Deunyddiau’r Gynhadledd Fer

Cyn y gwyliau, cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu eu cynhadledd fer olaf am y flwyddyn.

Defnyddio meddalwedd pleidleisio i gyfoethogi dysgu ac addysgu oedd thema’r gynhadledd. Os nad oedd modd ichi fod yno, mae recordiadau i’w cael ar we-ddalen y Gynhadledd Fer.

Ers i’r Brifysgol gaffael trwydded i feddalwedd pleidleisio Vevox yn gynharach eleni, gwelsom bod llu o gydweithwyr yn gwneud defnydd ohono. Yn semester 1, mae 136 o aelodau staff wedi cynnal 1873 pleidlais a chael 6485 o ymatebion gan fyfyrwyr.

Os hoffech wybod mwy am feddalwedd pleidleisio mae gennym we-ddalen Vevox sy’n rhoi’r holl ganllawiau. Arweiniodd Kate a Jim weminar i Vevox ynglŷn â’n dull o’i weithredu a dulliau cydweithwyr o’i ddefnyddio wrth addysgu. Fe welwch y recordiad ar YouTube, neu mae astudiaethau achos eraill i’w gweld ar wefan Vevox ei hun. Gallwch ddarllen am ddiweddariadau Vevox yn ein blogbost diweddar.

Dechreuodd y gynhadledd gyda sesiwn gan Dr Christina Stanley o Brifysgol Caer. Rhoddodd Christina olwg i ni ar y dulliau a ddefnyddiodd hi o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio i hybu hyder myfyrwyr a hyrwyddo cynhwysiant.

Nesaf, rhoddodd ein rheolwyr cleientiaid o Vevox, Joe Probert ac Izzy Whitley, ddiweddariad i ni ynglŷn â datblygiadau i feddalwedd pleidleisio Vevox sydd ar ddod a rhai gwelliannau i’r cynnyrch a fydd yn digwydd maes o law.

Yna bu cydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth yn disgrifio’u dulliau hwy o ddefnyddio pleidleisio wrth addysgu. Rhoddodd Dr Maire Gorman, sy’n dysgu yn Ysgol y Graddedigion a’r Adran Ffiseg, ddarlun cyffredinol i ni ynglŷn â’r defnydd y gellir ei wneud o’r feddalwedd pleidleisio wrth addysgu ystadegau, er mwyn hwyluso dysgu gan gymheiriaid a chreu cyswllt ymhlith a rhwng carfannau o gyfoedion.

Nesaf, dangosodd Bruce Fraser Wight, o’r Ysgol Fusnes, sut y bu’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer gweithgarwch i dorri’r iâ. Roeddem yn ddiolchgar i gael clywed gan ddau o fyfyrwyr Bruce ynglŷn â’u profiad o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio.

Yn olaf, amlinellodd Dr Jennifer Wood o’r Adran Ieithoedd Modern sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer dysgu iaith ac ennyn diddordeb myfyrwyr.

Os oes gennych ddulliau diddorol o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ar gyfer blogbost – anfonwch e-bost atom udda@aber.ac.uk.  

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*