Croeso cynnes i’r myfyrwyr sydd newydd ymuno â ni ac i’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau i’n hamgylchedd dysgu digidol, Blackboard, ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2026-27.
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sydd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae gennym hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill rydym yn cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.
Datganiad Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Ar draws y brifysgol, mae yna ofynion newydd ar gyfer datgan y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn aseiniadau yn ystod blwyddyn academaidd 2026-27. Disgwylir bellach i fyfyrwyr gynnwys y Datganiad-Defnyddio-Offer-AI hwn ar ddiwedd eu haseiniadau. Mae’r datganiad ar ffurf tabl ticio blychau ac mae’n gofyn i fyfyrwyr ddatgan pa fathau o offer a ddefnyddiwyd i’w cynorthwyo gyda’u haseiniad.
Vevox
Vevox yw offeryn pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Mae Vevox yn cynnig profiad rhyngweithiol a chydweithredol i ddysgwyr ac addysgwyr, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau megis polau piniwn neu roi cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn ac ateb cwestiynau. Gan fod Vevox yn cael ei ddefnyddio ar draws y brifysgol, rydym yn annog myfyrwyr i ddod â dyfais symudol neu dabled i’w dosbarthiadau er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau Vevox.
Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard
Yn ddiweddar, cyflwynwyd diweddariad sy’n galluogi integreiddio Turnitin i Aseiniadau Blackboard ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod 2026-27 rydym yn annog pob aelod o staff sy’n defnyddio Aseiniadau Blackboard ar hyn o bryd i alluogi Turnitin ar aseiniadau priodol. Bydd y prosesau cyflwyno, marcio ac adborth yr un fath ag o’r blaen. Bydd pob agwedd ar y broses, heblaw am yr adroddiad Turnitin, ar gael yn y Gymraeg. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sefydlu a defnyddio Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard yn ein Canllaw. Am ragor o wybodaeth am Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard, edrychwch ar ein blogbost.
Blackboard Ally
Yn dilyn y cynnydd ar wella’r sgôr hygyrchedd isafswm ar bob modiwl llynedd, mae gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod cynnwys mor gyson â Blackboard Ally â phosibl. Mae Blackboard Ally yn offeryn sydd ar gael i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella hygyrchedd deunyddiau a chynnwys ar Blackboard. O safbwynt yr addysgwr, mae Ally yn cynnwys nodweddion sy’n galluogi asesu hygyrchedd deunyddiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer fformatau amgen i wella unrhyw feysydd gwan. O safbwynt y myfyriwr, mae Ally yn cynnig nifer o offer i wneud cynnwys yn haws ei ddarllen, ei ddeall ac er mwyn rhyngweithio.
Rhagenwau
Ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, mae integreiddiad wedi’i ddatblygu rhwng Cofnod Myfyriwr a Blackboard. Mae hyn yn golygu y bydd y rhagenwau a ddewiswch yn Cofnod Myfyriwr yn cael eu diweddaru’n awtomatig yn Blackboard. Bydd gwelededd mwy amlwg i fynegiant rhywedd staff a myfyrwyr yn atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i amrywiaeth rhywedd a chynhwysiant, yn y dosbarth ac ar-lein.
Mynediad at Gyrsiau
Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at eu cyrsiau Blackboard unwaith y byddant wedi cwblhau eu cofrestriad. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhagor o fanylion am y broses gofrestru.
