
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei gŵyl fach gyntaf. Nod yr ŵyl yw dod â sesiynau hyfforddi a gweithdai a gynigir gan yr Uned ar bwnc penodol ynghyd gyda siaradwr allanol. Ar gyfer yr ŵyl gyntaf, byddwn yn edrych yn benodol ar asesu. Cynhelir yr ŵyl fach rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Gwener 21 Mai ar-lein ar Teams. Gallwch archebu’r sesiynau yr hoffech ddod iddynt ar ein system archebu ar-lein.
Bydd yr Athro Sally Brown a’r Athro Kay Sambell yn ymuno â ni i siarad am gynllunio asesu ar ôl covid ddydd Llun 17 Mai mewn gweithdy dwy awr am 10.30am. Mae eu papur Writing Better Assignments in the post Covid19 Era wedi’i drafod yn helaeth ar draws y sector ers haf y llynedd.
Yn ogystal â gweithdy Sally a Kay, bydd yr Uned yn cynnig sesiynau a gweithdai yn ystod yr wythnos.



Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi. 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.