Crynodeb o Weithdy Kate Exley

Y mis diwethaf bu i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahodd Dr Kate Exley i gynnal gweithdy i staff Prifysgol Aberystwyth ar sut i symud eich darlith (PowerPoint) ar-lein.

Bu’r rhai fu’n cymryd rhan yn cynnig llu o strategaethau defnyddiol i ennyn diddordeb y myfyrwyr wrth ddysgu ar-lein. Rydym wedi crynhoi rhywfaint o’r drafodaeth isod.

Dylunio’r Dysgu:

  1. Strategaethau syml oedd fwyaf effeithiol, megis defnyddio dogfen Word a’i llwytho i’r sgwrs
  2. Defnyddio meddalwedd cynnal pleidlais i gynnwys y myfyrwyr wrth iddynt ddysgu
  3. Cynnwys gweithgareddau i dorri’r iâ er mwyn creu’r cyswllt cyntaf
  4. Mewn sesiynau hwy, gosod tasg a chynnwys amser ar gyfer cael egwyl o’r sgrin
  5. Cynnwys tasgau i’r myfyrwyr eu gwneud ymlaen llaw, a defnyddio’r sesiynau byw i atgyfnerthu eu gwybodaeth
  6. Cynnwys tasgau cymdeithasol yn ogystal â thasgau ffurfiol
  7. Mae un adran yn cynnal gweithdai diwrnod o hyd â’r opsiwn i gynnwys yr aelod o staff yn y sesiwn trwy gyfrwng y ffôn oes ganddynt unrhyw gwestiynau
  8. Cadw at un neu ddau o weithgareddau ar raddfa fawr mewn sesiwn 40 munud
  9. Bod yn ymwybodol y gall myfyrwyr fod yn dod i’r sesiwn fyw heb fod wedi gwneud yr holl dasgau ymlaen llaw
  10. Defnyddio offer cydweithredol megis dogfen a rennir, bwrdd gwyn neu Padlet i greu nodiadau ar y cyd
  11. Bod yn fwy anffurfiol mewn darlithoedd sy’n cael eu recordio
  12. Cynnig sesiynau galw heibio byw bob wythnos lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau a chael atebion iddynt
  13. Gofyn i fyfyrwyr gwrdd mewn grwpiau oddi allan i’r gweithgareddau ar yr amserlen
  14. Rhannu enghreifftiau / astudiaethau achos o fywyd go iawn wrth ddysgu, a gofyn i fyfyrwyr gyfrannu eu henghreifftiau eu hunain
  15. Gofyn i fyfyrwyr chwilio am bethau / ymchwilio yn y sesiwn fyw

Cyfarfodydd Teams ac Ystafelloedd Trafod:

  1. Defnyddio emojis yn y sgwrs er mwyn gofyn i fyfyrwyr roi eu barn
  2. Ebostio myfyrwyr ymlaen llaw â’r dogfennau y byddant yn eu defnyddio yn yr ystafelloedd trafod, er mwyn arbed amser yn y sesiwn
  3. Enwebu arweinydd ar gyfer pob ystafell drafod er mwyn arwain y drafodaeth ac adrodd yn ôl i’r brif sesiwn
  4. Defnyddio Teams ar gyfer partïon gwylio er mwyn helpu i greu’r ymdeimlad hwnnw o gymuned – gallai fod yn sgwrs TED, yn rhaglen deledu neu’n ffilm. Anfonwch y ddolen at fyfyrwyr a gofyn iddynt ddechrau’r recordiad ar yr un pryd a defnyddio sgwrs Teams er mwyn iddynt wneud sylwadau mewn amser real
  5. Dechrau gweithgaredd ystafell drafod yn gynnar mewn sesiwn fyw er mwyn annog y myfyrwyr i gymryd rhan
  6. Defnyddio seibiau
  7. Gofyn i fyfyrwyr gynnal ystafelloedd trafod neu sesiynau byw
  8. Gwneud yn siŵr mai chi yw’r olaf i adael y cyfarfod Teams
  9. Dechrau cyfarfod Teams yn gynnar er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr sgwrsio yn anffurfiol cyn i’r sesiwn ddechrau

Mae gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu lawer o ddigwyddiadau a siaradwyr allanol ar y gweill. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf amdanynt trwy gyfrwng ein blog.

Y digwyddiad mawr nesaf y byddwn yn ei gynnal yw ein Cynhadledd Fer: Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm ar 25 Mawrth. Gallwch archebu eich lle yn ein Cynhadledd Fer trwy lenwi’r ffurlen ar-lein hon. 

One thought on “Crynodeb o Weithdy Kate Exley

  1. Pingback: Yr adnoddau sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*