Deunyddiau’r Gynhadledd Fer

Cyn y gwyliau, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu eu cynhadledd fer olaf am y flwyddyn.

Defnyddio meddalwedd pleidleisio i gyfoethogi dysgu ac addysgu oedd thema’r gynhadledd. Os nad oedd modd ichi fod yno, mae recordiadau i’w cael ar we-ddalen y Gynhadledd Fer.

Ers i’r Brifysgol gaffael trwydded i feddalwedd pleidleisio Vevox yn gynharach eleni, gwelsom bod llu o gydweithwyr yn gwneud defnydd ohono. Yn semester 1, mae 136 o aelodau staff wedi cynnal 1873 pleidlais a chael 6485 o ymatebion gan fyfyrwyr.

Os hoffech wybod mwy am feddalwedd pleidleisio mae gennym we-ddalen Vevox sy’n rhoi’r holl ganllawiau. Arweiniodd Kate a Jim weminar i Vevox ynglŷn â’n dull o’i weithredu a dulliau cydweithwyr o’i ddefnyddio wrth addysgu. Fe welwch y recordiad ar YouTube, neu mae astudiaethau achos eraill i’w gweld ar wefan Vevox ei hun. Gallwch ddarllen am ddiweddariadau Vevox yn ein blogbost diweddar.

Dechreuodd y gynhadledd gyda sesiwn gan Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer. Rhoddodd Christina olwg i ni ar y dulliau a ddefnyddiodd hi o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio i hybu hyder myfyrwyr a hyrwyddo cynhwysiant.

Nesaf, rhoddodd ein rheolwyr cleientiaid o Vevox, Joe Probert ac Izzy Whitley, ddiweddariad i ni ynglŷn â datblygiadau i feddalwedd pleidleisio Vevox sydd ar ddod a rhai gwelliannau i’r cynnyrch a fydd yn digwydd maes o law.

Yna bu cydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth yn disgrifio’u dulliau hwy o ddefnyddio pleidleisio wrth addysgu. Rhoddodd Dr Maire Gorman, sy’n dysgu yn Ysgol y Graddedigion a’r Adran Ffiseg, ddarlun cyffredinol i ni ynglŷn â’r defnydd y gellir ei wneud o’r feddalwedd pleidleisio wrth addysgu ystadegau, er mwyn hwyluso dysgu gan gymheiriaid a chreu cyswllt ymhlith a rhwng carfannau o gyfoedion.

Nesaf, dangosodd Bruce Fraser Wight, o’r Ysgol Fusnes, sut y bu’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer gweithgarwch i dorri’r iâ. Roeddem yn ddiolchgar i gael clywed gan ddau o fyfyrwyr Bruce ynglŷn â’u profiad o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio.

Yn olaf, amlinellodd Dr Jennifer Wood o’r Adran Ieithoedd Modern sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer dysgu iaith ac ennyn diddordeb myfyrwyr.

Os oes gennych ddulliau diddorol o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ar gyfer blogbost – anfonwch e-bost atom udda@aber.ac.uk.  

Diweddariadau Vevox Rhagfyr 2021

Un o fanteision cael tanysgrifiad sefydliad yw y gallwn ni fanteisio ar welliannau a diweddariadau.

Un o’r gwelliannau diweddar oedd y cwestiwn arddull cwmwl geiriau. Cyn hynny, dim ond un gair y gellid ei gyflwyno i’r cwestiwn arddull cwmwl geiriau, ond nawr gall cyfranogwyr ddarparu cyflwyniadau aml-air yn ogystal â geiriau unigol. Mae cymylau geiriau hefyd yn derbyn nodau nad ydynt yn Saesneg ac emojis.

Mae Vevox hefyd wedi bod yn gweithio ar hygyrchedd y cwestiwn cwmwl geiriau ac mae’r cynllun lliw wedi cael ei ehangu i wella ei arddangosiad.

Rydym yn falch iawn o’r modd y mae cydweithwyr yn defnyddio Vevox. Os ydych chi’n chwilio am syniadau am sut y gallwch ei ddefnyddio i addysgu, gall Kate a minnau gyflwyno gweminar ar ran Vevox. Yn ogystal â rhoi trosolwg o’n cyflwyniad o Vevox ers i ni ei brynu ym mis Mawrth, gwnaethom hefyd amlinellu rhai arferion nodedig gan gydweithwyr:

  • Gwerthuso Modiwlau (Dr Emmanual Isibor a Dr Chris Loftus, Cyfrifiadureg)
  • Cynhyrchu ystadegau (Dr Maire Gorman, Ffiseg ac Ysgol y Graddedigion)
  • Cwestiwn ac Ateb anhysbys (Dr Megan Talbot, y Gyfraith a Throseddeg)
  • Asesu gan gymheiriaid a chysylltiadau geiriau (Dr Michael Toomey, Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Cwestiwn ac ateb Anghydamserol (Dr Victoria Wright, Seicoleg)
  • Pin ar luniau ac effaith sesiwn (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu)

Diolch i’r cydweithwyr uchod am rannu eu harferion a’u profiadau â ni. Mae recordiad o’r weminar ar gael ar YouTube.

Ddydd Iau cynhelir ein Cynhadledd Fer sy’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio i ddatblygu gweithgareddau dysgu ac addysgu. Mae modd archebu lle ar y gynhadledd o hyd. Rydym yn ddiolchgar y bydd Joe ac Izzy o Vevox yn ymuno â ni, yn ogystal â’n siaradwr allanol, Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer.

Mae canllawiau Vevox ar gael ar ein tudalennau gwe. Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen cofrestrwch ar gyfer y sesiynau ‘Zero to Hero’ a gynhelir bob dydd Mawrth am 3yp. Byddwn hefyd yn ail-gynnal ein sesiwn hyfforddi Designing Teaching Activities using Vevox ar 16 Mawrth 2022 am 10yb. Gallwch gofrestru drwy ein tudalen Archebu Cyrsiau.

Cynhadledd Fer: Siaradwr Gwadd

Mini Conference Logo

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r siaradwr gwadd cyntaf i ymuno â ni ar gyfer y Gynhadledd Fer eleni, ‘Defnyddio Meddalwedd Pleidleisio ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu’, yw Dr Christina Stanley.

Teitl sesiwn Dr Stanley fydd Polling to Boost Student Confidence and Promote Inclusivity.

Mae Dr Stanley yn Uwch Ddarlithydd Ymddygiad a Lles Anifeiliaid ac yn Arweinydd Rhaglen MSc ym Mhrifysgol Caer.

Mae modd archebu lle nawr ar gyfer y digwyddiad ar ddydd Iau 16 Rhagfyr ac mae’r Alwad am Gynigion ar agor hefyd.

Cadwch lygaid ar ein blog wrth i ni ryddhau rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.  

Wedi colli ein hyfforddiant Hanfodion Vevox?

Peidiwch â phoeni. Mae Vevox yn cynnal gweminarau ar-lein rheolaidd, felly os nad ydych chi wedi defnyddio ein meddalwedd pleidleisio newydd o’r blaen a’ch bod eisiau canllaw arbennig i ddechreuwyr, cofrestrwch ar gyfer eu gweminar ar-lein Zero to Hero (in 15 minutes!). Cânt eu cynnal ar brynhawniau Mawrth tan ddiwedd mis Tachwedd.

Mae gennym ni hefyd ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar ein gweddalennau Vevox.

Cofiwch ddod i’n cynhadledd fer ddydd Iau 16 Rhagfyr. 

Gwneud addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn rhyngweithiol gyda thechnoleg

Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio’n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i’r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith grŵp yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.

Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu’r drafodaeth grŵp honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at gg@aber.ac.uk. Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.

Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u trafodaethau

Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:

  • Meddwl a rhannu unigol – Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio’n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.
  • Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol – Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i’r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o’r ddarlith. Os ydych chi’n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw’n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu’r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!
  • Trafodaeth grŵp ac adborth – Os ydych chi’n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob grŵp gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i’r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfuno’r dysgu gan bob grŵp yn ystod yr amser yn y dosbarth.
  • Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar ôl addysgu – Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i’r myfyrwyr ar ddechrau’r ddarlith i ysgogi’r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i’w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi’i ddysgu o’r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.

Read More

Gweminar Vevox: ‘Co-creating expectations with Vevox’

Fel rhan o’n tanysgrifiad sefydliadol i Vevox, mae modd i ni fynychu gweminarau a gynhelir gan Vevox. Am 2yp ddydd Iau 30 Medi bydd Vevox yn cynnal gweminar o’r enw ‘Co-creating expectations with Vevox’. Bydd y weminar yn cael ei redeg gan Tom Langston, sy’n arbenigwr Dysgu ac Addysgu Digidol ym Mhrifysgol Portsmouth.

Bydd y weminar yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir defnyddio pleidleisio (digidol ac “analog”) i ennyn cyfranogiad myfyrwyr, cyngor ymarferol ynglŷn â strwythur trafodaethau, a defnyddio’r swyddogaeth Holi ac Ateb fel bod modd i fyfyrwyr rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a gofyn cwestiynau.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar hon ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hyfforddi: Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Vevox, gweler ein tudalennau gwe ar Offer Pleidleisio.

Sesiynau Hyfforddiant Vevox

Vevox logo

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, prynodd y Brifysgol offer Vevox er mwyn cynnal pleidleisiau. Ers hynny, rydym wedi gweld llu o weithgareddau pleidleisio gwych yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau ledled y Brifysgol.

Os nad ydych wedi defnyddio Vevox o’r blaen, neu os hoffech rywfaint o arweiniad, bydd Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddiant ym mis Medi a Hydref: 

  • 9 Medi 11:00-12:00
  • 28 Medi 14:00-15:00
  • 6 Hydref 10:00-11:00

Archebwch eich lle ar ein safle Archebu Cyrsiau.

Cynhelir y sesiwn hyfforddiant hon ar-lein gan ddefnyddio Teams. Anfonir dolen atoch cyn dechrau’r sesiwn.

Am ragor o wybodaeth am Vevox, edrychwch ar ein tudalen ar y we am Offer Pleidleisio Vevox.

Gweminar Vevox: Sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld nifer ohonoch yn ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol – yr eilwaith i ni ei chynnal ar-lein.

Rydym wedi gwneud newid bach i’r trefniadau. Ar 30 Mehefin, 2yp – 2.45yp, byddwn yn cysylltu â gweminar Vevox ar sut i ddefnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox mewn ystafell ddosbarth hybrid:

Yn y weminar ryngweithiol hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio Vevox mewn dosbarthiadau hybrid i gynorthwyo dysgu gweithredol beth bynnag fo lleoliad eich myfyrwyr. Yn ymuno â ni ar y panel mae Carol Chatten, Swyddog Datblygu Technoleg Dysgu ym Mhrifysgol Edge Hill, Dr. Robert O’Toole, Cyfarwyddwr Cynnydd a Phrofiad Myfyrwyr NTF, Cyfadran Celf Prifysgol Warwick a Carl Sykes SFHEA, Uwch Dechnolegydd Dysgu CMALT ym Mhrifysgol De Cymru.

Byddwn yn ceisio rhannu storiâu llwyddiant cwsmeriaid ac enghreifftiau i ddangos sut y gall Vevox gefnogi amgylchedd dysgu cymysg a sut y gallwch amlhau ymgysylltiad, rhyngweithiad ac adborth myfyrwyr mewn lleoliad hybrid. Fe edrychwn ar y thema o amlbwrpasedd a pha mor bwysig yw hyn i allu darparu gwir brofiad dysgu cynhwysol.

Gallwch archebu lle ar-lein i fynychu’r gynhadledd: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/pagda2021

Mae ein rhaglen lawn ar-gael ar-lein.

Gallwch ddarllen mwy am Vevox, ein meddalwedd pleidleisio a brynwyd yn ddiweddar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/offerpleidleisio/

Vevox i Fyfyrwyr

Yn ystod y mis diwethaf, mae’r brifysgol wedi rhoi Vevox ar waith ac wedi dechrau hyfforddi staff i’w ddefnyddio. Mae Vevox yn cyfuno polau, arolygon a Chwestiwn ac Ateb mewn un meddalwedd rhyngweithiol a gellir ei integreiddio i Microsoft Teams a PowerPoint. Rydym yn falch o weld bod y staff eisoes yn defnyddio’r meddalwedd newydd wrth addysgu a hoffem eich annog fel myfyrwyr i wneud yr un fath.
Mae tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Vevox yn dod gyda Mewngofnodi Sengl, sy’n golygu y gall myfyrwyr fewngofnodi’n ddiogel gyda’u henw defnyddiwr a chyfrinair PA. Yn yr un modd ag y mae sawl ffordd y gall staff ddefnyddio Vevox, gallai fod yn declyn defnyddiol i fyfyrwyr hefyd.
Er enghraifft, gallai myfyrwyr ddefnyddio polau Vevox a’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb wrth gyflwyno mewn seminarau neu weithdai, yn arbennig mewn asesiadau sy’n cynnwys ymgysylltu â’r gynulleidfa fel maen prawf. Yn yr un modd, mae Vevox yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer ymchwil myfyrwyr, o ran dadansoddi a chwestiynu cynllun arolwg (e.e. drwy ddefnyddio arolygon sampl presennol Vevox), ac ar gyfer creu a chynnal eu harolygon eu hunain. Ymhellach, gellir defnyddio Vevox mewn gwaith grŵp, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gasglu syniadau ac annog mewnbwn amrywiol gan aelodau mwy tawel o’r grŵp. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar hyn o bryd, ble gall grwpiau o fyfyrwyr gynnwys aelodau o wahanol gartrefi.
Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut y gall myfyrwyr ddefnyddio Vevox wrth ddysgu ac rydym yn annog staff i hysbysu myfyrwyr y gallant hwy hefyd ddefnyddio’r feddalwedd yn rhad ac am ddim. Mae ein canllawiau Vevox yma (Cymraeg a Saesneg) a’n fideos Canllaw yma (Cymraeg a Saesneg). Mae’r Uned Dysgu ac Addysgu ar gael ynghyd â’r Tîm Vevox i’ch helpu ag unrhyw ymholiadau technegol a allai godi, gan roi cymorth i fyfyrwyr, cymorth nad yw ar gael wrth ddefnyddio meddalwedd eraill rhad ac am ddim.