Cytundeb Trwydded Defnyddiwr a Turnitin – diweddariad

Mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn darparu diweddariad ar Turnitin a Chytundebau Trwydded Defnyddwyr.

Efallai eich bod wedi clywed am bryderon ynghylch cytundebau trwydded defnyddiwr Turnitin a DA Cynhyrchiol.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i ddefnyddio Turnitin, mae angen i staff a myfyrwyr dderbyn y telerau cytundeb i ddefnyddio’r llwyfan.

Dros yr haf, cawsom hysbysiad gan Turnitin eu bod yn diweddaru eu cytundeb trwydded, gyda’r bwriad i hyn gael ei gymhwyso i bob defnyddiwr (staff a myfyrwyr).

Yn rhan o’r cytundeb trwydded hwn, cynigiwyd y byddai cyflwyniadau myfyrwyr ac adborth staff yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau iaith mawr.

Roedd gennym ni, ynghyd â gweddill y sector, bryderon am hyn. Roeddem yn anhapus ynghylch sut yr oedd Turnitin yn bwriadu cyflwyno’r diweddariad hwn, heb rybudd, ac ynghylch diogelwch gwaith y myfyrwyr ac adborth y staff.

Gan weithio ochr yn ochr ag UCISA, y corff aelodaeth broffesiynol ar gyfer systemau digidol, TG a gwybodaeth o fewn addysg uwch y DU, a phrifysgolion eraill, fe wnaethom lobïo yn erbyn y newid hwn.

Yn dilyn hyn, ni wnaeth Turnitin gyflwyno’r cytundeb trwydded wedi’i ddiweddaru.

Efallai eich bod wedi gweld bod prifysgolion eraill yn dechrau symud i ffwrdd o Turnitin. Ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym yn parhau i ddefnyddio Turnitin.

O ran ein trwydded ein hunain, rydym yn adnewyddu yn flynyddol, ac mae gennym gontract hyd at fis Gorffennaf 2027. 

Fe wnaethon ni gynnal cynllun peilot rai blynyddoedd yn ôl i edrych ar ddichonoldeb symud i ffwrdd o Turnitin, ond ar yr adeg honno, nid oedd yr offer yn Blackboard yn bodloni ein holl ofynion. Rydym yn cadw llygad agos ar offer paru testun a chyflwyno yn Blackboard i weld a ydynt yn cynnig dewis arall hyfyw i Turnitin.

Rydym yn cwrdd â’n Rheolwr Cyfrif Cwsmeriaid Turnitin yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn gallu rhoi adborth ar ein pryderon a’n problemau. Roeddem mewn cysylltiad â nhw ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r cytundeb trwydded. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyrff sector sy’n lobïo ac yn eirioli gyda gwerthwyr meddalwedd ar ran sefydliadau AU.

Os byddai’n well gennych beidio â defnyddio Turnitin, mae gan Blackboard Assignment offer cyflwyno a marcio y gallwch eu defnyddio – mae’r holl ganllawiau ar gael ar ein tudalennau gwe, a byddem yn hapus i weithio gydag unrhyw un a hoffai newid i’w ddefnyddio. Mae’n cynnig nifer o fanteision nad oes gan Turnitin – er enghraifft, cyflwyniadau aml-ran ac aseiniadau grŵp. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau – y 2 gyfyngiad mwyaf yw nad yw marciau’n cael eu rhyddhau’n awtomatig ar ‘Ddyddiad Postio’ ac nad yw’n bosibl cyflwyno gwaith ar ran myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y diweddariad hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*