Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:
- Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng
- Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd
- Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy
- Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau
- Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)
- Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)
- Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)
- Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell
- Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr
Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng
Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.
Hyfforddwyr
O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:
- Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.
- Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.
- Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp.

Delwedd 2: Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith.

Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd
Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.
Hyfforddwyr
Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred. Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.
Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.
Dyma rai pethau i’w nodi:
- Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.
- Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig. Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.
Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.

Delwedd 2: Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000.

Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy
Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.
Hyfforddwyr a myfyrwyr
Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:
- Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr.
- Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.
- Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.
- Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.
- Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.
- Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.
Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.
Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau
Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.
Hyfforddwyr a myfyrwyr
Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:
- Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf.
- Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.
Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.
Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)
Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.
Ceir erthygl ar wahân gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn , ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i’w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.
Allforio banciau cwestiynau
Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.
Hyfforddwyr
O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.
Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:
- Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.
- Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr.
- Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs.
Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu.

Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig
Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis.
Hyfforddwyr
Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu. Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.
Myfyrwyr
Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.
Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn. Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.
Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol.
Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell
Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.
Bwriad y newidiadau hyn yw:
- Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs.
- Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol.
- Gwella cysondeb a pherfformiad.
- Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau.
Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth.
Llywio cynnwys tudalen lawn
Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.
Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle.
Delwedd 1: Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.

Briwsion bara i ddangos y cyd-destun
Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.
Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol. Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.
Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.
Delwedd 2: Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi.

Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys
Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.
Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.
Delwedd 3: Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.

Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr)
Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.
Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.
Mae’r nodwedd yn:
- Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau.
- Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb.
- Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.
- Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.
Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd.
Delwedd 4: Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.

Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr
Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.
Hyfforddwyr
Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad. Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.
Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau. Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.
Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.
Delwedd 1: Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.

Myfyrwyr
Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.
Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.
