Beth arall y gallem ei wneud i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddysgu? (yn ôl y myfyrwyr eu hunain!)

Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau ‘Gwnewch y gorau o’ch dysgu ar-lein’ i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal â Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i’r holl fyfyrwyr yn fuan); a’r Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr.

Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i ofyn i fyfyrwyr: ‘Beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi wrth ichi ddysgu?’. Hoffem rannu â chi rywfaint o’r adborth a gawsom, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gellid ymdrin â’r rhain:

Estyniadau i aseiniadau 

Er nad yw hyn yn rhywbeth y gall y staff dysgu ei ddatrys, gallai fod yn fuddiol cynnwys dolen i’r wybodaeth am Estyniadau i Waith Cwrs ynghyd â’r wybodaeth arall am asesiadau.

Strwythur clir 

Crybwyllodd rhai myfyrwyr y ffaith eu bod wedi cael anhawster wrth lywio’u ffordd drwy eu llwyth gwaith o safbwynt dysgu ar-lein, a’r angen am strwythur cliriach o ran sut a phryd y bydd y cynnwys yn cael ei ryddhau iddynt. Felly, hoffem annog staff i gynnwys tabl byr ac ynddo ddyddiadau rhyddhau cynnwys (gellir ei gynnwys yng Ngwybodaeth y Modiwl), a chadw at ddyddiadau ac amseroedd y seminarau a’r sesiynau byw a amserlennwyd.

A table showing dates on each content being released on Blackboard

Y modd y mae gweithgareddau ystafelloedd trafod yn cael eu dylunio 

Rydym yn falch gweld cynifer o aelodau o staff yn gwneud defnydd da o nodwedd newydd yr ystafelloedd trafod yn MS Teams. Mae rhai myfyrwyr wedi awgrymu y gallai dyluniad rhai gweithgareddau ystafell drafod fod yn fwy clir. Mynnwch gip ar ein blog ar Awgrymiadau ar gyfer addysgu gydag Ystafelloedd Trafod.

Canolbwyntio 

Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn ei chael hi’n anoddach canolbwyntio wrth ddysgu ar-lein. Un ffordd o oresgyn hyn fyddai annog eich myfyrwyr i wneud nodiadau trwy gydol y sesiwn (Sut gallaf wneud nodiadau yn y dosbarth?) a chynnwys mwy o weithgareddau sy’n gofyn iddynt gymryd rhan yn weithredol. 

Casgliadau o dechnegau a gweithgareddau asesu yn yr ystafell ddosbarth:

Cydbwyso astudiaethau a bywyd 

Mae’n anodd inni gyd geisio cael y cydbwysedd hwn dan yr amgylchiadau presennol, ond gallai fod yn fuddiol annog y myfyrwyr i edrych ar y canllaw hwn sy’n cynnwys cyngor ar sut i barhau i fod yn drefnus ac yn llawn ysgogiad.

Cyfleoedd i siarad â’u tiwtor 

Mae myfyrwyr wir yn gwerthfawrogi’r oriau cyswllt gyda’u tiwtoriaid. Os oes modd, efallai y byddai’n werth trefnu sesiwn ‘cadw cyswllt’ ar ryw adeg yn ystod eich modiwl, neu ailadrodd sut y gall myfyrwyr drefnu apwyntiad â chi.

Bod ar wahân 

Nid yw’n syndod bod y myfyrwyr wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy unig a heb gyfle i gymdeithasu. Gallai fod yn syniad da annog eich myfyrwyr i greu grŵp astudio a bwrdd trafod ar gyfer y dosbarth er mwyn rhoi mwy o gyfle iddynt gefnogi ei gilydd wrth iddynt ddysgu. Gallai fod yn fuddiol hefyd annog myfyrwyr i ymweld â gwefan Undeb y Myfyrwyr i weld pa gefnogaeth sydd ar gael ganddynt ac i weld y gweithgareddau cymdeithasol y maent yn eu cynnal.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*