Gweithgareddau Cynefino Vevox

Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â hwyluso dysgu ac addysgu rhyngweithiol, gellir defnyddio Vevox i greu gweithgareddau cynefino diddorol i fyfyrwyr.

Dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau cynefino i groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd yn ôl i’r campws.

1. Cwmwl Geiriau

Mae Cymylau Geiriau yn rhyngweithiol ac yn ddienw – felly gall myfyrwyr gymryd rhan heb deimlo fel eu bod yn gorfod ateb ‘yn y fan a’r lle’. Po fwyaf o gyfranogwyr sy’n dewis gair mewn ymateb i’r cwestiwn neu’r ysgogiad, y mwyaf y bydd y gair yn ymddangos ar y sgrin.

Gellir defnyddio Cymylau Geiriau ar gyfer cwestiynau ‘Dod i Adnabod eich Gilydd’, megis o ble mae’r myfyrwyr yn dod, hoff ddiddordebau, pa gwrs maen nhw’n ei astudio, neu hyd yn oed i gael syniad cyffredinol yn unig o sut mae myfyrwyr yn teimlo. Nerfus? Ofnus? Cyffrous? Gall dechrau yn y brifysgol sbarduno pob un o’r teimladau hyn, a mwy. Mae cwmwl geiriau yn gadael i’r myfyrwyr gyflwyno gair yn ddienw a gweld sut mae eraill yn eu carfan yn teimlo hefyd.

2. Pinio Delwedd

Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i gyfranogwyr bwyntio at rannau penodol o ddelwedd. Un syniad fyddai defnyddio delwedd o fap a gofyn i fyfyrwyr binio eu tref neu wlad enedigol ar y map. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn enwedig, mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod i adnabod eraill o leoedd tebyg a chwrdd â phobl newydd o bob cwr o’r byd – yn ogystal â dangos cyrhaeddiad byd-eang y brifysgol.

3. Pleidlais Amlddewis neu Gyfatebol

I fyfyrwyr newydd, gall hyn fod yn ffordd dda o fesur eu dealltwriaeth o’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn y brifysgol. Mae hefyd yn nodi bylchau mewn gwybodaeth ac yn helpu staff i ddeall beth sy’n cael ei gyfleu’n glir i fyfyrwyr newydd a’r hyn nad yw’n cael ei gyfleu’n glir, os ydyn nhw’n cymryd y cyfan i mewn, neu os ydynt wedi’u llethu’n llwyr! Mae pleidlais Amlddewis neu Gyfatebol yn gadael i’r myfyrwyr ddewis o gyfres o opsiynau (gan wneud pethau ychydig yn haws iddynt).

Gellid defnyddio’r nodwedd hon hefyd i greu cwis am Aberystwyth – Dewch i Adnabod y Dref! Ffordd ryngweithiol o ddysgu ychydig mwy i fyfyrwyr am yr hyn sydd gan Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos i’w cynnig – siopau coffi poblogaidd, ble i fynd am dro neu deithiau cerdded (digon o opsiynau), y mannau gorau i wylio’r machlud ar y prom (DIGON o opsiynau). Awgrym: Gofynnwch i’r myfyrwyr weithio mewn timau i helpu i annog sgwrs.

4. Holi ac Ateb Dienw

Mae gan Vevox hefyd nodweddion nad ydynt yn ymwneud â phleidleisio, gan gynnwys bwrdd holi ac ateb dienw sy’n caniatáu i gyfranogwyr anfon cwestiynau a ‘hoffi’, neu ‘uwchbleidleisio’, y cwestiynau gan eraill y maent am eu hateb fwyaf. Mae hon yn ffordd effeithiol o dderbyn ac ateb cwestiynau gan fyfyrwyr a allai fod ychydig yn rhy swil i’w lleisio’n uchel, ac i weld pa bynciau sy’n cael eu codi’n aml gan y myfyrwyr.

Gallwch ddidoli’r cwestiynau yn ôl hoff bethau i arddangos y cwestiynau mwyaf poblogaidd yn gyntaf a gwneud yr holi ac ateb yn fwy effeithiol a diddorol.

——————

Dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi ymgorffori Vevox yn eich gweithgareddau cynefino i fyfyrwyr, ond mae cymaint mwy i’w archwilio yn Vevox. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Vevox a’r nodweddion sydd ar gael, ewch i’n tudalen we ac edrychwch ar ein Canllaw Defnyddio Vevox i Addysgu.

I ddysgu mwy am ddefnyddio Vevox i addysgu, mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn cynnig sesiynau hyfforddi. Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, edrychwch ar ein post blog croeso i aelodau newydd o staff.

Mae Vevox hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi am ddim i’ch helpu i feithrin gwybodaeth am y llwyfan a dealltwriaeth o arferion da. Gallwch ddod o hyd i’r Hyfforddiant Vevox yma.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*