Mae Samantha Wynne-Rhydderch, ein cymrawd o’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn dychwelyd i Aberystwyth o 7 Hydref.
Mae Samantha yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, am ddim i helpu i wella sgiliau ysgrifennu myfyrwyr.
Gallwch helpu i roi cyhoeddusrwydd i wasanaeth – cysylltwch yr eitem yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu am y Gronfa Lenyddol Frenhinol â’ch cyrsiau Blackboard:
- Eitem Saesneg: Improve your academic writing
- Eitem ddwyieithog: Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd / Improve your academic writing
- Eitem yn Gymraeg: Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd
A pheidiwch ag anghofio bod croeso hefyd i staff drefnu apwyntiad gyda Samantha.
Dyma’r wybodaeth yn y Gwrthrychau Dysgu:
Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd eleni gyda Chymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne-Rhydderch. I wneud apwyntiad, anfonwch e-bost i gael dolen archebu: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu
Mae croeso i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw lefel astudio (o fyfyrwyr y flwyddyn 1af i fyfyrwyr ôl-raddedig) – a staff – drefnu sesiwn.
Mae Cymrodorion Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awduron proffesiynol, cyhoeddedig a’u swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mewn sesiynau un-i-un, gall Samantha eich helpu i:
- Strwythuro eich dadl
- Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
- Ailysgrifennu a golygu
- Cynllunio a rheoli amser
- Ymdrin â chyfrif geiriau
- Meddwl yn feirniadol
- Aralleirio

Mae Samantha’n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Hugh Owen ar ddydd Mercher ac yn Adeilad Llandinam ar ddydd Iau.
Noder nad yw Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) na TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor).
Noder: Mae sesiynau Samantha yn Saesneg. I siarad â thiwtor sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth academaidd 1:1, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, ted@aber.ac.uk
