
Mae DA Cynhyrchiol wedi creu her arbennig ar gyfer arferion asesu.
Ar brynhawn dydd Mercher 25 Tachwedd, bydd y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn cynnal digwyddiad arbennig ar arferion gorau gan ganolbwyntio ar ddylunio asesiadau yng nghyd-destun DA Cynhyrchiol.
Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan gydweithwyr i rannu eu harferion asesu arloesol mewn sgyrsiau byr 10–15 munud o hyd.
Rydym yn chwilio am gymysgedd o asesiadau sydd naill ai wedi’u cynllunio i:
- Gynnwys y defnydd o DA Cynhyrchiol neu i
- Atal y defnydd o DA Cynhyrchiol a gwella dilysrwydd asesiadau
Byddai’n wych cael enghraifft o bob adran.
Os hoffech gyflwyno cynnig, llenwch y ffurflen fer hon: Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol: Galwad am Arferion Asesu – Fill out form
Gallwch archebu lle nawr ar gyfer y digwyddiad trwy’r system archebu hyfforddiant staff.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad ar eddysgu@aber.ac.uk.
