
Mae Panopto bellach wedi’i osod yn barod ar gyfer 2026-27. Mae hyn yn cynnwys capsiynau awtomatig.
Capsiynau Awtomatig
Mae capsiynau awtomatig bellach wedi’i osod ar gyfer holl ffolderi 2026-27 yn Panopto. Mae’r iaith ar gyfer y capsiynau yn cyfateb i iaith eich templed cwrs Blackboard.
Ar gyfer cyrsiau dwyieithog, rydym yn argymell creu is-ffolder i ddal y recordiadau ar gyfer un o ieithoedd eich cyflwyniad cwrs (gweler Cwestiwn Cyffredin).
Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso record. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gapsiynau awtomatig ym Mholisi Cipio Darlithoedd PA (adran 12).
Cysylltu â holl Recordiadau Panopto
Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.
Dod o hyd i’ch ffolder Panopto
Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2026-27.
I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
- Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
- Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
- Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:
- Yn y blwch Folder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi
- Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.
Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto
Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:
- Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
- Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad
- Cliciwch ar Holl Fideos Panopto
Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.
