
Allwch chi gredu bod 2026 bron ar ben?! Mae diwedd y flwyddyn hefyd yn golygu diwedd y tymor cyntaf, ac wrth i chi orffen addysgu roeddem am rannu rhai syniadau am sut y gallwch ddefnyddio Vevox i greu rhai gweithgareddau diwedd y flwyddyn i’ch myfyrwyr.
A hoffech chi grynhoi’r semester hwn o addysgu, cydgrynhoi gwybodaeth, profi gwybodaeth myfyrwyr, cael adborth, neu greu cwis diwedd y flwyddyn hwyliog i fyfyrwyr? Gall Vevox helpu gyda hynny! Gadewch i ni edrych ar rai o’r ffyrdd y gellir ei ddefnyddio i wneud gweithgareddau dysgu ac addysgu diwedd y flwyddyn yn ddefnyddiol ac yn hwyl – oherwydd dyma dymor llawenydd, wedi’r cyfan.
Cwestiynau Pleidleisio
Gellir defnyddio cwestiynau pleidleisio i grynhoi’r tymor hwn o addysgu ac i grynhoi’r hyn y mae’r myfyrwyr wedi’i ddysgu dros y 12 wythnos diwethaf, yn enwedig os oes ganddynt aseiniadau neu arholiadau ar y gweill, drwy greu cwestiynau cyflym ar gyfer gwirio gwybodaeth, casglu adborth, ac asesu pa mor hyderus y maent yn teimlo am yr hyn y maent wedi’i ddysgu.
Dyma rai syniadau o ran sut y gallwch ddefnyddio polau Vevox:
- Cwmwl Geiriau Myfyrio ar Fodiwl
- Defnyddiwch Gwmwl Geiriau i ganiatáu i fyfyrwyr anfon geiriau neu ymadroddion mewn ymateb i gwestiwn neu ysgogiad am y modiwl a chreu crynodeb gweledol o’r canlyniadau. Gallai hyn fod yn ‘Pa dri gair sy’n disgrifio’r modiwl hwn orau?’ ‘Pa sgiliau rydych chi wedi’u datblygu fwyaf eleni?’, neu ‘Beth fyddwch chi’n ei gofio am y cwrs hwn mewn pum mlynedd?’. Mae hyn yn asesu’r hyn y mae’r myfyrwyr wedi’i ddysgu ac mae hefyd yn rhoi adborth i chi ar y modiwl.
- Uchafbwyntiau’r Cwrs – Amlddewis
- Defnyddiwch y cwestiynau Amlddewis i ofyn i’r myfyrwyr beth oedd eu hoff weithgaredd dysgu, yn enwedig os ydych wedi defnyddio gwahanol ddulliau addysgu drwy gydol y tymor. Mae hyn yn asesu’r hyn y gwnaeth y myfyrwyr ei fwynhau fwyaf, yr hyn a oedd fwyaf effeithiol, ac yn rhoi adborth i chi ar gyfer cyflwyno’r cwrs yn y dyfodol.
- Pleidlais Sgoriau Gwirio Hyder
- Defnyddiwch y nodwedd Pleidlais Sgoriau i fesur hyder myfyriwr ar wahanol bynciau, gan ddefnyddio graddfa raddio o 1-10 i weld lle mae myfyrwyr yn teimlo fwyaf hyderus a lle y mae arnynt angen mwy o arweiniad.
- Cywir neu Anghywir
- Cyflwynwch gysyniadau allweddol neu gamsyniadau cyffredin o’r pynciau yr ymdriniwyd â nhw a gofynnwch i fyfyrwyr ateb ‘Cywir neu Anghywir’ fel ffordd gyflym o brofi gwybodaeth a mynd dros bynciau.
- Troelli’r olwyn
- Defnyddiwch y nodwedd Troelli’r Olwyn i ddewis myfyrwyr, pynciau neu ymatebion ar hap. Gallech ddefnyddio hyn i ddewis myfyriwr i ateb cwestiwn cyflym fel ffordd o wirio eu gwybodaeth am bwnc, dewis pwnc ar hap i’w drafod, neu fewnbynnu ymatebion myfyrwyr i gwestiwn pôl blaenorol a’i ddefnyddio i ddewis ymateb neu gwestiwn myfyriwr ar hap i’w drafod ymhellach. Os hoffech chi wneud pethau’n fwy cyffrous, gallwch gynnig gwobrau a defnyddio’r olwyn i ddewis enillydd ar hap.
Cwestiwn ac Ateb
Gellir troi’r Bwrdd Cwestiwn ac Ateb ymlaen drwy gydol sesiwn fyw a’i ddefnyddio i gasglu sylwadau neu gwestiynau gan fyfyrwyr, gyda’r opsiwn o gyfrannu’n ddienw i ganiatáu iddynt gyflwyno sylwadau neu gwestiynau gyda llai o bwysau. Gall fod yn adnodd gwerthfawr i weld pa bynciau y gallai myfyrwyr fod yn cael trafferth â nhw neu unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am gynnwys y cwrs, yn enwedig os oes ganddynt aseiniadau neu brofion ar y gweill.
Wrth eich pwysau: Cwisiau ac Arolygon
Gellir defnyddio nodweddion Wrth eich pwysau Vevox i wirio gwybodaeth ac i gasglu adborth ar y modiwl. Caiff cwisiau ac arolygon eu creu a’u rhyddhau i fyfyrwyr eu cwblhau’n anghydamserol ar ôl sesiwn fyw.
- Cwis Crynhoi Modiwl
- Ystyriwch greu cwis sy’n ymdrin â phynciau drwy gydol y tymor fel gwiriad gwybodaeth isel ei risg ac i adnabod meysydd i ailymweld â nhw o bosibl. Ystyriwch ei ryddhau ychydig wythnosau cyn diwedd y tymor – yn enwedig os oes gan eich myfyrwyr aseiniadau neu brofion ar y gweill – fel bod gennych amser i fynd dros y canlyniadau yn y dosbarth gyda’r myfyrwyr ac ailystyried unrhyw feysydd y gallent fod yn cael trafferth â hwy.
- Noder: Crëwch y cwestiynau hyn drwy gydol y tymor, er enghraifft ar ôl pob darlith neu ar ddiwedd yr wythnos, tra bo’r cynnwys yn dal yn ffres yn eich meddwl. Mae’n llawer haws na cheisio eu hysgrifennu i gyd ar yr un pryd!
- Arolwg Adborth
- Mae arolwg yn ffordd wych o gasglu adborth o’r modiwl i weld sut mae myfyrwyr wedi bod yn ymgysylltu â’r cynnwys a’r gweithgareddau addysgu ac i gynhyrchu rhai dirnadaethau defnyddiol ar gyfer adolygu’r modiwl.
Dim rai syniadau’n unig ar sut y gallwch ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau diwedd y flwyddyn. Gallwch ddefnyddio pob un ohonynt neu rai ohonynt, neu gallwch greu eich rhai eich hun – mae gan Vevox lawer o nodweddion gwahanol ar gael y gellir eu defnyddio i greu gweithgareddau deniadol i’ch myfyrwyr a gwneud eich addysgu’n fwy rhyngweithiol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Vevox drwy edrych ar wefan gymorth Vevox yma ac edrych ar ein Canllaw Defnyddio Vevox ar gyfer Addysgu yma.
