Galwad am Gynigion: 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, 8-10 Medi 2026

Rydym nawr yn gwahodd cynigion ar gyfer y 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 8 Medi a dydd Iau 10 Medi 2026.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Thema’r gynhadledd eleni yw:

Cyd-greu Dyfodol Cynhwysol: Dysgu Hyblyg, Amrywiol sydd wedi’i ysgogi gan Gymhwysedd

Prif feysydd cynhadledd eleni yw:

Creu Cwricwlwm mwy Amrywiol ar gyfer Tegwch ac ymdeimlad o Berthyn

Adeiladu cwricwlwm cynhwysol, dad-drefedigaethol sy’n adlewyrchu hunaniaethau a phrofiadau amrywiol, gan hyrwyddo’r Siarter Cydraddoldeb Hil.

Dysgu Hyblyg ar gyfer Tirwedd sy’n Newid

Cynlluniau dysgu cymysg, cyfunol a hygyrch sy’n cefnogi anghenion amrywiol dysgwyr trwy osod cyflymder, strwythur a thechnoleg feddylgar.

Dysgu sydd wedi’i ysgogi gan Gymhwysedd

Integreiddio sgiliau, nodweddion graddedigion, a chymhwyso cymwyseddau yn y byd go iawn yn glir ac ystyrlon.

Myfyrwyr fel Cyd-grewyr a Chydweithwyr

Cydweithredu dilys rhwng myfyrwyr a staff wrth gynllunio’r cwricwlwm, asesu, ymchwil, a gwneud penderfyniadau.

Mae croeso i staff a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r meysydd uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Felly, nid ydym yn pennu fformat cyflwyno safonol.

Gallwch archebu lle nawr

Mae modd i gydweithwyr archebu eu lle nawr yng Nghynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni. Llenwch y ffurflen archebu hon os gwelwch yn dda.

Llenwch y ffurflen hon erbyn 22 Mai 2026 fan bellaf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).

Cynhadledd Fer: Niwroamrywiaeth – Deunyddiau ar gael

Ar ddydd Mawrth 14 Ebrill, cynhaliodd Taith y Myfyriwr a’r Adran Seicoleg eu cynhadledd fer fwyaf eto!

Croesawyd bron i 100 o fynychwyr o bob rhan o’r Brifysgol ar gyfer diwrnod ysbrydoledig o sgyrsiau a gweithdai.

Roedd y gynhadledd fer yn canolbwyntio ar niwroamrywiaeth: Dechreuodd y bore gyda chyflwyniadau gan 5 siaradwr.

Mae sleidiau PowerPoint a recordiadau o’r cyflwyniadau ar gael ar ein tudalennau gwe.

Yn y prynhawn, roedd gan fynychwyr y dewis i fynychu 5 gweithdy.

Ariannwyd y gynhadledd fer hon gan Swyddfa’r Is-Ganghellor.

Ceir rhai lluniau o’r digwyddiad isod.

Mae ein galwad am gynigion a’n ffurflen archebu bellach yn fyw ar gyfer ein 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (8-10 Medi). Gobeithiwn eich gweld chi yno!

Creu Cyrsiau 2026-27

Blog Banner

Wrth i ni ddechrau symud i gyfnod yr aseiniadau yn semester 2, rydym yn dechrau edrych ar greu cyrsiau yn barod ar gyfer 2026-27.

Byddwn yn creu cyrsiau ar gyfer 2026-27 ddydd Llun 3 Mehefin 2026.

Bydd y cyrsiau ar gael i staff cyn gynted ag y byddwn yn eu creu. 

Ni fydd myfyrwyr yn cael eu cofrestru ar y cyrsiau nes iddynt gwblhau’r broses gofrestru ym mis Medi. 

Yn unol â’r blynyddoedd blaenorol, bydd un templed safonol ar gyfer pob cwrs yn Aberystwyth.  Mae iaith y templed yn dibynnu ar yr iaith gyflwyno yn AStRA.  Os yw’r cwrs yn cael ei gyflwyno 100% trwy gyfrwng y Gymraeg, yna defnyddir templed Cymraeg.  Ar gyfer 1-99% drwy gyfrwng y Gymraeg, defnyddir templed dwyieithog.  Os yw’r cwrs wedi’i gofrestru i’w gyflwyno 0% trwy gyfrwng y Gymraeg, yna defnyddir templed Saesneg. 

Mae ein polisïau Blackboard sef Isafswm Presenoldeb Gofynnol, E-gyflwyno, a Chipio Darlithoedd, wrthi’n cael eu cwblhau ar eu ffurf derfynol. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am greu cyrsiau, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk). 

Croeso, Daniel Bryant – Cydlynydd Addysg Ddigidol

Helo! Mae’n braf cael cyflwyno fy hun yn fy nghyhoeddiad blog cyntaf yn fy rôl newydd. Dan ydw i, ac ymunais â’r Tîm Addysg Ddigidol ar ôl y Pasg fel Cydlynydd Addysg Ddigidol ran-amser. Rwy’n gwneud y rôl ochr yn ochr â fy ngradd PhD gyda’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Symudais i Aberystwyth yn 2022 i ddechrau fy nghwrs ymchwil 1+3 yn y brifysgol. Ar ôl gorffen y rhan hyfforddiant ymchwil o’r cwrs, dechreuais fy PhD yn 2023 ar y pwnc ‘llywodraethiant aml-lefel y maes polisi ail gartrefi’. Yn fy nghyfnod fel myfyriwr ymchwil yma, rydw i hefyd wedi cael profiad defnyddiol iawn fel tiwtor seminar yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac fel Tiwtor Sgiliau Astudio gyda Gwasanaethau Myfyrwyr.

Wrth i mi nesáu at ran olaf fy PhD, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y rôl newydd gyffrous hon. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd mae’r brifysgol wedi’u rhoi imi hyd yn hyn, ac rwy’n frwdfrydig i gael cyfrannu at waith gwych y Tîm Addysg Ddigidol.

Cyn symud i Aberystwyth, astudiais fy ngraddau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio mewn ambell i rol yn y sector gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd. Rydw i o hyd yn talu sylw at wleidyddiaeth, felly byddaf yn cadw llygad barcud ar ymgyrch etholiad Senedd Cymru dros y mis nesaf!

Y tu allan i wleidyddiaeth, mae gen i ddiddordeb mawr yn chwaraeon. Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin, rwy’n gefnogwr brwd o’r Scarlets a chlwb pêl-droed Abertawe. Rydw i hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon fy hun, a dros yr haf byddaf yn defnyddio tirwedd hyfryd Ceredigion i helpu fi hyfforddi ar gyfer y nifer o driathlons rydw i wedi cofrestru amdano fel rhan o’r Gyfres Triathlon Cymru. Y llynedd, gwnes i hefyd penderfynu dychwelyd o ymddeoliad fy ngyrfa rygbi i ymuno â chlwb rygbi Tregaron, lle rwy’n chwarae fel cefnwr.

Pan fydda i eisiau cymryd hoe fwy hamddenol o’r gwaith, rydw i’n mwynhau mynd am dro gyda fy mhartner i weld yr anifeiliaid fferm ger ein fflat yng Ngelli Angharad, neu fynd am dro ar hyd y prom yn Aberystwyth i fwyta hufen iâ.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i nabod mwy o staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf!

Diweddariad Vevox: Ebrill 2026 

Mae Vevox, ein hadnodd pleidleisio, wedi rhyddhau ei nodwedd ddiweddaraf. 

Gweler isod am nodweddion newydd a datblygedig sydd bellach ar gael yn Vevox. 

Ceir hyd i gymorth i ddefnyddio Vevox ar ein tudalennau gwe.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).  

Math o gwestiwn newydd:  Cwestiwn Cyfatebol 

Mae math newydd o gwestiwn ar gael yn Vevox: cwestiwn cyfatebol.  

Mae hyn yn caniatáu i’ch cyfranogwyr baru syniadau gyda’i gilydd. 

Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Polau cyfatebol – Gwefan gymorth Vevox 

Nodwedd newydd: Creu polau cyflym o’r wedd gyflwyno  

Nawr gallwch fewnosod polau yn gyflym yn y wedd gyflwyno. I wneud hyn, cliciwch ar y cwestiwn yn y wedd gyflwyno a dewiswch creu pôl cyflym: 

Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Defnyddio Polau Cyflym (polau ad hoc) – Gwefan gymorth Vevox 

Cynnwys cyflwyniad: Dangos amserydd 

Mae dangos amserydd yn rhoi’r ymarferoldeb i chi gyflwyno amserydd cyfrif yn y wedd gyflwyno.  

Mae hyn yn wych i helpu gyda chyflymder eich sesiwn.  

Gweler canllawiau Vevox ar sut i ychwanegu amserydd i’ch sesiwn: Dangos amserydd – Gwefan gymorth Vevox 

Gwelliannau i gwestiynau cwis DA 

Mae’r gwelliannau canlynol wedi’u gwneud i’r generadur cwestiynau ar gyfer cwis DA yn y datganiad hwn. 

Yn y diweddariad hwn, mae Vevox wedi: 

  • Ychwanegu is-bynciau ar gyfer cwisiau mwy perthnasol â mwy o ffocws 
  • Caniatáu uwchlwytho ffeiliau lluosog ar gyfer ffynonellau cwestiynau 
  • Defnyddio URL gwefan fel ffynhonnell ar gyfer creu cwestiynau 
  • Targedu cynulleidfaoedd penodol 

I gael rhagor o wybodaeth gweler:  Defnyddio nodwedd Cwis DA Vevox – Gwefan gymorth Vevox 

Ymgorffori cyflwyniadau PowerPoint yng ngwedd gyflwyno Vevox 

Gallwch nawr ymgorffori cyflwyniad yng ngwedd cyflwynydd Vevox, sy’n golygu nad oes angen i chi newid tabiau – mae’r PowerPoint wedi’i ymgorffori’n llwyr. 

Addasu nifer y lleoedd degol   

Gellir diwygio nifer y lleoedd degol yn eich gosodiadau pleidleisio. 0 lle degol yw’r rhagosodiad, ond gellir ffurfweddu hyn i ddangos 1 neu 2 le degol. 

Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Creu polau rhifol – Gwefan gymorth Vevox 

Grantiau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr – Digwyddiad Cynnydd Canol Tymor

Y mis diwethaf, roeddem yn falch o groesawu derbynwyr ein Grant Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr i ddigwyddiad. 

Lansiwyd cronfa Grant Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr llynedd yn ein Cynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Nod y digwyddiad oedd darparu gwybodaeth am gynnydd diweddar i’n cydweithwyr ar y prosiectau a’u cefnogwyr, yn ogystal ag i’r panel. Roeddem yn rhannu llwyddiannau ac yn codi unrhyw heriau y mae ein cydweithwyr wedi dod ar eu traws.

Cafwyd cyflwyniad gan bob un o’r pedwar prosiect.

Isod y cewch grynodeb pob prosiect a’r ffeiliau PDF sy’n cyd-fynd â phob cyflwyniad.

Prosiect 1:  Gardd Ffisig Ganoloesol Aber

Dan arweiniad Elizabeth New (Hanes a Hanes Cymru) gyda Sian Nicholas, Eleri Phillips, a phwyllgor llywio myfyrwyr. Nod y prosiect hwn yw creu amwynder awyr agored a fydd yn cefnogi addysg a hamdden i staff a myfyrwyr ar y campws. Mae’r prosiect yn ceisio cyfoethogi profiad dysgu myfyrwyr drwy fentora a chydweithredu ar ymchwil hanesyddol, garddio, a meithrin cyswllt â’r cyhoedd.

Eleri Phillips a gyflwynodd yn y digwyddiad.

Gweler sleidiau Eleri isod.

Prosiect 2:  Datblygu Canolfan Cyfarpar Cynaliadwy i Fyfyrwyr.

Arweinir y prosiect hwn gan Emma Sheppard (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) gyda Toni Beardmore, Eleri Phillips, Morgan Jones, Emma Butler-Wray, Hywel Griffiths, a Tom Holt.

Nod y prosiect hwn yw hybu hygyrchedd, cynhwysiant, a chynaliadwyedd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear drwy ddatblygu ‘llyfrgell pethau’ y gall myfyrwyr eu benthyg a’u defnyddio.

Bydd y llyfrgell yn defnyddio adnoddau ail-law ond mewn cyflwr da, a bydd myfyrwyr yn gallu mynychu ‘caffis atgyweirio,’ a fydd yn sicrhau bod y llyfrgell yn gynaliadwy.

Tom Beardmore ac Eleri Phillips a gyflwynodd yn y digwyddiad. Gweler eu sleidiau isod:

Prosiect 3:  Cynhwysiant a Hygyrchedd wrth Ddylunio Asesiadau ac Arferion Adborth.

Arweinir y prosiect gan Kate Woodward o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm, a Theledu.

Nod y prosiect yw gwirio’r ddealltwriaeth sydd gan fyfyrwyr am rôl adborth, a sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio i’r eithaf ar adborth.

Mae’r adran hefyd yn bwriadu sicrhau bod staff yn gyfarwydd â dulliau rhoi adborth a chreu meini prawf asesu sy’n gynhwysol ac yn garedig.

Maent yn newid ymarferion cyfredol drwy addasu a safoni cyfarwyddiadau, adborth, a meini prawf asesiadau.

Gweler sleidiau Kate o’r digwyddiad isod.

Prosiect 4:  Cyd-dynnu – cefnogi asesiadau gwaith tîm yn fwy effeithiol

Mae Scott Tompsett o Adran y Gwyddorau Bywyd yn cydweithio â Cal Walters-Davies a Caroline White o Wasanaethau Taith y Myfyriwr er mwyn dysgu beth yw’r anawsterau cyffredin i fyfyrwyr o ran gweithio mewn grwpiau.

Maent yn ymchwilio i ddulliau gweithio mewn grwpiau sy’n fwy hygyrch i fyfyrwyr niwroamrywiol.

Maent yn bwriadu datblygu cyfres o adnoddau i fyfyrwyr a’r staff dysgu er mwyn hwyluso gweithio mewn grwpiau’n well. Byddant yn eu profi mewn sawl modiwl.

Scott a gyflwynodd yn y digwyddiad; gweler sleidiau’r cyflwyniad isod.

Y camau nesaf

Rydym yn sicr y byddwch yn cytuno mai prosiectau gwerthfawr yw’r rhain.

Gallwch glywed rhagor amdanynt yn 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr rhwng 08 a 10 Mis Medi.

Gallwch archebu’ch lle yn y gynhadledd nawr, ac mae’r alwad am gynigion bellach yn agor. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein blog ni.

Rydym yn falch iawn o ddatgan y byddwn yn cynnal y Grantiau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eto y blwyddyn nesaf. Cysylltir y grantiau â thema’r gynhadledd ac y byddant ar gael i’r cynadleddwyr.

Mae gwybodaeth bellach am y Grantiau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr ar gael ar ein gwefan.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard Ebrill 2026 

Yn y diweddariad ym mis Ebrill, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:

  • Aseiniadau
    • Dull cyflwyno ar gyfer Aseiniadau
    • Maint ffeil SafeAssign
    • Addasu graddau unigol mewn cyflwyniadau grŵp
  • Profion
  • Sgyrsiau DA
  • Trafodaethau
  • Cyhoeddiadau

Aseiniad Blackboard

Nodi’r dull cyflwyno ar gyfer Aseiniadau

Hyfforddwyr

Wrth greu neu olygu aseiniad, gall hyfforddwyr ddiffinio’r dull cyflwyno disgwyliedig i lywio sut mae myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith. Mae dewis dull penodol o gyflwyno yn symleiddio profiad y myfyriwr ac yn lleihau amwysedd ynghylch yr hyn sy’n ofynnol.

Gall hyfforddwyr ddewis un neu fwy o ddulliau cyflwyno disgwyliedig wrth ffurfweddu aseiniad:

  • Uwchlwytho Ffeil
  • Ychwanegu testun

Yn ddiofyn mae Llwytho ffeiliau i fyny ac ychwanegu testun ill dau wedi’u dewis.

Mae’r dull o gyflwyno a ddewiswyd i’w weld yn y gosodiadau aseiniad a’r manylion y mae myfyrwyr yn eu gweld. Gall hyfforddwyr newid y dull o gyflwyno a ddewiswyd hyd nes y bydd myfyrwyr yn dechrau cyflwyno eu hymdrechion.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis un neu fwy dull o gyflwyno wrth ffurfweddu aseiniad.

Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn cael gwybod am y dull disgwyliedig o gyflwyno ac yn gweld llif gwaith cyflwyno wedi’i optimeiddio ar gyfer y fformat hwnnw.

  • Mae cyflwyno ffeiliau yn dangos parth gollwng ffeiliau pwrpasol lle gall myfyrwyr uwchlwytho, gweld rhagolwg (pan fydd yn cael ei gefnogi), a thynnu ffeiliau.
  • Mae cyflwyno testun yn darparu profiad golygydd testun cyfoethog symlach heb opsiwn atodiad ffeil cyffredinol ac yn cynnwys mynediad i’r Farchnad Gynnwys ar gyfer offer a gefnogir.

Delwedd 2: Mae gan fyfyrwyr lif gwaith cyflwyno wedi’i optimeiddio ar gyfer y dull o gyflwyno a ddewiswyd.

Noder, os ydych chi’n defnyddio Blackboard ar gyfer aseiniadau Panopto, mae angen i chi alluogi Ychwanegu Testun.

Cynyddu terfyn maint ffeil SafeAssign i 25 MB ar gyfer Cyflwyno Uniongyrchol

Mae terfyn maint ffeil SafeAssign ar gyfer Cyflwyno Uniongyrchol wedi cynyddu i 25 MB Mae’r newid hwn yn cefnogi dogfennau mwy sy’n cynnwys delweddau, tablau, a fformatio cymhleth, gan leihau problemau cyflwyno i fyfyrwyr.

Mae cyflwyniadau presennol ac adroddiadau SafeAssign yn parhau i fod yn gwbl gydnaws, ac adolygwyd terfynau system cysylltiedig i sicrhau sefydlogrwydd parhaus.

Addasu graddau ar gyfer ymdrechion myfyrwyr unigol mewn cyflwyniadau grŵp

Mae Graddio Hyblyg wedi’i ymestyn i ganiatáu i hyfforddwyr addasu graddau ymgais ar gyfer myfyrwyr unigol o fewn cyflwyniad grŵp. Mae’r diweddariad hwn yn sicrhau bod graddau ar gyfer cyflwyniadau grŵp yn gallu adlewyrchu cyfraniad unigol pob myfyriwr yn gywir, hyd yn oed pan fo gwaith yn cael ei gyflwyno fel ymgais un grŵp.

Gall hyfforddwyr ddiystyru sgôr ymgais grŵp ar gyfer aelodau unigol y grŵp yn uniongyrchol o’r rhyngwyneb graddio. Mae’r rhyngwyneb yn nodi’n glir pan fo graddau’n wahanol ar draws aelodau’r grŵp, a gellir dileu addasiadau trwy adfer gradd myfyriwr i gyd-fynd â sgôr ymgais y grŵp.

Llun 1: Gall hyfforddwyr addasu graddau ar gyfer myfyrwyr unigol o fewn cyflwyniad grŵp.

Profion

Gwelliannau i gwestiynau amlddewis ac aml-ateb

Gweler isod am newidiadau i gwestiynau amlddewis ac aml-ateb:

  • Ar gyfer y cwestiwn amlddewis, mae nifer diofyn yr opsiynau ateb y gall myfyriwr eu dewis o 4 i 1 wedi’i addasu.
  • Wrth greu neu olygu cwestiwn amlddewis neu aml-ateb, gall hyfforddwyr newid nifer yr opsiynau ateb y gall myfyriwr eu dewis.
  • Mae labeli opsiynau ateb amlddewis yn nhrefn yr wyddor (A, B, C, CH) hefyd wedi’u hadfer.

Sgyrsiau DA

Defnyddio Terfyn ar gyfer Negeseuon

Gall hyfforddwyr nawr arwain hyd sgyrsiau a gefnogir gan DA, gan gynnwys Cwestiynau Socrataidd, trwy osod terfynau ar negeseuon. Mae’r rheolyddion hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall pryd i orffen rhyngweithio a sicrhau bod sgyrsiau’n canolbwyntio ar y gweithgaredd dysgu arfaethedig.

Hyfforddwyr

Pan fydd hyfforddwyr yn ffurfweddu sgwrs DA, gallant osod cap ar nifer y negeseuon i reoli hyd y sgwrs.

Delwedd 1: Gosodiadau terfyn negeseuon ar gyfer sgwrs DA

Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn olrhain nifer yr ymatebion sy’n weddill yn ystod sgwrs trwy label deinamig. Mae’r label yn dangos eicon rhybudd pan fo dau ymateb ar ôl. Ar ôl i’r sgwrs gyrraedd y cap ar nifer y negeseuon, ni all myfyrwyr ychwanegu mwy o ymatebion. Mae’r terfyn negeseuon yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer cyfranogiad a chwblhau.

Delwedd 2: Canllawiau negeseuon myfyrwyr yn ystod rhyngweithio gweithredol.

Trafodaethau

Adolygu’r ddwy set o ddyddiadau cyflwyno ar gyfer Trafodaethau ar draws sawl gwedd yn Blackboard

Mae Blackboard bellach yn dangos y ddwy set o ddyddiadau cyflwyno a gofynion cyfranogiad ar gyfer Trafodaethau ar draws meysydd allweddol y rhaglen. Mae’r gwelliant hwn yn adeiladu ar ychwanegiad diweddar o ail ddyddiad cyflwyno a gofyniad cyfranogiad. Mae gan hyfforddwyr a myfyrwyr ddisgwyliadau cliriach pan fônt yn edrych ar y manylion ynghylch Trafodaethau.

Hyfforddwyr a myfyrwyr 

Pan fydd hyfforddwyr yn creu trafodaeth gyda dau ddyddiad cyflwyno a gofynion cyfranogiad, mae’r ddwy set o ofynion yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs, tudalennau Trafodaethau, gwedd y myfyrwyr a’r hyfforddwyr o’r Llyfr Graddau, a phanel dadansoddi Trafodaethau’r hyfforddwr. Gall myfyrwyr olrhain disgwyliadau trwy gydol y llif gwaith heb lywio’n ôl i’r drafodaeth ei hun.

Delwedd 1: Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dangosir dyddiadau cyflwyno a gofynion cyfranogiad. Ar gyfer pob pwynt mynediad ar gyfer Trafodaethau, dangosir dyddiadau cyflwyno a gofynion.

  • Ar y tudalennau Cynnwys y Cwrs a Thrafodaethau, mae’r ddau ddyddiad cyflwyno a’u gofynion yn ymddangos gyda’i gilydd fel canllaw cyflym.
  • Yng ngwedd Llyfr Graddau’r myfyriwr, mae’r ddau ddyddiad yn ymddangos.
  • Mae hyfforddwyr hefyd yn cael adran Dyddiadau Cyflwyno a Gofynion newydd yn y wedd raddio ar gyfer myfyriwr unigol. Mae’r adran hon yn dangos dyddiadau cyflwyno a chynnydd y myfyriwr o ran pob gofyniad.

Cyhoeddiadau 

Trin delweddau fel dolenni mân-lun mewn negeseuon e-bost Cyhoeddiadau

Mae e-byst Cyhoeddiadau bellach yn dangos delweddau fel dolenni mân-lun yn hytrach nag URL hir. Mae’r diweddariad hwn yn rhoi rhagolwg cliriach i ddefnyddwyr o gynnwys y cyhoeddiad ac yn darparu llwybr uniongyrchol yn ôl i’r cyhoeddiad llawn yn Blackboard. Pan fydd defnyddwyr yn dewis mân-lun, mae’r system yn agor y cyhoeddiad gwreiddiol fel y gallant ei ddarllen gyda chyd-destun llawn.

Hyfforddwyr a myfyrwyr 

Mae e-byst Cyhoeddiadau yn arddangos mân-lun bach ar gyfer pob delwedd y mae hyfforddwyr yn ei chynnwys mewn cyhoeddiad. Mae pob mân-lun yn cysylltu â’r cyhoeddiad yn Blackboard, felly mae defnyddwyr yn dychwelyd i’r cynnwys cyflawn yn hytrach nag agor y ffeil ddelwedd ar ei phen ei hun. Mae hyfforddwyr yn parhau i greu cyhoeddiadau yn yr un modd ag yr oeddent o’r blaen.

Delwedd 1: E-bost Cyhoeddiadau sy’n dangos delweddau fel dolenni mân-lun sy’n agor y cyhoeddiad yn Blackboard.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.

Cynhadledd Fer: Niwroamrywiaeth, Dydd Mawrth 14 Ebrill: Cyhoeddi’r Rhaglen

Ar 14 Ebrill, bydd Taith y Myfyriwr gyda Adran o Seicoleg yn cynnal eu Cynhadledd Fer nesaf, y tro hwn yn canolbwyntio ar Niwroamrywiaeth.

Cynhelir y digwyddiad hwn wyneb yn wyneb.

Rydym yn edrych ymlaen i gyhoeddi ein rhaglen.

Mae’r rhaglen ar gael ar ein tudalennau gwe.

Mae gennym bynciau ar niwroamrywiaeth a DA, niwroamrywiaeth a chyflogadwyedd, a gwella’r addysgu i fyfyrwyr niwroamrywiol ymhlith llawer o bynciau eraill.

Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai yn y prynhawn y gall mynychwyr gofrestru i’w mynychu.

Mae amser o hyd i gydweithwyr gofrestru.

Cofrestrwch drwy’r safle archebu hyfforddiant.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y gynhadledd ar eddysgu@aber.ac.uk

Enillwyr Gwobr Cwrs Eithriadol 2025-26

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Eithriadol eleni.

Llongyfarchiadau i’n cyd-enillwyr:

  • Dr Christopher Phillips o’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am y cwrs buddugol:  IP25320:  Warfare after Waterloo:  Military History 1815-1918
  • Dr Catrin Wyn-Edwards o’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am y cwrs buddugol:  IPM3120:  Race, (Im)mobility, and Incarceration.

Nododd y panel y meysydd isod o ran arferion eithriadol:

  • Ethos cymunedol a gweithgareddau lle bo myfyrwyr yn cyd-greu 
  • Pecynnau seminar gyda chanllawiau clir a deunyddiau ychwanegol i ehangu ar y prif bwnc
  • Ethos y modiwl fel rhan o’r croesawu a chynefino
  • Strwythurau clir a hygyrch i’r modiwlau
  • Amrywiaeth o ffynonellau
  • Amrywiaeth o gyfleoedd asesu ac adborth
  • Ymarferion dewisol ar gyfer datblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a meddwl yn feirniadol
  • Rhestr ddarllen wedi’i threfnu’n wahanol adrannau 
  • Ymgorffori canlyniadau dysgu drwy gydol y cwrs

Llongyfarchiadau i’r rhai a dderbyniodd ganmoliaeth a chanmoliaeth uchel:

Dr Tristram Irvine-Fynn a Dr Hywel Griffiths, yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, am y cwrs GS25520: Glacial and Fluvial Processes a Dr Lara Kipp, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, am y cwrs FM22120: Production Design Skills.  

Yn y 2 gwrs hyn fe gafwyd rhai arferion rhagorol, gan gynnwys gweithgareddau taith maes rithwir arloesol, mecanweithiau adborth myfyrwyr dienw, dylunio asesiadau dilys, ac eglurder ar ddefnyddio DA cynhyrchiol.  Asesir y wobr ar sail pedwar maes:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu
  • Cymorth i’r Dysgwyr

Roedd y cyrsiau o safon mor uchel, ac edrychwn ymlaen at rannu eu harferion â chi maes o law.

Llongyfarchiadau mawr i’r buddugwyr haeddiannol eleni.