
Ydych chi’n ystyried dod i’r gynhadledd Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym mis Medi? Efallai nad ydych erioed wedi mynychu o’r blaen, neu eich bod chi’n newydd i’r brifysgol. Efallai nad ydych chi’n siŵr a fyddai’n ddefnydd da o’ch amser. Gydag ychydig llai na mis i fynd, roeddem am ryddhau blogbost yn amlinellu adborth blaenorol am y gynhadledd.
Wrth gwrs, byddem ni’n dweud mai dyma’r tri diwrnod gorau yn y dyddiadur (ni yw’r trefnwyr!), ond beth mae mynychwyr y llynedd yn ei ddweud?
Bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg adborth gydag unigolion sydd wedi bod i’r gynhadledd. Y llynedd gwnaeth 97% o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg roi sgôr o 4 neu 5 allan o 5 i’r gynhadledd. A dywedodd 90% ei bod yn bodloni eu disgwyliadau.
Yr agweddau ar y gynhadledd yr oedd mynychwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd ei bod yn rhoi cyfle i drafod pynciau cyfredol ym maes dysgu ac addysgu, ac adeiladu cymunedau. Mae’r cymysgedd o siaradwyr mewnol ac allanol yn golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd mewn adrannau eraill yn PA, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU a thu hwnt. A gallwch gwrdd â staff mewn adrannau eraill a allai rannu’r un diddordebau addysgu neu ymchwil â chi. Mae digon o amser yn ystod egwyliau i gwrdd â phobl newydd yn ogystal â dal i fyny â chydweithwyr nad ydych wedi’u gweld ers tro.
Nid yn unig y mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad gwych, ond mae mynychwyr yn dweud ei bod yn cael effaith uniongyrchol ar eu hymarfer addysgu. Trwy bapurau a gweithdai’r gynhadledd, a’r sgyrsiau, dywed staff eu bod yn defnyddio dulliau newydd a ddysgwyd o’r gynhadledd yn eu haddysgu. Ar ôl y gynhadledd y llynedd, dywedodd sawl aelod o staff wrthym eu bod yn mynd i bwyso a mesur defnyddio DA yn eu haddysgu. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gymrodoriaeth AUYmlaen, mae’r gynhadledd hefyd yn ffordd wych o gymryd rhan mewn DPP a myfyrio ar eich ymarfer addysgu.
Un o’r negeseuon a awgrymodd mynychwyr ein bod ni’n ei rhannu’n ehangach yw bod croeso i chi bigo i mewn ac allan o’r gynhadledd. Gwyddom efallai na fyddwch chi’n gallu mynychu ar y tri diwrnod, ond gallwch ddod draw ar gyfer rhai o’r sgyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Ac wrth gwrs, gallwch aros cyhyd ag y dymunwch os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau parhau â’r sgwrs, neu os oes sesiwn arall yn mynd â’ch bryd.
Felly, nid y tîm trefnu yn unig sydd â barn ffafriol am y gynhadledd – mae staff o bob rhan o’r brifysgol yn cytuno ei bod hi’n ffordd dda o gwrdd â chydweithwyr, trafod pynciau addysgu, a dysgu rhywbeth y gallant ei ddefnyddio yn eu haddysgu. Dewch draw ac ymunwch â nhw a darganfod drosoch eich hun. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.
Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein.
