
Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gymerodd ran yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys ar 10 Tachwedd!
Gwnaeth staff ar draws y brifysgol 43 o newidiadau yn ystod 24 awr y gystadleuaeth, ac mae pob un o’r newidiadau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Sgôr gyffredinol Ally ar gyfer cyrsiau 2026-27 ar yr 11 Tachwedd oedd 75.4% – cynnydd o 4% ers y flwyddyn flaenorol.
Dyma’r ail dro i Brifysgol Aberystwyth gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac daethom yn 99ain ar y tabl arweinwyr allan o’r 121 sefydliad oedd yn cymryd rhan. Roedd 11 sefydliad o’r DU ac, o’r rhain, roedd Prifysgol Aberystwyth wedi ei gosod yn 7fed.
Yn ystod ein sesiwn galw heibio, cawsom gyfle i roi ychydig o oriau o’r neilltu i ddod at ein gilydd a helpu staff o bob rhan o’r brifysgol i wella hygyrchedd eu cynnwys Blackboard. Rhoesom arweiniad ynghylch testunau amgen ar gyfer delweddau, penawdau, a materion yn ymwneud â chyferbyniad – gydag ychydig o gerddoriaeth jazz yn y cefndir a choffi, te a siocled i’n cymell, ynghyd â’r wybodaeth ein bod yn helpu myfyrwyr i ddefnyddio eu deunydd dysgu.
Nid yw’r trwsio yn dod i ben yma, ac nid yw hygyrchedd yn gyfyngedig i un diwrnod. Gallwch ddefnyddio Ally unrhyw bryd y dymunwch. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer cynnwys newydd a’r cynnwys sydd eisoes yn bodoli. Daliwch ati i adolygu’ch cynnwys am ddangosyddion coch ac oren a gwiriwch eich adroddiad Ally i nodi’r datrysiadau cyflymaf a’r hawsaf y gallwch eu gwneud i gynnwys eich cwrs.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio Ally ar dudalennau cymorth Ally.
Diolch eto i bawb sydd wedi cymryd yr amser i wirio hygyrchedd eu cynnwys a gwneud newidiadau sy’n cyfrannu at amgylchedd dysgu mwy cynhwysol i’n holl fyfyrwyr.
