Gŵyl Fach: Asesu – 17 Mai – 21 Mai

Distance Learner Banner

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei gŵyl fach gyntaf. Nod yr ŵyl yw dod â sesiynau hyfforddi a gweithdai a gynigir gan yr Uned ar bwnc penodol ynghyd gyda siaradwr allanol. Ar gyfer yr ŵyl gyntaf, byddwn yn edrych yn benodol ar asesu. Cynhelir yr ŵyl fach rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Gwener 21 Mai ar-lein ar Teams. Gallwch archebu’r sesiynau yr hoffech ddod iddynt ar ein  system archebu ar-lein.

Bydd yr Athro Sally Brown a’r Athro Kay Sambell yn ymuno â ni i siarad am gynllunio asesu ar ôl covid ddydd Llun 17 Mai mewn gweithdy dwy awr am 10.30am. Mae eu papur Writing Better Assignments in the post Covid19 Era wedi’i drafod yn helaeth ar draws y sector ers haf y llynedd.

Yn ogystal â gweithdy Sally a Kay, bydd yr Uned yn cynnig sesiynau a gweithdai yn ystod yr wythnos.

Defnyddio Profion Blackboard:

Mae ymchwil yn dangos bod profion a chwisiau’n gwella dysgu myfyrwyr yn ddramatig. Maent hefyd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer canfod amgyffred a dealltwriaeth myfyrwyr o’u deunydd addysgu.

Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwn yn cyflwyno’r camau ar gyfer creu prawf neu gwis yn eich modiwl, gan egluro sut i gynllunio’r asesiad a’r cwestiwn, yn ogystal â chynnig arweiniad ar y cwestiynau priodol i’w holi.

Cynllunio i Waredu Llên-ladrad

Mae llên-ladrad ac ymarfer academaidd annerbyniol yn feysydd pryder i staff a myfyrwyr addysg uwch. Mae sylw diweddar yn y cyfryngau i bynciau fel melinau traethodau wedi codi’r mater yn ehangach.

Ceir cyfle yn y sesiwn hon i gyfranogwyr drafod sut i ddatblygu asesiadau sy’n ‘cynllunio i waredu llên-ladrad’. Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o asesiad sy’n anoddach i fyfyrwyr ‘dorri a gludo’ gwybodaeth o ffynonellau eraill.

Strategaethau ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr gydag adborth a chynllunio adborth:

Mae sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â’u hadborth yn allweddol i’w cynnydd a’u datblygiad. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar strategaethau ar gyfer adborth yn gysylltiedig â chynllunio asesiadau. I Winstone, “ni chaiff hyd yn oed y safon uchaf o adborth ar waith myfyrwyr effaith ar eu datblygiad oni bai bod myfyrwyr yn ymgysylltu’n weithredol ac yn rhoi’r cyngor ar waith” (2020).  

Ceir 3 rhan i’r gweithdy:

  1. Rhan 1: bydd cyfranogwyr yn adfyfyrio ar y pynciau yng nghyflwyniad Naomi
  2. Rhan 2: cyfle i’r cyfranogwyr werthuso enghreifftiau o adborth
  3. Rhan 3: bydd cyfranogwyr yn ystyried eu harferion adborth eu hunain ac yn sefydlu cynllun gweithredu

Graddio Effeithlonrwydd a Dibynadwyedd – Cynllunio Cyfeirebau Blackboard a Turnitin:

Mae wedi’i ddangos bod cyfeirebau yn gallu gwella dibynadwyedd graddio (Oakleaf, 2009; Thaler, Kazemi, & Huscher, 2009, Timmerman, Strickland, Johnson, & Payne, 2011) yn ogystal â’i gwneud yn haws i fyfyrwyr ddeall eu perfformiad a datblygu sgiliau hunanasesu (Reddy & Andrade, 2010).

Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno sail resymegol dros ddefnyddio cyfeirebau graddio ac yn cyflwyno offer cyfeirebau Blackboard y gellir eu defnyddio ar gyfer marcio aseiniadau, wikis, byrddau trafod, profion ac offer arall ar Blackboard. Mae hefyd yn cynnwys amser ‘gweithdy cyfeireb’ sy’n gadael i staff gynllunio neu ailedrych ar eu cyfeirebau ar sail yr egwyddorion arfer da a gyflwynir.

Cynllunio Addysgu ac Asesu Ymochrol:

Mae addysgu ymochrol yn uchel ar agenda addysg uwch y DU, fel y nodwyd yn UK Quality Code, Advice and Guidance: Assessment (2018) yr ASA. Mae ein gweithdy rhyngweithiol yn adeiladu ar yr egwyddorion hyn a ddatblygwyd gan Brown a Sambell ac yn cynnig cyfle i chi eu cymhwyso i’ch modiwlau eich hun. Er mwyn cael y gorau o’r sesiwn, bydd angen i chi gyflawni tasg baratoadol fer.

  • Dewiswch un neu ddau ddeilliant dysgu o’ch modiwlau chi a’u e-bostio i mhj@aber.ac.uk erbyn 13 Mai fan bellaf.
  • Os oes gennych amser, darllenwch erthygl Brown and Sambell ymlaen llaw.

Byddwn yn crynhoi eich deiliannau dysgu, eu diwygio fel bo angen a’u defnyddio fel sail ar gyfer gweithgaredd cydweithredol byw. Yn ystod y sesiwn, bydd yr holl grŵp yn dewis o restr o ddeilliannau ac yn cynllunio asesiadau ymochrol gyda syniadau am feini prawf marcio.

Cynllunio Asesiadau Di-bryder

Mae pryder am asesiadau’n gysylltiedig â pherfformiad is ac yn bwysicach gall niweidio iechyd meddwl myfyrwyr. Nododd adolygiad diweddar o’r llenyddiaeth ar bryder am asesiadau addysg fod nodweddion o’r asesiad ei hun yn gallu effeithio ar faint o bryder mae myfyrwyr yn ei brofi (Howard, 2020).

Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar achosion pryder am asesiadau a ffyrdd y gellir eu trin wrth gynllunio a gweithredu asesiadau. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd pob cyfranogwr yn gallu gwneud newidiadau bach i’w hasesiadau cyfredol ac yn y dyfodol i leddfu pryder myfyrwyr.

Defnyddio Panopto ar gyfer Aseiniadau:

Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod proses gosod aseiniadau yn Panopto a’u defnydd a rheolaeth effeithiol yn Blackboard. Byddwn hefyd yn edrych ar ystyriaethau cynllunio aseiniadau.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*