Croeso cynnes i’r myfyrwyr sydd newydd ymuno â ni ac i’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau i’n hamgylchedd dysgu digidol, Blackboard, ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2026-27.
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sydd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill rydym yn cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.
Datganiad Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Ar draws y brifysgol, mae yna ofynion newydd ar gyfer datgan y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn aseiniadau yn ystod blwyddyn academaidd 2026-27. Disgwylir bellach i fyfyrwyr gynnwys y Datganiad-Defnyddio-Offer-AI hwn ar ddiwedd eu haseiniadau. Mae’r datganiad ar ffurf tabl ticio blychau ac mae’n gofyn i fyfyrwyr ddatgan pa fathau o offer a ddefnyddiwyd i’w cynorthwyo gyda’u haseiniad.
Vevox
Vevox yw offeryn pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Mae Vevox yn cynnig profiad rhyngweithiol a chydweithredol i ddysgwyr ac addysgwyr, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau megis polau piniwn neu roi cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn ac ateb cwestiynau. Gan fod Vevox yn cael ei ddefnyddio ar draws y brifysgol, rydym yn annog myfyrwyr i ddod â dyfais symudol neu dabled i’w dosbarthiadau er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau Vevox.
Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard
Yn ddiweddar, cyflwynwyd diweddariad sy’n galluogi integreiddio Turnitin i Aseiniadau Blackboard ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod 2026-27 rydym yn annog pob aelod o staff sy’n defnyddio Aseiniadau Blackboard ar hyn o bryd i alluogi Turnitin ar aseiniadau priodol. Bydd y prosesau cyflwyno, marcio ac adborth yr un fath ag o’r blaen. Bydd pob agwedd ar y broses, heblaw am yr adroddiad Turnitin, ar gael yn y Gymraeg. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sefydlu a defnyddio Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard yn ein Canllaw. Am ragor o wybodaeth am Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard, edrychwch ar ein blogbost.
Blackboard Ally
Yn dilyn y cynnydd ar wella’r sgôr hygyrchedd isafswm ar bob modiwl llynedd, mae gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod cynnwys mor gyson â Blackboard Ally â phosibl. Mae Blackboard Ally yn offeryn sydd ar gael i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella hygyrchedd deunyddiau a chynnwys ar Blackboard. O safbwynt yr addysgwr, mae Ally yn cynnwys nodweddion sy’n galluogi asesu hygyrchedd deunyddiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer fformatau amgen i wella unrhyw feysydd gwan. O safbwynt y myfyriwr, mae Ally yn cynnig nifer o offer i wneud cynnwys yn haws ei ddarllen, ei ddeall ac er mwyn rhyngweithio.
Rhagenwau
Ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, mae integreiddiad wedi’i ddatblygu rhwng Cofnod Myfyriwr a Blackboard. Mae hyn yn golygu y bydd y rhagenwau a ddewiswch yn Cofnod Myfyriwr yn cael eu diweddaru’n awtomatig yn Blackboard. Bydd gwelededd mwy amlwg i fynegiant rhywedd staff a myfyrwyr yn atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i amrywiaeth rhywedd a chynhwysiant, yn y dosbarth ac ar-lein.
Mynediad at Gyrsiau
Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at eu cyrsiau Blackboard unwaith y byddant wedi cwblhau eu cofrestriad. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhagor o fanylion am y broses gofrestru.
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Cyflwyniad i Offer E-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Adnodd Pleidleisio: Vevox
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:
Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng
Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd
Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy
Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau
Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)
Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)
Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)
Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell
Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr
Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng
Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.
Hyfforddwyr
O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:
Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.
Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.
Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp.
Delwedd 2: Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith.
Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd
Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.
Hyfforddwyr
Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred. Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.
Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.
Dyma rai pethau i’w nodi:
Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.
Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig. Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.
Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.
Delwedd 2: Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000.
Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy
Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.
Hyfforddwyr a myfyrwyr
Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:
Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr.
Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.
Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.
Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.
Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.
Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.
Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.
Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau
Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.
Hyfforddwyr a myfyrwyr
Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:
Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf.
Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.
Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.
Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)
Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.
Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.
Hyfforddwyr
O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.
Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:
Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.
Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr.
Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs.
Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu.
Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig
Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis.
Hyfforddwyr
Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu. Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.
Myfyrwyr
Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.
Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn. Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.
Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol.
Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell
Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.
Bwriad y newidiadau hyn yw:
Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs.
Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol.
Gwella cysondeb a pherfformiad.
Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau.
Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth.
Llywio cynnwys tudalen lawn
Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.
Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle.
Delwedd 1: Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.
Briwsion bara i ddangos y cyd-destun
Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.
Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol. Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.
Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.
Delwedd 2: Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi.
Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys
Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.
Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.
Delwedd 3: Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.
Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr)
Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.
Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.
Mae’r nodwedd yn:
Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau.
Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb.
Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.
Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.
Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd.
Delwedd 4: Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.
Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr
Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.
Hyfforddwyr
Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad. Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.
Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau. Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.
Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.
Delwedd 1: Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.
Myfyrwyr
Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.
Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.
Mae cysylltu cyrsiau yn ffordd effeithiol o drin cyrsiau unigol gyda’r un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau i ddau neu ragor o gyrsiau gwahanol.
Yn ôl y proses hwn, bydd un cwrs yn gwrs cynradd (gelwid gynt yn rhiant), a’r cwrs neu gyrsiau eraill yn gwrs eilaidd (gelwid gynt yn blentyn). Ni chyfyngir ar nifer y gyrsiau eilaidd ond ni ellir cael mwy nag un cwrs cynradd.
Enghreifftiau o Aberystwyth
Mae llawer o aelodau staff eisoes wedi cyfuno cyrsiau ar draws y sefydliad. Dyma ambell engraifft:
Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol.
Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig.
Yn y bôn, mae pob cwrs sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer eu cyfuno.
Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?
Wrth fewngofnodi i Blackboard, bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r cwrs y maent wedi’i cofrestru arno (hyd yn oed os mai’r cwrs eilaidd yw hwnnw) ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y cwrs cynradd. Ni ddylid gosod na chreu unrhyw gynnwys yn y cwrs eilaidd.
Pwyntiau i’w hystyried
Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i chi greu cynnwys eich cyrsiau, yw’r amser perffaith i gysylltu cyrsiau. Er bod cysylltu cyrsiau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, ystyriwch yr isod cyn gwneud cais:
Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y cyrsiau’n cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y cwrs). Gellir gweld sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, a chwynnwys fel Cyhoeddiadau a deunyddiau rhyngweithiol eraill ar eich cwrs cynradd.
Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl eilaidd (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno.
Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar gwrs eilaidd cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y cwrs cynradd.
Sut gallaf reoli’r cynnwys i sicrhau mai myfyrwyr y modiwl yn unig fydd yn ei weld?
Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r cyrsiau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau ac ‘amodau rhyddhau’ (gynt ‘rhyddhau’n ymaddasol’ yn Blackboard Original) os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno cwrs ail a thrydedd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol gyrsiau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn ac 1 ar gyfer myfyrwyr y drydedd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp ac amodau rhyddhau.
Llyfr Graddau a Chyfuno Cyrsiau
Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yn Llyfr Graddau’r cwrs cynradd. Mae’n bosibl hidlo’r llyfr graddau gan ddefnyddio Modiwlau wedi’u Cyfuno fel eich bod yn gweld y wybodaeth ar gyfer myfyrwyr ar y modiwlau perthnasol yn unig.
Cliciwch y botwm hidlo a amlygir isod a dewiswch o’r gwymplen ar gyfer cyrsiau wedi’u cyfuno:
Os hoffech ragor o wybodaeth am y proses neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn y diweddariad ym mis Gorffennaf, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:
Ychwanegu cynnwys atodol at ffolderi a modiwlau dysgu yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu
Ychwanegu disgrifiadau at Drafodaethau a Chyfnodolion
Rhedeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd ar gyfer gweithgareddau wedi’u graddio
Rheoli hyd Sgwrs DA gyda therfynau amser
Dod o hyd i’ch hoff gyrsiau yn gyflymach gyda Newidydd Cwrs
Ychwanegu cynnwys atodol at ffolderi a modiwlau dysgu yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu
Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu eu cynnwys eu hunain at ffolderi a modiwlau dysgu a dynnwyd o’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu. O’r blaen, roedd y rhain wedi’u cloi – gallech eu gweld ond ni allech ychwanegu unrhyw beth. Nawr, gallwch ychwanegu eich deunyddiau cwrs penodol eich hun tra bod y cynnwys Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu gwreiddiol yn aros dan glo ac yn dal i ddiweddaru ar draws cyrsiau. Mae eich ychwanegiadau yn gweithio fel cynnwys cwrs arferol, felly gallwch eu golygu, eu diweddaru neu eu dileu unrhyw bryd heb effeithio ar gyrsiau eraill. Bydd cynnwys y Gadwrfa bob amser yn aros ar y brig, ac mae unrhyw beth rydych chi’n ei ychwanegu yn ymddangos oddi tano – ni ellir ei symud o gwmpas o fewn y deunyddiau Cadwrfa gwreiddiol.
Delwedd 1: Bydd y dudalen Cynnwys y Cwrs yn dangos modiwl dysgu a ychwanegwyd o’r Gadwrfa, gyda dogfen hyfforddwr ar y gwaelod. Mae gan eitemau sy’n eiddo i’r Gadwrfa y label “Mae’r eitem hon yn cael ei rheoli gan eich sefydliad.”
Ychwanegu disgrifiadau at Drafodaethau a Chyfnodolion
Mae gan Trafodaethau a Chyfnodolion faes Disgrifiad nawr, yn union fel cynnwys cwrs arall, sy’n gwneud popeth ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn fwy cyson ac yn haws i’w sganio. Gall hyfforddwyr ddefnyddio’r maes dewisol hwn i roi cyd-destun cyflym neu osod disgwyliadau cyn i fyfyrwyr ddechrau gweithgaredd, tra’n sicrhau bod yr ysgogiad gwirioneddol yn canolbwyntio ar y dasg neu’r cwestiwn. Nid yw’r ysgogiad ei hun bellach yn ymddangos ar y brif dudalen cynnwys. I fyfyrwyr, mae hyn yn golygu y byddant yn gweld trosolwg clir, syml o beth yw pob Trafodaeth neu Gyfnodolyn cyn eu hagor, gan ei gwneud hi’n haws deall beth sy’n dod nesaf.
Llun 2: Gall hyfforddwyr ychwanegu disgrifiad yn y maes Disgrifiad ar gyfer Trafodaeth.
Rhedeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd ar gyfer gweithgareddau wedi’u graddio
Gall hyfforddwyr nawr redeg Adroddiad Gwerthuso Cyfarwyddyd yn syth o’r llyfr graddau ar gyfer unrhyw weithgaredd graddedig sy’n defnyddio cyfarwyddyd. Mae’n tynnu data at ei gilydd o holl gyflwyniadau’r myfyrwyr, gan roi golwg gyflym, glir ar gynnydd y myfyrwyr yn erbyn pob maen prawf.
I’w ddefnyddio, agorwch y llyfr graddau, dewch o hyd i golofn gyda chyfarwyddyd, a lansiwch yr adroddiad o’r ddewislen yn y wedd Grid neu Eitemau Graddadwy. Gallwch ei lawrlwytho fel PDF neu CSV.
Mae angen postio’r marciau eisoes er mwyn gweld yr adroddiad. Os nad oes digon o ddata graddio wedi’i bostio eto, fe welwch neges yn rhoi gwybod i chi.
Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r aseiniad, sgoriau cyfartalog cyffredinol, dadansoddiad gweledol sy’n cymharu’r pwyntiau posibl â’r pwyntiau a gyflawnwyd, a thabl manwl sy’n dangos sut y perfformiodd myfyrwyr ar draws meini prawf, gan gynnwys ystadegau megis cyfartaledd, canolrif a gwyriad safonol.
Rheoli hyd Sgwrs DA gyda therfynau amser
Gall hyfforddwyr nawr reoli pa mor hir mae Sgyrsiau DA yn para trwy ychwanegu terfynau amser, gan wneud pethau ychydig yn fwy strwythuredig ac yn haws i’w rheoli. Mae dwy ffordd wahanol o wneud hyn, gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi am ei amseru – y gweithgaredd cyfan neu dim ond yr elfen sgwrsio.
Mae gan Sgwrs DA ddwy ran: y sgwrs ei hun a chwestiwn myfyrio sy’n dilyn. Gallwch naill ai osod terfyn amser ar gyfer yr asesiad cyfan (sy’n cynnwys y ddwy ran) neu dim ond ar gyfer y sgwrs. Mae’r amserydd asesiad llawn eisoes yn bodoli – os bydd yr amser yn rhedeg allan, mae naill ai’n cyflwyno’n awtomatig neu’n rhoi amser ychwanegol i fyfyrwyr, gan ddibynnu ar eich gosodiadau. Yr opsiwn newydd yw amserydd sgwrs yn unig, sy’n stopio’r sgwrs ar ôl amser penodol ond nid yw’n cyfyngu ar amser myfyrwyr ar y cwestiwn myfyrio ar ôl hynny.
Ni allwch ddefnyddio’r ddau amserydd ar unwaith – mae’n rhaid defnyddio’r naill neu’r llall. Os ydych chi’n troi un ymlaen, mae’r llall yn cael ei analluogi’n awtomatig.
O fewn y cyfyngiadau sgwrsio, byddwch hefyd yn gweld dau reolaeth: terfyn neges (faint o atebion y gall myfyrwyr eu hanfon) a’r terfyn amser newydd. Gallwch ddefnyddio’r naill neu’r llall, y ddau, neu ddim un ohonynt. Noder: unwaith y bydd myfyriwr yn dechrau, mae’r terfyn amser wedi’i gloi i mewn.
Delwedd 3: Gallwch nawr osod terfyn amser ar gyfer naill ai sgwrs DA myfyriwr, neu eu myfyrdod ysgrifenedig ar ôl y sgwrs.
I fyfyrwyr, mae amserydd gweladwy yn eu helpu i gadw golwg ar amser. Mae lle mae’n ymddangos yn dibynnu ar yr amserydd a ddewisoch chi – naill ai y tu mewn i’r sgwrs neu ar frig yr asesiad cyfan. Os mai dim ond y sgwrs sy’n cael ei amseru, gallant gwblhau’r cwestiwn myfyrio heb bwysau amser.
Delwedd 4: Gan ddibynnu ar osodiadau’r hyfforddwr, dangosir yr amserydd pan fydd myfyrwyr yn cwblhau eu sgwrs neu yn ystod eu myfyrdod.
Ar y cyfan, mae hyn yn gwneud disgwyliadau’n gliriach, yn cefnogi anghenion hygyrchedd, ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth ddylunio gweithgareddau sy’n seiliedig ar DA.
Dod o hyd i’ch hoff gyrsiau yn gyflymach gyda Newidydd Cwrs
Mae dod o hyd i’ch hoff gyrsiau’n haws nawr gyda’r Newidydd Cwrs diweddaraf. Gallwch nawr weld eich holl hoff gyrsiau yno, felly does dim angen parhau i neidio yn ôl i’r dudalen Cyrsiau. Mae hyn yn adeiladu ar ddiweddariadau diweddar megis chwilio a chyrsiau diweddar, gan ei gwneud hi’n gyflymach symud o gwmpas.
Mae tab Ffefrynnau newydd sy’n dangos yn awtomatig pa gyrsiau rydych chi wedi’u dewis fel eich ffefrynnau ar y brif dudalen Cyrsiau. Mae’n eistedd ochr yn ochr â Diweddar a Chwilio, felly mae popeth mewn un lle. Ar y cyfan, mae’n ffordd symlach, gyflymach o neidio rhwng cyrsiau a gallwch ganolbwyntio heb y cliciau ychwanegol.
Delwedd 5: Mae gan y Newidydd Cwrs bellach dab Ffefrynnau, sy’n eich galluogi i ychwanegu rhestr bersonol o gyrsiau a ddefnyddir yn aml.
Yn y diweddariad ym mis Mehefin, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:
Graddio gyda chyfarwyddiadau
Ymgysylltiad myfyrwyr â chyhoeddiadau
Newidiadau i raddio gyda chyfarwyddiadau
Er mwyn gwella defnyddioldeb cyfarwyddiadau, gall hyfforddwyr nawr olygu’r cyfarwyddiadau’n uniongyrchol. Bydd newidiadau i gyfarwyddiadau’r graddau cydran hefyd yn diweddaru’r radd gyffredinol ar unwaith.
Delwedd 1: Gwell defnyddioldeb o gyfarwyddiadau wrth ychwanegu neu addasu graddau.
Yn y gorffennol, byddai hyfforddwyr wedi cael eu rhwystro rhag newid y radd gyffredinol trwy’r cyfarwyddiadau. Nawr, mae’r mecanwaith cloi a oedd yn flaenorol yn atal hyfforddwyr rhag defnyddio’r cyfarwyddiadau i ddiystyru gradd wedi’i ddileu. Fel arall, bydd graddau a gofnodwyd yn y cydrannau gradd cyfarwyddyd yn diweddaru’r radd gyffredinol ar unwaith.
Mae’r diweddariad hefyd yn cynnwys rhai newidiadau yn y geiriad, megis diweddaru’r label blwch sgôr cyfarwyddyd o “Cyflwyno” i “Sgôr Cyfarwyddyd”, er mwyn gwella cysondeb â’r dudalen Graddio Hyblyg.
Ymgysylltiad myfyrwyr â chyhoeddiadau
Gall hyfforddwyr nawr wirio pa gyhoeddiadau y mae myfyriwr wedi’u darllen neu beidio ar y tab ‘Cyhoeddiadau’ newydd ar y dudalen Trosolwg Myfyrwyr.
I gael mynediad at y nodwedd hon, dylai hyfforddwyr fynd i ‘Gofrestr y Dosbarth’ o dan yr eitemau ‘Manylion a Gweithredoedd’ ar ochr dde tudalen lanio’r cwrs. Ar ôl dewis myfyriwr, bydd cofnod ynghylch a yw myfyriwr wedi gweld cyhoeddiad yn weladwy i hyfforddwyr o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ newydd ar y dudalen Trosolwg Myfyrwyr.
Llun 2: Mae’r tab Cyhoeddiadau ar y dudalen Trosolwg Myfyrwyr yn dangos pryd y postiwyd Cyhoeddiad a phryd y cafodd ei ddarllen.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Tagiau: Blackboard, Diweddariad Misol, Ultra, Grwpiau, Trafodaethau, Graddio, Llyfr Graddau, Cwestiynau Amlddewis, Amodau Rhyddhau, Darllenydd Sgrin, Hygyrchedd, catalog y cwrs
Yn y diweddariad ym mis Mai, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:
Newidiadau i reoli grwpiau
Trafodaethau graddedig a graddio hyblyg
Profion a chwestiynau
Cynnwys ac amodau rhyddhau
Chwilio am gwrs
Newidiadau i reoli grwpiau
Mae hyfforddwyr nawr yn dechrau trwy ddewis sut maen nhw eisiau strwythuro grwpiau – cyn rheoli aelodau unigol. Mae’r opsiynau’n cynnwys:
Aseiniad â llaw
Aseiniad Awtomatig
Hunan-gofrestru
Mewnforio
Delwedd 1: Mae hyfforddwyr nawr yn dechrau trwy greu set grŵp trwy ddewis sut maen nhw eisiau strwythuro grwpiau – cyn rheoli aelodau unigol.
Cofrestru’n awtomatig gyda rheolyddion cliriach
Gall hyfforddwyr glustnodi myfyrwyr i grwpiau yn awtomatig trwy nodi nifer yr aelodau fesul grŵp. Mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau ac yn clustnodi myfyrwyr ar hap mewn un cam, gan leihau amser gosod ar gyfer cyrsiau mawr.
Llun 2: Gall hyfforddwyr nawr glustnodi myfyrwyr i grwpiau yn awtomatig trwy nodi nifer yr aelodau fesul grŵp.
Ffyrdd mwy hyblyg o glustnodi myfyrwyr
Gall hyfforddwyr glustnodi a dad-glustnodi myfyrwyr gan ddefnyddio sawl dull:
Clustnodi myfyrwyr yn uniongyrchol o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’
Clustnodi myfyrwyr dethol i grŵp penodol
Ychwanegu neu dynnu aelodau o fewn grŵp
Mae’r hyblygrwydd hwn yn lleihau ailadrodd gweithredoedd ac yn ei gwneud hi’n haws canolbwyntio ar boblogi un grŵp ar y tro neu gydbwyso aelodaeth ar draws grwpiau.
Trefnu ar gyfer aelodau grwpiau a grwpiau
Gall hyfforddwyr nawr ddidoli:
Myfyrwyr yn ôl enw cyntaf neu gyfenw (A–Y neu Y–A)
Cyfeirnod Myfyriwr
Grwpiau yn ôl enw’r grŵp
Grwpiau yn ôl nifer yr aelodau
Llun 3: Gall hyfforddwyr nawr ddidoli aelodau’r grŵp yn ôl enw cyntaf neu olaf, cyfeirnod myfyriwr a didoli grwpiau yn ôl enw grŵp neu nifer yr aelodau.
Gwelliannau perfformiad a dibynadwyedd
Mae rheoli grwpiau mewn cyrsiau mawr bellach yn sylweddol gyflymach. Mae gweithrediadau arbed a oedd yn cymryd sawl munud o’r blaen – yn enwedig mewn cyrsiau gyda miloedd o fyfyrwyr – bellach yn cael eu cwblhau mewn eiliadau. Pan fydd grŵp yn cael ei gadw, gall hyfforddwr gau’r dudalen a bod yn sicr ei fod yn parhau i gadw yn y cefndir, gan ganiatáu i hyfforddwyr barhau i weithio heb ymyriad.
Yn ogystal, mae’r terfynau uchaf blaenorol o 5,000 o fyfyrwyr a 1,000 o grwpiau yn cael eu dileu.
Mae’r gwelliannau hyn yn lleihau rhwystredigaeth ac yn gwella hyder wrth reoli grwpiau ar raddfa.
Ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer Trafodaethau yn weladwy yn y Llyfr Graddau
Mae’r ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer trafodaethau bellach yn ymddangos yn y tudalennau canlynol yn y Llyfr Graddau:
Trosolwg
Eitemau graddadwy
O dan Dyddiad Cyflwyno ar yr eitem Trafodaeth ar bob tudalen Llyfr Graddau, dangosir ail ddyddiad cyflwyno terfynol yr eitem. Wrth ymyl y dyddiad hwnnw mae eicon cylch gydag ‘i’ fach y tu mewn. Daliwch y llygoden dros yr eicon neu dabio i’r eicon hwn, a bydd naidlen swigen yn dangos manylion y ddau ddyddiad cyflwyno. Er enghraifft: Mae gan y drafodaeth hon 2 ddyddiad cyflwyno: Dyddiad cyflwyno 1: 5/1/26, 12:00 YP Dyddiad cyflwyno 2: 5/8/26, 12:00 YP
Delwedd 1: Mae’r ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer trafodaeth bellach yn ymddangos ar y tudalennau Trosolwg ac Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau.
Mae hyfforddwyr yn elwa o gyfathrebu cliriach ynghylch disgwyliadau trafodaeth, gan leihau’r angen i egluro dyddiadau cau a helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut a phryd mae eu cyfraniadau yn cael eu graddio.
Cario’r hidlydd grŵp i mewn i’r Graddio Hyblyg
Mae’r hidlydd grŵp a ddewiswyd yng ngwedd grid y Llyfr Graddau bellach yn cario drosodd i’r Graddio Hyblyg. Bydd hyfforddwyr sy’n hidlo yn ôl grŵp yn y Llyfr Graddau yn dod o hyd i’r myfyrwyr o’r grŵp hwnnw yn unig pan fyddant yn mynd i mewn i’r Graddio Hyblyg, ac mae’r hidlydd grŵp gweithredol yn cael ei arddangos yn y wedd Graddio Hyblyg. Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’r angen i ail-hidlo ar ôl newid gwedd ac yn sicrhau bod hyfforddwyr yn canolbwyntio ar y myfyrwyr mwyaf perthnasol ar gyfer eu tasg raddio gyfredol.
Darparu adborth lefel ateb ar gyfer cwestiynau amlddewis ac aml-ateb
Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu adborth ar gyfer pob opsiwn ateb mewn cwestiynau amlddewis ac aml-ateb. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae pob dewis yn gywir neu’n anghywir ar ôl cyflwyno ymgais.
Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu adborth ar gyfer pob opsiwn ateb mewn cwestiynau amlddewis ac aml-ateb. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae pob dewis yn gywir neu’n anghywir ar ôl cyflwyno ymgais.
Hyfforddwyr
Wrth greu neu olygu cwestiwn amlddewis neu aml-ateb, gall hyfforddwyr droi Adborth Opsiwn ymlaen sy’n ysgogi i flychau testun Adborth ymddangos o dan bob opsiwn ateb. Gall hyfforddwyr nodi’r opsiynau ateb ac adborth ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr roi adborth lefel ateb.
Mae troi’r Adborth Opsiwn ymlaen yn analluogi’r opsiwn Adborth Awtomataidd . Mae’r opsiwn Adborth Awtomataidd yn caniatáu i hyfforddwyr ddarparu adborth ar gyfer yr ateb cywir ac ar gyfer atebion anghywir. Mae adborth lefel ateb hefyd yn caniatáu adborth awtomatig, y gall hyfforddwyr ei ffurfweddu yn yr adran Canlyniadau asesu o Gosodiadau Asesu.
Er mwyn i adborth lefel ateb ei ymddangos i fyfyrwyr, galluogwch Dangos atebion cywir yn yr adran Canlyniadau asesu o Gosodiadau Asesu.
Myfyrwyr
Ar ôl cyflwyno ymgais, mae myfyrwyr yn derbyn adborth ar gyfer pob opsiwn ateb a ddewiswyd ganddynt os yw’r hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer yr opsiwn ateb hwnnw. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall eu perfformiad ar lefel fwy manwl ac yn cefnogi dysgu o ddewisiadau anghywir.
Opsiynau cloi ateb mewn safle sefydlog ar gyfer cwestiynau amlddewis ac aml-ateb
Wrth greu neu olygu cwestiwn amlddewis neu aml-ateb, gall hyfforddwyr ddynodi opsiynau ateb penodol fel ‘wedi’u cloi’. I gloi opsiwn yn ei le, dewiswch Atebion ar hap yn y Gosodiadau Asesu, yna dewiswch yr eicon cloi wrth ymyl yr opsiwn ateb. Mae opsiynau wedi’u cloi yn aros yn eu safle penodol tra bod yr holl opsiynau eraill yn cymysgu yn ôl y disgwyl.
Gall hyfforddwyr dynnu clo unrhyw bryd wrth olygu’r cwestiwn. Gellir diweddaru dynodiadau cloi hefyd fel rhan o lif ailraddio.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis yr eicon clo wrth ymyl yr opsiwn ateb i gloi’r opsiwn hwnnw yn ei le. I sbarduno’r eiconau clo, dewiswch Atebion ar hap yn y Gosodiadau Asesu.
Delweddu amodau rhyddhau a etifeddwyd gan eitemau mewn modiwlau a ffolderi dysgu
Gall hyfforddwyr nawr weld amodau rhyddhau a etifeddwyd o fodiwl neu ffolder dysgu rhiant yn uniongyrchol o fewn y panel amodau rhyddhau mewn eitemau unigol. Mae amodau a etifeddir yn ymddangos mewn fformat darllen yn unig, gan roi darlun clir i hyfforddwyr o’r holl amodau sy’n berthnasol i eitem, gan gynnwys y rhai a osodir yn uniongyrchol ar yr eitem a’r rhai sy’n rhaeadru o gynhwysydd rhiant.
Mae’r diweddariad hwn hefyd yn sicrhau nad yw trafodaethau sydd wedi’u cuddio o fewn modiwl dysgu bellach yn hygyrch o’r tab Trafodaethau . Mae trafodaethau bellach yn parchu’r amodau rhyddhau a gymhwysir ar lefel y modiwl dysgu.
Hyfforddwyr
Pan fydd hyfforddwyr yn agor y panel Amodau Rhyddhau ar gyfer eitem o fewn modiwl neu ffolder dysgu, mae crynodeb darllen-yn-unig o unrhyw amodau a etifeddwyd o’r cynhwysydd rhiant yn ymddangos ochr yn ochr ag unrhyw amodau a gymhwysir yn uniongyrchol i’r eitem. Mae hyn yn helpu hyfforddwyr i ddeall y set lawn o reolau mynediad sydd ar waith a phenderfynu a oes angen amodau ychwanegol.
Delwedd 1: Mae crynodeb darllen-yn-unig o’r amodau a etifeddwyd o’r cynhwysydd rhiant a’r amodau a gymhwyswyd yn uniongyrchol i’r eitem yn ymddangos yn y panel Amodau Rhyddhau.
Gwell profiad darllenydd sgrin yn y modd gweld Dogfen
Mae defnyddwyr darllenydd sgrin bellach yn cael profiad glanach, â mwy o ffocws wrth lywio dogfennau yn y modd gweld. Mae cyhoeddiadau rhesi a cholofnau diangen wedi’u dileu i ganiatáu mynediad at gynnwys cynradd yn y drefn gywir, o’r chwith i’r dde, ar draws rhesi, colofnau a blociau. Nid yw ymddygiad y modd golygu wedi newid.
Gwell chwilio a llywio yn y Newidydd Cwrs
Rydym wedi gwella’r Newidydd Cwrs yng Ngwedd Cwrs Blackboard Ultra i’w gwneud hi’n gyflymach ac yn haws symud rhwng cyrsiau. Gall defnyddwyr nawr chwilio am gwrs yn uniongyrchol o’r Newidydd Cwrs a llywio ato heb ddychwelyd i’r dudalen Cyrsiau yn gyntaf.
Mae’r diweddariad hwn yn adeiladu ar y mynediad cyflym presennol i gyrsiau diweddar ac yn helpu i leihau ffrithiant llywio wrth weithio ar draws sawl cwrs.
Hyfforddwyr a myfyrwyr
Mae’r Newidydd Cwrs bellach yn cynnwys blwch chwilio sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i, ac agor, unrhyw gwrs y mae ganddynt fynediad iddo yn gyflym. Yn hytrach na phori’r dudalen Cyrsiau lawn, gall defnyddwyr agor y Newidydd Cwrs, chwilio yn ôl enw’r cwrs neu gyfeirnod y cwrs a llywio’n uniongyrchol i’r cwrs a ddewiswyd.
Mae’r gwelliant hwn yn ategu’r opsiynau presennol yn y Newidydd Cwrs:
Mynediad cyflym i’r pedwar cwrs diweddaraf
Dolen Gweld y Cyfan sy’n agor y dudalen Cyrsiau lawn
Trwy gyfuno chwilio â mynediad i gwrs diweddar, mae’r Newidydd Cwrs yn darparu ffordd ganolog ac effeithlon o symud rhwng cyrsiau—gan helpu defnyddwyr i ganolbwyntio ar eu tasgau yn hytrach na rheoli llywio.
Delwedd 1: Mae gan y Newidydd Cwrs bellach allu Chwilio cyrsiau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am gyrsiau yn ôl enw’r cwrs neu gyfeirnod y cwrs.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Helo! Mae’n braf cael cyflwyno fy hun yn fy nghyhoeddiad blog cyntaf yn fy rôl newydd. Dan ydw i, ac ymunais â’r Tîm Addysg Ddigidol ar ôl y Pasg fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy’n gwneud y rôl ochr yn ochr â fy ngradd PhD gyda’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Symudais i Aberystwyth yn 2022 i ddechrau fy nghwrs ymchwil 1+3 yn y brifysgol. Ar ôl gorffen y rhan hyfforddiant ymchwil o’r cwrs, dechreuais fy PhD yn 2023 ar y pwnc ‘llywodraethiant aml-lefel y maes polisi ail gartrefi’. Yn fy nghyfnod fel myfyriwr ymchwil yma, rydw i hefyd wedi cael profiad defnyddiol iawn fel tiwtor seminar yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fel Tiwtor Sgiliau Astudio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr.
Wrth i mi nesáu at ran olaf fy PhD, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y rôl newydd gyffrous hon. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd mae’r brifysgol wedi’u rhoi imi hyd yn hyn, ac rwy’n frwdfrydig i gael cyfrannu at waith gwych y Tîm Addysg Ddigidol.
Cyn symud i Aberystwyth, astudiais fy ngraddau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio mewn ambell i rol yn y sector gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd. Rydw i o hyd yn talu sylw at wleidyddiaeth, felly byddaf yn cadw llygad barcud ar ymgyrch etholiad Senedd Cymru dros y mis nesaf!
Y tu allan i wleidyddiaeth, mae gen i ddiddordeb mawr yn chwaraeon. Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, rwy’n gefnogwr brwd o’r Scarlets a chlwb pêl-droed Abertawe. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon fy hun, a dros yr haf byddaf yn defnyddio tirwedd hyfryd Ceredigion i helpu fi hyfforddi ar gyfer y nifer o driathlons rydw i wedi cofrestru amdano fel rhan o’r Gyfres Triathlon Cymru. Y llynedd, gwnes i hefyd penderfynu dychwelyd o ymddeoliad fy ngyrfa rygbi i ymuno â chlwb rygbi Tregaron, lle rwy’n chwarae fel cefnwr.
Pan fydda i eisiau cymryd hoe fwy hamddenol o’r gwaith, rydw i’n mwynhau mynd am dro gyda fy mhartner i weld yr anifeiliaid fferm ger ein fflat yng Ngelli Angharad, neu fynd am dro ar hyd y prom yn Aberystwyth i fwyta hufen iâ.
Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i nabod mwy o staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf!