Rhwydfoesau – Cyfleu eich disgwyliadau ar gyfer cyfranogi ar-lein

Distance Learner Banner

Mary Jacob, Darlithydd Dysgu ac Addysgu, UDDA

Ystyr y gair ‘Rhwydfoesau’ yw’r moesau sy’n addas ar gyfer rhyngweithio ar y rhyngrwyd. Yn yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu, mae staff yn aml yn holi am ganllawiau priodol i fyfyrwyr wrth ryngweithio ar-lein.

Does dim un agwedd benodol at rwydfoesau sy’n addas i bawb. Gan fod senarios addysgu gwahanol yn galw am ganllawiau gwahanol, bydd angen i chi benderfynu ar y rheolau mwyaf priodol i’ch myfyrwyr chi. Rydym wedi llunio’r ddogfen hon i’ch helpu i wneud y penderfyniadau hynny wrth addysgu’n gydamserol (e.e. drwy Teams) ac yn anghydamserol (e.e. byrddau trafod) yn defnyddio rhyngweithio llafar a/neu ysgrifenedig.

Os gallwch egluro eich disgwyliadau i’ch myfyrwyr, bydd hynny’n rhoi hyder iddynt ac yn lleddfu unrhyw broblemau posibl. Dyma ein hawgrymiadau allweddol:

  • Awgrym 1: Eglurwch eich disgwyliadau o’r dechrau ac atgyfnerthwch nhw fel bo angen. Efallai nad yw’r hyn sy’n amlwg i ni mor amlwg i’n myfyrwyr. Mae dweud wrthyn nhw beth rydym ni’n ei ddisgwyl yn helpu myfyrwyr i ymddwyn yn briodol a dysgu’n well.
  • Awgrym 2: Peidiwch â newid y rheolau ar ôl dechrau. Gallai newid y rheolau ar ôl i’r modiwl ddechrau beri dryswch. Gall rhagweld problemau posibl ymlaen llaw ein helpu i’w hosgoi.
  • Awgrym 3: Byddwch yn deg ac yn gynhwysol. Efallai nad yw’r rhagdybiaethau a wnawn yn delio â’r holl heriau mae ein myfyrwyr yn eu hwynebu. Mae ystyried eu cefndiroedd ac anghenion amrywiol yn ein helpu i gynnwys pawb.
  • Awgrym 4: Modelwch ymddygiad ar-lein da. Gallwn ni fod yn fodel rôl pwerus drwy ymarfer yr un pethau ag ydym ni am i’n myfyrwyr eu gwneud.

Egwyddorion rhwydfoesau cyffredin

Mae rhai egwyddorion yn gyffredin ar draws pob senario, fel trin eich gilydd â pharch. Mae Nettiquette: good online behaviour at UCL yn trafod y pwnc hwn yn drylwyr, gan gynnig arweiniad i staff a myfyrwyr gydag enghreifftiau y gallwch chi eu haddasu. Mae gan 14 Great Tips for Student Nettiquette gan Online Study Australia fideo 10 munud defnyddiol wedi’i anelu at fyfyrwyr.

Rwyf i wedi drafftio’r geiriad isod ar sail themâu cyffredin yn y llenyddiaeth ar rwydfoesau. Mae croeso i chi ei ddefnyddio fel man cychwyn a’i addasu wrth ysgrifennu canllawiau i’ch myfyrwyr chi:

  1. Trin pobl eraill â pharch. Rydym ni am i’n sesiynau ar-lein fod yn lle diogel a pharchus i bawb. Ystyriwch eich tôn a’ch geiriau wrth wneud cyfraniadau ar-lein.
  2. Cyfathrebu’n glir. Mae’n hawdd camddeall cyfathrebu ar-lein. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall pobl eraill yn iawn cyn i chi ymateb, a bod eich geiriau chi’n ddigon clir fel na fydd pobl eraill yn eu camddeall.
  3. Cydnabod cyfraniadau pobl eraill. Rydym ni’n gobeithio meithrin cymuned ddysgu lle rydym ni’n dilysu ein cyfraniadau ein gilydd ac yn eu datblygu’n adeiladol. Wrth ryngweithio ar-lein, gallwch gyfrannu drwy ddiolch yn benodol i eraill, mynegi eich cytundeb ac ati.
  4. Gofyn caniatâd. Os ydych chi’n dymuno defnyddio neu ddyfynnu rhywbeth mae rhywun arall wedi’i ddweud, gofynnwch am ganiatâd yn gyntaf gan gydnabod y ffynhonnell fel y byddech yn ei wneud gyda llyfrau ac erthyglau.

Penderfyniadau ar rwydfoesau mewn senarios penodol

Bydd rhai elfennau o rwydfoesau yn amrywio, gan ddibynnu ar eich senario addysgu. Pa broblemau posibl y gallech chi a’ch myfyrwyr eu hwynebu? Bydd gwneud y penderfyniadau hyn ymlaen llaw yn helpu i osgoi problemau yn y dyfodol.

PenderfyniadRhesymau dros ddewis NARhesymau dros ddewis IE
Rhaid i fyfyrwyr godi llaw cyn siaradNa – Mewn grwpiau llai, gall peidio â gofyn iddyn nhw godi llaw helpu i greu awyrgylch anffurfiol, agored.Ie – Mae’n cadw’r sgwrs yn drefnus, yn enwedig mewn grwpiau mwy o faint. Mae’n helpu i osgoi sefyllfaoedd lle mae un neu ddau fyfyriwr yn tra-arglwyddiaethu’r sgwrs.
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio gwe gamerâu Na - Efallai fod gan fyfyrwyr resymau dilys dros beidio â defnyddio gwe gamera. Er enghraifft, gallen nhw deimlo’n fwy cyfforddus yn cyfrannu heb we gamera os ydyn nhw ar y sbectrwm awtistig, yn profi gorbryder, neu ag anableddau eraill. Efallai nad ydyn nhw am ddangos eu hamgylchedd ddysgu. Gall diffodd eu gwe gamera helpu myfyrwyr sydd â chyswllt gwe cyfyngedig.Ie – Fel athro, gallwch ddarllen iaith eu corff yn haws. Gallwch weld faint o ddiddordeb maen nhw’n ei ddangos. Gall helpu myfyrwyr i gysylltu â’u cymheiriaid yn haws.
Annog myfyrwyr yn benodol (ond nid eu gorfodi) i ddefnyddio eu gwe gamerâuAmherthnasol – Does dim rheswm da i beidio â’u hannog, os nad yw’n orfodol. Ie – Mae mwy o fyfyrwyr yn debygol o ddefnyddio eu gwe gamera os ydych chi’n annog hynny’n benodol. Mae peidio â gwneud hyn yn orfodol yn rhoi grym iddyn nhw ac yn gadael iddyn nhw ddewis heb orfod egluro eu rhesymau.
Strategaethau defnyddiol:
Eglurwch sut rydych chi’n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio’r teclyn sgwrsio. Cydnabyddwch y sylwadau yn y sgwrs ar lafar yn y brif drafodaeth. Mae hyn yn dilysu eu cyfraniadau, yn meithrin hyder, ac yn cyfuno’r sgwrs gyda’r drafodaeth lafar.
Annog myfyrwyr i ddefnyddio’r teclyn sgwrsio yn ystod sesiynau byw Na - Gan ddibynnu ar faint a dynameg y grŵp, gall hyn arwain at sgwrs ymylol gyfochrog sy’n tynnu sylw myfyrwyr oddi ar y brif drafodaeth. Os ydyn nhw’n rhy brysur yn y sgwrs, gallen nhw golli pwyntiau allweddol a gaiff eu trafod ar lafar.Ie – Mae’n helpu myfyrwyr mwy tawel i gyfrannu mwy. Mae’n gadael i fyfyrwyr ail iaith a dyslecsig baratoi eu cyfraniadau heb bwysau amser. Gall helpu myfyrwyr sydd â chyswllt gwe cyfyngedig.

Strategaethau defnyddiol:
Eglurwch sut rydych chi’n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio’r teclyn sgwrsio. Cydnabyddwch y sylwadau yn y sgwrs ar lafar yn y brif drafodaeth. Mae hyn yn dilysu eu cyfraniadau, yn meithrin hyder, ac yn cyfuno’r sgwrs gyda’r drafodaeth lafar.
Recordio’r sesiwn fywNa – Gall recordio sesiwn drafod greu pryder a llesteirio cyfranogiad myfyrwyr. Gan ddibynnu ar y cynnwys, gallai fod yn amhriodol recordio cyfraniadau llafar myfyrwyr. Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dibynnu ar wylio’r recordiad yn hytrach na dod i’r sesiwn ac felly ymgysylltu’n llai.Ni argymhellir hyn – Nid ydym yn argymell recordio sesiynau trafod.

Gweler Canllawiau ar recordio seminarau a gweithgareddau Teams a Diogelu a Chyflwyno Gwasanaeth o Bell ar dudalen Cefnogi eich Addysgu yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu.
Rhaid defnyddio iaith academaidd ffurfiol mewn cyfraniadau ysgrifenedig Na – Os ydych chi’n caniatáu pethau fel iaith anffurfiol, defnyddio emojis, a goddefgarwch uchel i typos a mân wallau iaith, gall greu amgylchedd anffurfiol cadarnhaol a helpu i feithrin cydlyniad y grŵp ac ymdeimlad o berthyn.Ie – Mae’n gyfle i chi ddarparu adborth ffurfiannol ar waith sydd heb ei asesu i helpu myfyrwyr i wella perfformiad yn yr asesiad crynodol. Gall helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion da mewn ysgrifennu academaidd.

Wrth benderfynu, ystyriwch: Pa un sydd bwysicaf i’ch gweithgaredd penodol - iaith ffurfiol gywir neu gael myfyrwyr sy’n ymgysylltu â’r syniadau a’r cynnwys?

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*