud i Blackboard UBN. Dyma atebion i rai o’r cwestiynau y mae’r staff a’r myfyrwyr wedi eu gofyn i ni. Efallai y dewch o hyd i ateb i’ch cwestiwn yma (neu yn ein Cwestiwn Cyffredin Sut mae dechrau arni gydag Ultra Base Navigation). Os nad ydych yn dod o hyd i ateb, gallwch anfon e-bost atom.

  1. Ble mae safle fy ngwybodaeth adrannol / modiwl hyfforddi? Os ydych chi’n chwilio am safle Blackboard nad yw’n gysylltiedig â modiwl PA a addysgir, edrychwch ar y dudalen Sefydliadau. Mae’n debygol y dewch o hyd i’r cwrs rydych chi’n chwilio amdano yma.
  2. Sut mae’r cyrsiau wedi eu trefnu ar y dudalen Cwrs? Maent wedi’u rhestru yn ôl blwyddyn academaidd, ac yna yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl y modiwl. Efallai ei bod hi’n haws ichi ddod o hyd i’ch cyrsiau drwy ddefnyddio un o’r canlynol:
    a. Blwch chwilio – gallwch chwilio yn ôl enw’r modiwl neu god y modiwl.
    b. Ffefryn – defnyddiwch yr eicon ffefryn (seren) i binio’r cyrsiau yr ydych yn eu defnyddio’n rheolaidd ar frig eich rhestr.
    c. Hidlydd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i staff sy’n Hyfforddwyr ar rai modiwlau ac sydd â rolau eraill mewn modiwlau eraill. Bydd ‘Dewis Cwrs rwy’n ei addysgu’ yn dangos eich holl gyrsiau Hyfforddwr i chi.
    d. Newid y flwyddyn academaidd. Gallwch gyfyngu eich gwedd i’r flwyddyn academaidd bresennol yn unig drwy newid Cyrsiau i Cyrsiau 2022-23 Courses.
  3. Roedd gan fy newislen cwrs liw / dyluniad gwahanol – alla i ei newid yn ôl? Na, nid yw hyn ar gael bellach. Unwaith y byddwn yn symud i gyrsiau Ultra ni fydd dewislen cwrs.
  4. Sut mae newid y llun sy’n cael ei arddangos? Edrychwch ar y Canllawiau Blackboard (dilynwch o bwynt bwled 3).
  5. Pam ydw i’n cael neges wall wrth fynd i Blackboard? Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn syth i https://blackboard.aber.ac.uk. Peidiwch â defnyddio dolen na llyfrnod.
  6. Mae’r Ffrwd Weithgaredd yn dweud bod gen i aseiniadau hwyr? Mewn rhai cyrsiau efallai y bydd pwyntiau cyflwyno ar gyfer estyniadau, grwpiau ac ati nad ydynt yn berthnasol i chi. Bydd y rhain yn dangos yn y Chwiliad Gweithgaredd. Os nad ydych yn siŵr a yw cyflwyniad ar eich cyfer chi, ewch yn ôl i’r cwrs a gwirio nad oes gennych unrhyw aseiniadau nad ydynt wedi’u cyflwyno.
  7. Mae Fy Nghwrs neu Sefydliad yn dweud Preifat arno; beth mae hyn yn ei olygu? Mae’n golygu nad yw’r cwrs ar gael i fyfyrwyr. Os nad oes angen y cwrs arnoch mwyach, rhowch wybod i ni, a gallwn ei ddileu.

Rhaglen cydnabod goruchwylwyr ymchwil yr UKCGE

Ysgol y Graddedigion/ Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Ydych chi’n oruchwyliwr gradd ymchwil sefydledig?

A fyddech chi’n hoffi i’ch ymarfer goruchwylio gael ei gydnabod ar lefel genedlaethol?

Mae Cyngor y DU ar gyfer Addysg i Raddedigion (UKCGE) wedi datblygu’r Fframwaith Arfer Da wrth Oruchwylio a’r Rhaglen cydnabod goruchwylwyr ymchwil fel gall goruchwylwyr sefydledig gael cydnabyddiaeth am y rôl heriol, ond gwerth chweil hon.

Ym mis Mai 2022, daeth yr Athro Stephen Tooth o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yr aelod cyntaf o staff academaidd y Brifysgol i gael cydnabyddiaeth am ei ddull o oruchwylio graddedigion.
Rydym yn awyddus i gefnogi goruchwylwyr sy’n dymuno cyflawni’r achrediad hwn. I gael rhagor o fanylion am y fframwaith a sut i wneud cais, gweler ein gwefan https://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/supervisory-framework/ neu cysylltwch ag Annette Edwards trwy’r Fframwaith Goruchwylio (sfastaff@aber.ac.uk).

Diweddariad yr Haf 2022 UDDA

Diweddariad i Turnitin

Ym mlwyddyn academaidd 2022/23 byddwn yn defnyddio fersiwn newydd o Turnitin.
Ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 bydd fersiwn newydd Turnitin ar Blackboard yn cael ei alluogi gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Er y bydd rhan fwyaf y swyddogaethau yn aros yr un fath, fe fydd rhai newidiadau. I helpu staff gyda’r newid, fe baratowyd y Cwestiynau Cyffredin canlynol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein blog Newidiadau i Turnitin: Gwybodaeth i Staff.

Diweddaru’r Polisïau E-ddysgu

Mae fersiynau wedi’u diweddaru o’r holl bolisïau e-ddysgu ar gael o’r wefan Rheoliadau a Pholisïau Gwasanaethau Gwybodaeth.
Nid yw polisïau RMP ac E-gyflwyno Blackboard yn newid ers y llynedd. Bu rhai diweddariadau i’r polisi recordio darlithoedd. Maent yn cynnwys eglurhad ar gyfnod cadw recordiadau a chanllawiau ar ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu.

10fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Bydd ein 10fed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal rhwng 12-14 Medi 2022.
Mae cyfnod Cofrestru’r Gynhadledd bellach ar agor. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhaglen y gynhadledd, i’w gweld ar wefan ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Arolwg Mewnwelediad Digidol

Mae’r Arolwg Mewnwelediadau Digidol i fyfyrwyr wedi cau’n ddiweddar, a chafwyd dros 660 o ymatebion. Dan oruchwyliaeth JISC, mae’r arolwg yn gofyn i fyfyrwyr am eu defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu ac yn darparu meincnod ar gyfer cymharu â sefydliadau eraill.
Gellir defnyddio canlyniadau’r arolwg i lywio penderfyniadau strategol i wella’r profiad digidol a galluogi trawsnewid digidol.
Mae canfyddiadau allweddol y llynedd i’w gweld yn y blog Canlyniadau Arolwg Mewnwelediadau Digidol Myfyrwyr. Cyhoeddir y canfyddiadau allweddol yn fuan. Tanysgrifiwch i’r blog LTEU i gael hysbysiadau.

ARCHE

Rhaglen yw ARCHE y gall staff Prifysgol Aberystwyth (PA) ei defnyddio i wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (sydd bellach yn rhan o Advance HE). Gweler Llawlyfr y Cynllun ARCHE i gael manylion llawn.
Y dyddiad cau nesaf i wneud cais yw 07/09/2022. I fynegi diddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost i felstaff@aber.ac.uk.

TUAAU

Mae’r TUAAU yn agored i staff sy’n addysgu ar gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan gyflawni o leiaf 40 awr o addysgu (ar lefel addysg uwch) dros gyfnod pob modiwl, ond fe allai staff sydd mewn sefyllfaoedd eraill gael eu hystyried fesul achos. Anfonwch e-bost at dîm y cwrs i gael rhagor o wybodaeth.
Y tro nesaf y derbynnir ymgeiswyr ar gyfer modiwl 1 a modiwl 2 yw Ionawr 2023. (Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 1 Tachwedd). Mae angen i bob myfyriwr fynd I sesiwn ragarweiniol.

Cystadleuaeth AUMA 2022-3 yn agor ym mis Mai

Y mis hwn byddwn yn dechrau derbyn y garfan nesaf i’r rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Os oes diddordeb gan unrhyw ymchwilwyr uwchraddedig sy’n gwneud gwaith addysgu gallant wneud cais am le hyd at 24 Mehefin. Cynhelir cyfnod Cynefino gorfodol y rhaglen ar 20fed a 21ain Medi. Mwy o wybodaeth.

Tanysgrifio i’r Blog UDDA

Tanysgrifiwch i Flog yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu er mwyn i chi gael hysbysiad e-bost pan fydd neges newydd yn cael ei hysgrifennu. Cewch y newyddion am fentrau newydd, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau i ategu gweithgareddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau

Mae’r Crynodeb Wythnosol o Adnoddau yn cynnwys adnoddau i gynorthwyo staff i addysgu’n effeithiol, e.e. gweminarau allanol, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy.

DPP

Dewch i sesiynau yn ein rhaglen DPP flynyddol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar e-ddysgu, yn ogystal â llawer o sesiynau ar bynciau dysgu ac addysgu megis asesu ac adborth, sgiliau cyflwyno, hygyrchedd, a mwy.
Rydym yn cyflwyno rhai o’r sesiynau ein hunain, a chaiff eraill eu cyflwyno gan staff y brifysgol sydd ag arferion da o ran addysgu yn y meysydd hynny. Edrychwch am (L&T) yn nheitl y sesiwn.